– Senedd Cymru am 5:40 pm ar 21 Ionawr 2020.
Rydym ni'n trafod yn gyntaf grŵp 1 o welliannau, ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am welliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflwyno'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 gyda'r farn, gan fod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth mor ddadleuol gydag effeithiau pellgyrhaeddol ar rieni cyffredin, sydd fel arall yn parchu'r gyfraith, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau â'i hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil. Unwaith eto, er gwaethaf bwriad y Bil i atal math penodol o ymddygiad, byddwn yn dadlau na allai goblygiadau posib dileu'r amddiffyniad o gosb resymol fod yn fwy arwyddocaol. Mae hyn yn gwneud rhieni yn agored i gosbau troseddol, yn hytrach na throseddau sifil llai, fel yn achos y gwaharddiad ar ysmygu, sy'n golygu, i rieni a theuluoedd, y gallai hyn arwain at gofnodion troseddol parhaol, difetha cyfleoedd cyflogaeth ac o bosib gwahanu. Felly, rhaid i ymwybyddiaeth gyhoeddus fod yn elfen ganolog o weithrediad y Bil.
Felly, gwelliannau 1 a 5: gan droi at welliant 1, yng Nghyfnod 2, sicrhaodd y Dirprwy Weinidog y pwyllgor y byddai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil, ac felly roedd hi'n credu nad oedd angen y gwelliant hwn. Nawr, os yw Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i adrodd ar effeithiolrwydd a goblygiadau'r Bil i'r Cynulliad, yna siawns nad yw ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ganolog i lwyddiant y Bil o ran newid ymddygiad a dylai'r Llywodraeth hefyd ei ystyried ar y cyd. Mae'n wir nad oes terfyn amser ar gyfer y gwelliant hwn, ond nid ydym yn disgwyl i hyn gael ei weithredu'n barhaus ac yn ddiddiwedd. Bwriad gwelliant 1 yw sicrhau bod y Cynulliad, wrth asesu a chael mewnbwn yng ngweithrediad y Bil, yn gallu dod i gasgliad ynghylch pa mor ymwybodol yw'r cyhoedd o oblygiadau'r Bil ac a oes angen i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol fynd ymhellach yn eu hymgyrchoedd eu hunain.
Yn ystod hynt Bil yr Alban, nododd rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol, ar wahân i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd adeg gweithredu'r ddeddfwriaeth, fod yn rhaid cydnabod hefyd, gan fod pobl yn dod yn rhieni drwy'r amser, bod rhaid cael ymrwymiad parhaus i ymgyrchu ynghylch ymwybyddiaeth. Mae hwn yn bwynt rhagorol mewn gwirionedd sy'n dangos yn glir yr angen am ymgyrch ymwybyddiaeth barhaus. Nid yw rhianta'n dod i ben adeg Cydsyniad Brenhinol Bil, ac nid yw'n dod i ben chwe blynedd yn ddiweddarach. Dirprwy Weinidog, credaf mai eich dyletswydd chi yw cael y cyhoedd yng Nghymru ar eich ochr chi, yn hytrach na chreu awyrgylch o elyniaeth ac ymwrthedd, ac mae ymwybyddiaeth gyhoeddus barhaus yn hanfodol er mwyn i chi gyrraedd y nod hwnnw.
Er i'r Bil hwn gael ei osod ger ein bron am flwyddyn fwy neu lai, mae'r adborth a gawsom yn hynod negyddol. Dangosodd ymgynghoriad y pwyllgor nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cefnogi'r Bil hwn. Dangosodd arolwg y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn erbyn y gwaharddiad, gyda sylwadau'n cynnwys y canlynol: 'Ni ddylai'r wladwriaeth ddweud wrth bobl sut i fod yn rhiant. Mae Deddfau ar waith eisoes', ac 'Nid oes angen gwneud rhieni'n droseddwyr. Mae effaith yr heddlu yn mynd â rhiant oddi ar blentyn yn cael mwy o effaith ar y plentyn na chaiff smacen fechan.'
Mae cryfder barn o'r fath yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy o waith i gael derbyniad i'r syniad hwn y tu allan, wrth gwrs, i'r cylchoedd proffesiynol arferol.
Mae gwelliant 5 yn ymestyn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth i ymwelwyr â Chymru. Yng Nghyfnod 2, fe wnes i amlinellu, er i brif erlynydd y Goron ddweud, nid yw anwybodaeth ynghylch y gyfraith yn amddiffyniad, y byddai mwy o achosion yng Nghymru yn pasio'r cam tystiolaethol nag yn Lloegr, gan godi materion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o droseddu ymhlith pobl o Loegr sy'n teithio i Gymru. At hynny, er fy mod yn croesawu'n fawr ohebiaeth y Dirprwy Weinidog â'r grŵp gweithredu strategol a'i hymrwymiad i ystyried codi ymwybyddiaeth ymwelwyr â Chymru, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n ateb cwestiwn o bryder a godais yng Nghyfnod 2. Yn fy araith i'r pwyllgor, holais y Dirprwy Weinidog am y dewisiadau y bydd yn eu hystyried gyda'r grŵp gweithredu strategol, yn benodol ynghylch ymwelwyr â Chymru. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i ystyried y gwelliant hwn yn ofalus a chefnogi'r ystyr y tu ôl iddo, fel nad yw rhieni yn y dyfodol yn cael eu rhoi dan anfantais gan y Bil hwn.
Gwelliant 2. Wrth siarad am welliant 2, mae hwn yn ymwneud â gwybodaeth sydd ar gael i rieni am ddewisiadau eraill heblaw cosb gorfforol. Addawodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n sicrhau bod grwpiau sy'n anos eu cyrraedd yn cael yr wybodaeth hon, ond credwn y byddai dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am ddewisiadau amgen i gosb gorfforol yn gwarantu cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth lwyddiannus.
Felly, cefais fy siomi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwrthod fy nadleuon yng Nghyfnod 2. Anghytunaf â'i dadleuon ei hun a gyflwynwyd sef y byddai meddylfryd y grŵp arbenigwyr rhianta am ymgyrchoedd yn y dyfodol yn cael ei gyfyngu gan y gwelliant hwn. Sut? Bwriedir i hyn fod yn adeiladol ac mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw grŵp arbenigol neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn anghytuno â'r angen i ddangos i rieni y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, fel nad ydynt yn defnyddio cosb gorfforol.
Yn ystod y dystiolaeth, cododd rhanddeiliaid bryderon dwys ynghylch grwpiau o rieni a allai fod yn llawer anos eu cyrraedd. Clywsom hefyd fod pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo' yn druenus o annigonol, yn methu â chyrraedd croestoriad hanfodol o gymdeithas Cymru oherwydd ei fod ar gael ar-lein yn unig. Gyda'r gwelliant hwn, nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar rai grwpiau o rieni, Dirprwy Weinidog; rydym ni eisiau cynnwys pawb. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol diweddaraf wedi dweud bod ystod oedran 'Magu plant. Rhowch amser iddo', yn cael ei ehangu ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dynodwyd oddeutu £30,000 mewn gwirionedd i ddatblygu adnoddau newydd. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae hyn yn mynd yn ei flaen ac a yw'r dulliau ar gael nawr i bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd?
Yn olaf, mae'n rhaid imi bwysleisio wrth yr Aelodau yma heddiw nad yw'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau Bil cyfyngedig mwy cymhleth, ond rydym eisiau rhywfaint o fewnbwn fel Senedd i'r modd y sicrheir yr ymwybyddiaeth o waharddiad ar smacio. Deddf y Cynulliad fydd hon, nid Llywodraeth Cymru, os caiff ei phasio yng Nghyfnod 4. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog ac Aelodau i ystyried sut yr eglurwn i'n hetholwyr ledled Cymru ynghylch sut y byddant yn codi ymwybyddiaeth rhieni o oblygiadau'r Bil.
Gan droi at welliant 3, o ran gwelliant 3, mae hwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybodaeth am yr hyn y gallant ei wneud os gwelant rywbeth. Credaf nad yw geiriau ailadroddus y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 yn dweud fod diogelu yn fusnes i bawb yn lleddfu ein pryderon. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod aelodau'r cyhoedd yn ddigon hyderus i deimlo eu bod nhw wedi barnu sefyllfa arbennig yn gywir. A barnu yw'r gair allweddol yma. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb fod yn ddigon medrus i weld y byddai digwyddiad yn bendant angen ymyrraeth yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Dim ond ar ôl ymweliad gan yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol y gellid penderfynu ar y cyd-destun. Erbyn hynny, wrth gwrs, gallai'r difrod fod wedi ei wneud eisoes.
Yn eu tystiolaeth, roedd Conffederasiwn GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn pryderu nad yw memorandwm esboniadol y Bil yn rhoi digon o eglurder ynghylch y diffiniad o ymddygiad derbyniol ar ôl cael gwared ar yr amddiffyniad, a allai arwain at fwy o atgyfeiriadau. Felly, rwy'n credu felly bod angen i'r Dirprwy Weinidog ail-ystyried ei sylwadau blaenorol mai cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud yr hyn y mae'n credu sy'n briodol yn y sefyllfa honno, oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, osgoi cyfrifoldeb yw hynny. Nid oedd yr atebion a gawsom ni yng Nghyfnod 2 yn fy sicrhau y byddai unigolion yn ddigon hyderus i wybod beth i'w wneud pe byddent yn gweld neu'n clywed fod plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol. Os yw'r Dirprwy Weinidog o'r farn mai penderfyniad yr unigolyn ydyw, yna mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gwbl ymwybodol a ddylent fod yn gwneud hynny ai peidio, ac a ydynt yn gwneud pethau'n well neu'n waeth i'r plentyn. Fel arall, os nad yw hyn yn wir, dylai Llywodraeth Cymru egluro, os caiff amddiffyniad cosb resymol ei ddileu, na ellir amddiffyn cosb gorfforol mewn cyfraith droseddol. Felly, byddai'n rhaid i'r cyhoedd ei adrodd ni waeth beth fo'r amgylchiadau. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn yn ofalus iawn a chefnogi ein gwelliant.
Gwelliant 4: Rwyf wedi ail-gyflwyno gwelliant 4 gan fy mod yn teimlo na chawsom ni ymateb llawn na boddhaol gan y Dirprwy Weinidog ynghylch hybu ymwybyddiaeth o'r gwaharddiad ar smacio ymhlith plant eu hunain a phobl ifanc. Er fy mod i yn parchu addewidion y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2, af yn ôl at y pwynt bod y gwelliant hwn yn seiliedig ar argymhelliad gan y pwyllgor. Beth yw diben cael pwyllgorau os anwybyddwn eu hargymhellion? Y rheswm am hyn oedd nad oeddem yn fodlon ar atebion y Dirprwy Weinidog o ran sut y cai'r gwaharddiad ar smacio ei ddysgu yn y cwricwlwm newydd. Ni allaf dderbyn y byddai amcanion y Bil ond yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Mae arnom ni angen ymateb clir gan y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Addysg ynghylch sut y mae hyn yn mynd i weithio. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhagflaenu deddfwriaeth y cwricwlwm, felly ni allwn ni fod yn sicr y bydd yn cael ei chynnwys ym mhob ysgol. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog hefyd na fyddai'r cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio i fanylu ar restrau manwl o bynciau ar gyfer athrawon, felly gallai hyn olygu bod y gwersi ymwybyddiaeth yn amrywio o ysgol i ysgol, gan arwain o bosib at wybodaeth dameidiog o'r gyfraith a'i goblygiadau.
Croesawaf y memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru ac sy'n esbonio bod gwaith yn cael ei wneud i ystyried amcanion y ddeddfwriaeth wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, ond mae yn nodi bod ymarferwyr sy'n datblygu'r meysydd dysgu a phrofiad yn dal i ddarllen yr adborth ac yn ystyried sut y gellir mireinio'r canllawiau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, yn ogystal ag amserlen er mwyn i'r Cynulliad gael gweld y canllawiau hyn.
Yn ystod trafodaethau Cyfnod 2, ni wnaeth y Dirprwy Weinidog ymateb i'm cwestiynau penodol yn llwyr, felly byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Dirprwy Weinidog yn ateb y canlynol heddiw: Dirprwy Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Addysg i ymgorffori addysgu unffurf ar wahardd smacio yn y cwricwlwm newydd? Hefyd, a wnewch chi roi gwybod sut y dysgir plant mewn modd cytbwys am y gwaharddiad ar smacio? A hefyd, sut mae'r Dirprwy Weinidog yn mynd i'r afael â'r risgiau a wynebir gan blant iau nad ydynt yn gallu mynegi eu pryderon? Ac wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu cynnwys yn asesiad y Bil o'r effaith ar gydraddoldeb. O gofio bod y Dirprwy Weinidog yn ceisio amddiffyn hawliau'r plentyn drwy'r Bil hwn, mae'n briodol i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod sut y caiff plant eu hunain eu haddysgu yn y dyfodol. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi'r gwelliant hwn.
Gan ddod â'r gyfres hon o welliannau ar godi ymwybyddiaeth i ben, hoffwn orffen gyda'r sylw hwn, a wnaed mor fedrus gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC yng Nghyfnod 2. Dywedodd, oni bai fod rhai o'r gwelliannau hyn yn cael eu derbyn gan Aelodau o Senedd Cymru, y sefyllfa gyda'r Bil hwn yw na fydd gennym ni ronyn o ddylanwad dros gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Felly, anogaf yr Aelodau i ystyried y gwelliannau hyn yn ofalus cyn bwrw eu pleidlais. Diolch.
Codaf i siarad yn y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian, sydd yn anffodus yn sâl ac yn methu bod gyda ni heddiw. Ond rwyf hefyd yn codi fel unigolyn sydd wedi ymgyrchu dros 25 mlynedd i sicrhau'r newid hwn. Ac mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater a drafodwyd droeon yn y Cynulliad hwn, ymhell cyn inni gael y pŵer, ac yr oedd yr ewyllys yno. Wel, nawr mae gennym yr ewyllys a'r pŵer.
Siaradaf am y grŵp hwn o welliannau ac yna sôn yn fyr am safbwynt ein grŵp ar y lleill, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol byr i ddechrau. Nid yw hyn yn golygu gwneud newid dramatig yn y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'n amhosib i deulu ddefnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol os yw plentyn wedi'i daro a bod marc wedi'i adael. Mae hon yn gyfraith anodd iawn i'w gorfodi, oherwydd bod pobl yn wahanol o ran sensitifrwydd. Rwy'n digwydd bod yn un sy'n cleisio'n hawdd iawn, felly pe bai fy rhieni wedi rhoi smacen imi, byddent wedi mynd i lawer mwy o drafferthion na phe bai nhw wedi rhoi smacen i fy mrawd mawr nad yw byth yn dangos marc nac yn cleisio o gwbl. Felly, mewn gwirionedd mae'n anodd iawn i rieni wybod beth sy'n cael ei ganiatáu o dan y gyfraith bresennol.
Nid ydym yn y ddadl hon ychwaith yn awgrymu chwyldro mewn arferion rhianta, oherwydd y gwir amdani yw bod yr holl arolygon barn a'r holl ymchwil bellach yn awgrymu mai dim ond lleiafrif o rieni sy'n parhau i ddefnyddio cosb gorfforol, a bod y rhan fwyaf o'r rhai sy'n gwneud hynny, pan fyddant yn cael eu holi amdano, yn dweud eu bod yn gwneud hynny yn eu tymer, eu bod yn difaru, a dydyn nhw ddim mewn gwirionedd yn credu ei fod wedi dysgu fawr ddim i'r plant.
Felly, er fy mod yn derbyn bod gan yr Aelodau gyferbyn rai pryderon gwirioneddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn eu gwyntyllu ac yn eu trafod, rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen i ni ddeall, er bod y newid y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig drwy'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig, nid yw mor fawr ag y mae rhai ohonom ni efallai yn teimlo ei fod ef.
Rwy'n deall, wrth droi at y grŵp hwn o welliannau, fod angen gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o newid yn y gyfraith. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod ymrwymiad y Llywodraeth ar hyn yn sylweddol. Dydym ni ddim fel arfer yn cael ymgyrchoedd gwybodaeth enfawr i'r cyhoedd pan fyddwn ni'n newid y gyfraith. Rydym yn disgwyl i bobl wybod bod y gyfraith wedi newid. Ond pan fyddwn ni weithiau'n cynnig newid sy'n cael dylanwad mawr ar arferion pobl, o bosib, yna mae'n briodol eu gwneud yn ymwybodol o'r newid. Ond dydw i ddim yn credu mai wyneb y Bil yw'r lle priodol ar gyfer hyn. Dydym ni ddim fel arfer yn rhoi'r mathau hyn o bethau ar wyneb Bil. [Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs.
Dim ond ar y pwynt penodol yna, wrth gwrs, gwnaethom benderfyniad i roi'r math hwn o eitem ar wyneb y Bil o ran cyfraith rhoi organau, a oedd unwaith eto'n ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth a fyddai'n effeithio ar fywydau llawer o bobl. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cymryd ymagwedd debyg gyda hyn, o ystyried mai dyna safbwynt polisi'r Llywodraeth, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi bod yn dadlau yn gynharach heddiw y dylid rhoi safbwyntiau polisi ar wyneb Bil.
Gallech ddilyn y trywydd yna. Byddwn i'n dadlau bod y newid yn y gyfraith ar roi organau mewn gwirionedd yn llawer mwy o ran ei ddylanwad ar arferion pobl na hyn. Ond wedi dweud hynny, mae'r Llywodraeth—os edrychwn ni ar y dystiolaeth, ac mae'r darn mwyaf diamwys o dystiolaeth yn y gyllideb. Mae gennym ni ddywediad yn Gymraeg, 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Ac mae'r Llywodraeth yn ymrwymo, yng nghyllideb ddrafft eleni, i ymgyrch £600,000 i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n ymwybodol, ac rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gwybodaeth yn hyn o beth, eu bod yn ymgynghori â grwpiau ffocws, gyda phobl o gymunedau lleiafrifol, pobl o grwpiau ffydd, i sicrhau bod y negeseuon yn cael eu cyfleu yn y ffordd fwyaf priodol i bob rhiant a allai fod eu hangen. Nid wyf yn gweld yr anghenraid, felly, i'w gael ar wyneb y Ddeddf. Byddwn, yn fy nghyfraniad yma, yn gofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd inni, wrth gwrs, y bydd yr wybodaeth hon ar gael yn ddwyieithog, ond byddwn yn erfyn ar i'r dyluniad fod yn ddwyieithog o'r dechrau, ac i'r wybodaeth yn y Gymraeg fod yn fwy na chyfieithiad o'r wybodaeth Saesneg yn unig, dim ond oherwydd bod hynny'n eithaf lletchwith fel arfer.
Rhaid imi ddweud, Llywydd, pan gyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb yng Ngweriniaeth Iwerddon, nid oedd y Llywodraeth yno'n teimlo bod angen gwneud unrhyw fath o godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, gan fod y ddadl wedi cael sylw helaeth yn y wasg, ac roedd pawb yn ymwybodol o'r newid yn y gyfraith. O'm safbwynt personol i, gallaf feddwl am bethau eraill y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth eu gwneud gyda'u £600,000, ond credaf y dylai'r meinciau gyferbyn gydnabod yr ymrwymiad y mae'r Gweinidog yn ei ddangos yn hyn o beth.
Trof yn fyr at y grwpiau eraill o welliannau, er y dychwelaf atynt ar yr adeg briodol. Grŵp 2, am ofynion adrodd, unwaith eto, credaf fod y Llywodraeth yn hael wrth gytuno i dderbyn hyn; nid yw'n arferol, o anghenraid, gosod ar wyneb deddfwriaeth ddwy amserlen wahanol ar gyfer adrodd yn ôl, ond credaf, wrth wneud hynny, fod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod bod pryderon gwirioneddol, a bod angen inni sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio'n effeithiol ac nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Eto, grŵp 3, mewn cysylltiad â chyllid digonol, wel, byddwn yn dweud, ac rwy'n credu mai dyma safbwynt y Llywodraeth, ei bod hi'n annhebygol y bydd llawer mwy o gostau, oherwydd ni fyddwn yn gweld lluoedd a lluoedd o rieni'n mynd drwy systemau na fyddent fel arall yn mynd trwyddyn nhw, ond os oes costau ychwanegol, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r cyrff cyhoeddus priodol gwrdd â'r rheini, ac, unwaith eto, nid ydym yn gweld yr angen i roi hyn ar wyneb y Bil.
Mae'r gwelliant yng ngrŵp 4 yn ddiangen, oherwydd, wrth gwrs, gall y Cynulliad hwn bob amser ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth os bydd y mwyafrif ohonom yn penderfynu ei bod yn amhriodol.
Ac o ran y pumed grŵp o welliannau, gwelliant 10, effaith y gwelliant hwn, pe baem yn ei basio, fyddai rhoi yn nwylo cyrff sydd heb eu datganoli—er cymaint y byddem yn dymuno i'r cyrff cyfiawnder troseddol hyn gael eu datganoli, byddai'n rhoi yn nwylo'r cyrff sydd heb eu datganoli y pŵer i benderfynu pryd neu a ddylid gweithredu'r darn hwn o ddeddfwriaeth.
Nawr, mae'n fater, Llywydd, i'r Siambr hon, ac nid i mi ei ddweud efallai, a yw hyn yn fwriadol ar ran y Ceidwadwyr—rydym ni wedi gweld enghreifftiau ohonynt yn ymddangos fel petaen nhw eisiau dadwneud datganoli. Mae'r materion hyn, Llywydd, yn amlwg wedi'u datganoli, a dyna sut y dylent aros. Wrth gwrs, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gyd-drafod â'r cyrff cyfiawnder troseddol priodol nad ydynt wedi'u datganoli a chyda'r heddlu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu'n briodol; nid yw hi'n briodol caniatáu i'r Swyddfa Gartref benderfynu a gaiff ei gweithredu o gwbl.
Llywydd, edrychaf ymlaen at weddill y ddadl hon.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y Bil hwn, ac i'r Aelodau am ystyried y ddeddfwriaeth bwysig iawn hon?
Mae'r Bil hwn yn un syml, gyda diben clir iawn: ei nod yw dileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'n dileu'r amddiffyniad i drosedd sy'n bodoli eisoes, nid yw'n creu trosedd newydd, ac mae'n ceisio rhoi'r un maint o amddiffyniad i blant rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Rwyf wedi ystyried yn ofalus gwelliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i godi ymwybyddiaeth. Fel y gwyddoch chi, mae'r Bil eisoes yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i godi ymwybyddiaeth, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny. Mae gwelliant 1 yn cyflwyno cyfeiriad at ddealltwriaeth y cyhoedd, a chredaf—yn fy marn i—nad yw'n ychwanegu dim at y Bil.
Bydd codi ymwybyddiaeth yn un agwedd ar ein hymdrechion i roi gwybod i'r cyhoedd, gan gynnwys rhieni, am y newid yn y gyfraith. Rydym ni eisoes yn darparu pecyn cymorth eang i rieni, sy'n cynnwys 'Magu Plant. Rhowch amser iddo' yn ogystal â Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'n gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol. Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy'n darparu'r gwasanaethau wyneb yn wyneb hyn i rieni, gan gynnwys drwy ein grŵp gweithredu arbenigol ar rianta, sydd wedi'i sefydlu yn rhan o'n grŵp gweithredu. Mae'n amlwg bod ganddynt swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o'r newid yn y gyfraith a sut y gallant ddefnyddio dulliau cadarnhaol o reoli ymddygiad.
Mae ein strategaeth gyfathrebu yn cynnwys ymarfer cynhwysfawr i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a fydd yn digwydd cyn gweithredu'r strategaeth. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyflwynodd Janet Finch-Saunders y cynnig hwn am ddyletswydd codi ymwybyddiaeth benagored, ac fe'i trafodwyd a'i wrthod yng Nghyfnod 2, ac nid yw fy marn ynghylch hynny wedi newid.
Ond gadewch imi eich sicrhau, os caiff y gyfraith hon ei phasio, y bydd y negeseuon am y newid yn y gyfraith yn cael eu hymgorffori'n llwyr i'r ohebiaeth y mae rhieni yn ei chael gan weithwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill ac mewn ystod eang o adnoddau rhianta, gan gynnwys yr adnoddau gwybodaeth newydd i rieni sy'n disodli 'Bwmp, Babi a Thu Hwnt', a roddir i bob menyw feichiog a rhieni newydd.
Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth, a diolchaf i Helen Mary Jones am ei sylwadau. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth ac wedi cytuno i ymgyrch codi ymwybyddiaeth amlwg a phenodol. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yr ymgyrch yn para am o leiaf chwe blynedd a bydd yn cael ei fireinio yn seiliedig ar ymchwil reolaidd, gan gynnwys graddau ymwybyddiaeth a newidiadau mewn agwedd. Felly, yn fy marn i, nid oes angen dyletswydd barhaus sy'n cyfeirio'n benodol at y newid yn y gyfraith.
Mae'r memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru yn nodi ein cynlluniau i godi ymwybyddiaeth gyda phlant, gan gynnwys ein bwriad i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl ifanc. Yn yr un modd, gan nodi'n benodol y pynciau y mae angen ymdrin â hwy yn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a awgrymir yng ngwelliannau 2 a 3, nid wyf yn credu bod hynny ar gyfer wyneb y Bil. Fodd bynnag, gadewch imi eich sicrhau, y mae cynllun clir a fydd yn sicrhau bod yr ymgyrch yn effeithiol ac yn cael ei gwerthuso'n briodol.
Hefyd, na foed i ni anghofio'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ym mhob awdurdod lleol, ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo', a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni, ac maen nhw eisoes yn cyfeirio rhieni i'r cymorth sydd ar gael.
Mae'r holl faterion hyn yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu arbenigol ar rianta ac ni ddylid cyfyngu ar eu syniadau mewn unrhyw fodd gan fanylebau ar wyneb y Bil. Mae gennym ni ddyletswydd i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, ond nid wyf yn credu bod angen yr holl fanylion hyn arnom ni ar wyneb y Bil.
Nid yw'r Bil hwn yn creu trosedd newydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n gwneud synnwyr i gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud hi'n ofynnol darparu gwybodaeth am sut y gall unigolyn godi pryderon os yw'n ymddangos iddynt fod plentyn wedi cael ei gosbi'n gorfforol. Ac rwy'n ailadrodd: mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Fel ar hyn o bryd, mae gan y cyhoedd ran i'w chwarae wrth dynnu sylw at wasanaethau perthnasol os ydynt yn pryderu am blentyn. Nid yw'r Bil hwn yn newid hynny.
Yn fy marn i, nid yw'n ddefnyddiol tynnu sylw at agweddau penodol ar godi ymwybyddiaeth ar draul rhai eraill. Credaf y dylai fod hyblygrwydd i addasu a theilwra'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys ystyried gwaith ymchwil sy'n mynd rhagddo, a bydd gwerthuso yn rhan annatod o'r ymgyrch hon. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dod o hyd i'r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau gan y bydd angen iddynt i gyd fod yn ymwybodol o'r newid hwn yn y gyfraith. Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth: bydd yr wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adnoddau a ddarperir i rieni yn rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y caiff yr holl wybodaeth hon ei lledaenu'n eang iawn. Dydw i ddim yn credu bod angen tynnu sylw grwpiau penodol, fel ymwelwyr â Chymru. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn ein holl ohebiaeth. Yn wir, rwy'n gwybod y bu aelodau'r Senedd yn mynegi barn mewn erthyglau mewn gwahanol rannau o'r wasg, ac rwy'n credu bod hynny'n dda iawn, oherwydd ei fod hefyd yn tynnu sylw at hyn.
Rwyf eisoes wedi dweud ein bod yn estyn allan at grwpiau anodd eu cyrraedd, a soniodd Janet Finch-Saunders am y rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwybodaeth mewn trafodaethau wyneb yn wyneb, cymorth ac mewn deunydd printiedig. Rwyf yn credu bod angen i ni ymddiried yn y cyhoedd, fel y gwnawn ni ar hyn o bryd. Ac mae pobl yn gwneud penderfyniadau nawr ynghylch a ddylid codi pryderon gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn sicrhau bod rhieni'n cael eu cyfeirio at leoedd y gallant gael cymorth, cefnogaeth a chyngor ar rianta cadarnhaol, a dyma'r hyn yr ydym yn ei ddatblygu gyda'r grŵp gweithredu.
Mae gennym ni ymrwymiad a brwdfrydedd gwych yn y grwpiau gweithredu. Ni allaf feddwl mewn gwirionedd am waith mwy ymdrechgar y mae ein swyddogion yn ei wneud, gan—[torri ar draws.] Iawn, yn sicr.
Rwy'n gwrando arnoch chi yna yn sôn am amddiffyn plant, ac rwyf wedi bod yn dweud—gannoedd o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol, yn y Siambr hon—fod plant yn honni eu bod yn cael eu cam-drin yn ddifrifol mewn cartrefi gofal preifat yng Nghymru ac nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Felly, rydym yn trafod hyn yn awr—pa un a yw hynny'n rhywbeth troseddol ai peidio. Rwy'n cael gwybod gan blant eu hunain, mewn gwirionedd, rhai ohonynt sydd wedi gadael gofal, y buont yn dioddef ymosodiadau mewn gofal ac nad oes dim yn cael ei wneud. Mae pawb bron yn dawel yn y Siambr hon, ac rydym ni'n trafod hynny.
Rydym yn trafod cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yma heddiw, ac os gallaf fynd ymlaen dim ond i wneud sylwadau ar y cwricwlwm newydd, mae canllawiau'r cwricwlwm yn glir: dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r ystod o hawliau cyfreithiol ac amddiffyniadau sydd ganddyn nhw. Byddwn yn sicrhau bod hynny'n digwydd wrth i'r cwricwlwm gael ei ddatblygu.
Felly, anogaf yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, gan nad wyf yn credu eu bod yn ddefnyddiol o ran yr hyn y mae angen i'r ddyletswydd codi ymwybyddiaeth, sy'n bodoli eisoes, ei sicrhau.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Os caf ddweud ar y dechrau, cyn imi ddechrau fy rhan nesaf, rwy'n ceisio bod o gymorth. Mae hyn yn mynd i basio; gwyddom eisoes lle mae'r pleidleisiau heddiw o ran Llafur a Phlaid Cymru. Fodd bynnag, rhan o'm swyddogaeth yn Aelod Cynulliad wrth graffu yw herio hefyd, ac rwyf fi, yn fy ffordd fy hun, yn ceisio bod o gymorth.
Nawr, nid yw'r hyn yr wyf yn gofyn amdano yn amhriodol. Mae enghreifftiau o ddyletswydd benagored o ran ymwybyddiaeth i'w gweld yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a'r dyletswyddau a roddir ar y cyrff iechyd ac awdurdodau lleol i hybu ymwybyddiaeth o'r corff llais dinasyddion arfaethedig. Nid oes dim i awgrymu bod hyn yn gyfyngedig o ran amser. Felly, nid oes rheswm pam na ellid bod wedi ymdrin â'r Bil hwn yn y ffordd honno mewn gwirionedd.
Rwy'n dal i gredu bod ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol. Yn Seland Newydd, canfu arolwg cenedlaethol fod hanner pobl Seland Newydd yn credu bod cyfraith 2007 yn erbyn taro plant wedi achosi dirywiad mewn disgyblaeth. Mae bron i 40 y cant o famau plant ifanc yn dweud eu bod wedi taro eu plentyn er gwaetha'r newid yn y gyfraith, ac roedd pôl piniwn Ymchwil y Farchnad Curia o 1,000 o ymatebwyr a holwyd eu barn ddechrau mis Rhagfyr hefyd wedi canfod bod teuluoedd incwm isel—63 y cant—yn llawer mwy tebygol o herio'r gyfraith. Dywedodd 70 y cant na fyddent yn rhoi gwybod am riant a welsant yn taro plentyn ar ei ben-ôl neu ar ei law, tra byddai 20 y cant yn gwneud hynny. Dywedodd 22 y cant o rieni â phlant ifanc fod eu plentyn wedi bygwth rhoi gwybod i'r awdurdodau pe baent yn cael eu taro. Dywedodd 15 y cant o rieni â phlant ifanc eu bod yn ymwybodol o deulu y cafodd y gyfraith effaith negyddol arnyn nhw, a dywedodd 17 y cant o rieni â phlant ifanc fod y gyfraith wedi eu gwneud yn llai hyderus fel rhieni; 21 y cant o dadau.
Felly, dyna fy marn i, y gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi—. Ni allaf weld, yn fy meddwl fy hun—ac mae aelodau o'r cyhoedd wedi gofyn imi, pam y byddai yna unrhyw dawedogrwydd, ac os yw'r gyfraith hon yn mynd i gael ei chyflwyno, pam na fyddech chi mewn gwirionedd eisiau gwneud yr ymgyrch ymwybyddiaeth mor gryf ag y gallai fod, a thrwy hynny, rwy'n golygu ei rhoi ar wyneb y Bil.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n symud i'r bleidlais, felly, ac yn agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 2.
A ydych chi'n cynnig?
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n agor y bleidlais, felly, ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 3.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Janet Finch-Saunders, gwelliant 4.
Cynigiaf.
Mae gwelliant 4 wedi ei symud. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.
Gwelliant 5—Janet Finch-Saunders.
Cynigiaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 5. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.