– Senedd Cymru am 3:42 pm ar 15 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Leanne Wood.
Wayne Warren, töwr 57 oed o Dreherbert, oedd yr enillydd hynaf yn hanes pencampwriaeth dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain pan gurodd ei gyd-Gymro, Jim Williams, o 7-4 dros y penwythnos. Mae'r Rhondda eisoes wedi cynhyrchu pencampwr dartiau'r byd Sefydliad Dartiau Prydain yn Richie Burnett o Gwmparc, felly mae gennym ddau bellach.
Yn ôl yn 2001, credai Wayne na fyddai byth yn chwarae dartiau eto ar ôl dioddef llosgiadau i ran uchaf ei gorff a threulio 10 diwrnod mewn uned losgiadau mewn ysbyty. Bron i ddau ddegawd ar ôl y digwyddiad erchyll hwnnw, mae wedi cael ei goroni'n bencampwr byd. Mae defnydd Wayne o'r ddraig goch ar ei deithiau hedfan wedi sicrhau cydnabyddiaeth i'n gwlad yn ogystal ag i'r Rhondda.
Gall fod manteision i chwarae dartiau, gan gynnwys gwell cydlyniad rhwng y dwylo a'r llygaid, meddwl strategol a sgiliau mathemategol. Mae hefyd, wrth gwrs, yn esgus gwych i fynd allan o'r tŷ a chymdeithasu a chefnogi eich clwb neu eich tafarn leol.
Felly, hoffwn ddweud, 'Diolch yn fawr iawn, Wayne Warren', am ddangos yr hyn sy'n bosibl gyda phenderfyniad, ymroddiad ac uchelgais. Diolch hefyd i chwaraewyr dartiau eraill y Rhondda fel Richie Burnett, Alan Evans, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'The Rhondda Legend', a'r llu o bobl eraill sydd wedi dod â bri i'r Rhondda ac i Gymru drwy gyfrwng dartiau. Dartiau teidi.
Dyna lle'r oeddwn i, yn gwrando ar Stormzy ar argymhelliad Rhun ap Iorwerth, pan ddaeth artist mwy cyfarwydd i mi i sylw'r siartiau. Hoffwn longyfarch fy etholwr Dafydd Iwan am godi i frig siart iTunes gyda'i anthem eiconig 'Yma o Hyd'. Mae llwyddiant Dafydd yn briodas hapus rhwng yr hen rocar a mudiad ifanc ffyniannus YesCymru. Mae Dafydd yn rhannu'r un gwerthoedd â'r rhai a lwyddodd i'w ddyrchafu i rif un. Nid oes yna neb wedi bod cystal â Dafydd am warchod y winllan a'i throsglwyddo i ofal y genhedlaeth iau. Ar label Sain a recordiwyd 'Yma o Hyd' yn 1981, a chwmni o Landwrog yn etholaeth Arfon oedd yn gyfrifol am hynny, ac mae'n wych gweld cyfraniad Sain i'r sîn gerddorol yng Nghymru'n cael cydnabyddiaeth rhyngwladol. Mae'r cyhoeddusrwydd yma'n ragarweiniad amhrisiadwy a ninnau'n agosáu at Ddydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror, diwrnod pan fydd y Gymraeg a'i cherddoriaeth yn asio i hyrwyddo'n diwylliant. Ac er, efallai, na chlywn ni lawer o ganeuon protest mis nesaf, gallwn ni gymryd cysur fod geiriau 'Yma o Hyd' yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw bron i 40 mlynedd yn ôl.
Mae'r ail ddatganiad 90 eiliad heddiw yn sôn am chwaraewr dartiau Cymreig—pwy fyddai wedi meddwl? Byddai wedi bod yn ben blwydd ar Leighton Rees yn wyth deg y dydd Gwener hwn, 17 Ionawr. Ganwyd Leighton yn Ynys-y-bŵl, y pentref lle treuliodd lawer o'i oes. Ar ôl ysgol, bu'n gweithio i gwmni rhannau moduron, ac yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd chwarae dartiau. Roedd yn chwarae dros ei dafarn a'i sir yn rheolaidd, ac yna daeth yn enwog am chwarae'r gamp ar lwyfan ehangach yn y 1970au.
Roedd byd y teledu'n galw. Cymerodd ran ar raglen deledu Yorkshire TV, The Indoor League, yr unig chwaraewr i ennill yr elfen bencampwriaeth ddartiau ddwywaith. Yn wir, daeth y cystadleuydd o Ynys-y-bŵl, a gafodd ei lysenwi'n 'Marathon Man', mor enwog fel y bu iddo droi'n broffesiynol yn 1976. Yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd cyntaf Ffederasiwn Dartiau'r Byd ym 1977, roedd Leighton yn rhan o dîm llwyddiannus Cymru a gipiodd y wobr gyntaf. Hefyd, enillodd Leighton y bencampwriaeth i unigolion. Y flwyddyn ganlynol, bu'n llwyddiannus ym mhencampwriaeth dartiau proffesiynol byd-eang cyntaf Embassy yn Nottingham.
Ar ôl cael ei raddio'n gyntaf yn y byd, profodd ei yrfa rywfaint o ddirywiad, eto i gyd parhaodd Leighton i fod yn un o gystadleuwyr mwyaf poblogaidd y byd dartiau. Roedd ei ornestau'n arwain at arenâu llawn bron bob tro. Mwynhaodd lwyddiant ar raglen deledu Bullseye, ac mae'n cael ei gofio fel rhywun a helpodd i wneud dartiau'n adloniant poblogaidd ar y teledu, ac roedd yn ffigur lleol hoffus a mawr ei barch hefyd. Enwyd stryd, Leighton Rees Close yn Ynys-y-bŵl, ar ei ôl. Bu farw Leighton yn 2003 yn 63 mlwydd oed, ond mae'r cof am y 'Marathon Man' yn fyw o hyd.
Diolch.