Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 22 Ionawr 2020.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw gan y Dirprwy Weinidog. Rwyf eisoes wedi codi'r sefyllfa sy'n wynebu pobl Mynachlog-ddu yn fy etholaeth, sydd, yn anffodus, yn cael gwasanaeth band eang araf ac ysbeidiol, ynghyd â thechnoleg segur lle mae gwifrau'n hongian ar bolion i bob pwrpas. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, ar hyn o bryd, Sir Benfro yw’r ugeinfed o'r 22 awdurdod lleol o ran nifer y safleoedd yng Nghymru lle mae gweithredwyr seilwaith band eang yn bresennol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa band eang gwledig gwerth £10 miliwn yn ddiweddar. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n bwriadu sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd siroedd fel Sir Benfro, a phryd y bydd yr arian mawr ei angen hwnnw'n cael ei ddarparu fel y gall cymunedau fel Mynachlog-ddu fod yn hyderus fod eu sefyllfa'n cael sylw?