Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 21 Ionawr 2020.
Dim ond ar y pwynt penodol yna, wrth gwrs, gwnaethom benderfyniad i roi'r math hwn o eitem ar wyneb y Bil o ran cyfraith rhoi organau, a oedd unwaith eto'n ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth a fyddai'n effeithio ar fywydau llawer o bobl. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cymryd ymagwedd debyg gyda hyn, o ystyried mai dyna safbwynt polisi'r Llywodraeth, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi bod yn dadlau yn gynharach heddiw y dylid rhoi safbwyntiau polisi ar wyneb Bil.