Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Ionawr 2020.
Wel, ni chredaf fod y broblem dan sylw'n ymwneud ag un adran yn unig, ond mae gwaith gwella'n mynd rhagddo ar arweinyddiaeth gan gymheiriaid a chyfnewid rhwng y tair adran yng ngogledd Cymru. Cafwyd ymyrraeth allanol ar y cyd hefyd nid yn unig yn ystod y gaeaf diwethaf, ond y gaeaf hwn yn ogystal. Byddwch hefyd wedi gweld y camau rydym wedi'u cymryd, er enghraifft, gyda'r Groes Goch ac ymyrraeth fferylliaeth ym mhob un o'r adrannau achosion brys. Os edrychwch ar y—[Torri ar draws.]