Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 22 Ionawr 2020.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n cydymdeimlo â phobl Mynachlog-ddu, oherwydd yn amlwg, mae hwn yn gysylltedd hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno bellach. Ond ailadroddaf eto wrth yr Aelod nad yw hwn yn fater datganoledig. Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb arweiniol am gysylltu pobl drwy bolisïau telathrebu, ac mae hwn yn faes lle dylent fod yn arwain, ac maent wedi methu arwain. Nawr, oherwydd y methiant hwnnw, rydym wedi camu i'r adwy yn eu lle, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae 95 y cant o bobl yng Nghymru bellach wedi'u cysylltu â chynlluniau band eang cyflym iawn, ac rydym wedi dargyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i'r maes hwn sydd heb ei ddatganoli oherwydd methiant y farchnad a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Mae cyfanswm o oddeutu £200 miliwn wedi'i wario.
Felly, rwy'n blino ar gael llythyrau gan ASau Ceidwadol yn arbennig, yn gofyn beth arall y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn, er bod hyn yn gyfrifoldeb i'w Llywodraeth eu hunain nad ydynt wedi'i gyflawni. Rwy'n sylweddoli nad dyna'r ateb y mae'r Aelod yn chwilio amdano, ond mae'n wirionedd y mae'n rhaid iddo ei wynebu.
Cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun gyda'r cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros yr economi yn Sir Benfro, ac yn amlwg, mae'r awdurdod lleol yn chwarae rhan weithredol iawn, ac rwy’n eu canmol am hynny. Maent bellach wedi penodi tîm digidol, fel y mae Sir Gaerfyrddin wedi’i wneud, ac rwy’n canmol hynny. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynnig am £4 miliwn drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol i gysylltu 80 o safleoedd sector cyhoeddus, y dylent allu eu rhannu wedyn i gysylltiadau preifat. Ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallant gydgrynhoi'r talebau sydd ar gael drwy greu 88 parth a all gysylltu aelwydydd ymhellach.
Fel y nododd Paul Davies, rwyf wedi cyhoeddi cronfa gwerth £10 miliwn, sy'n edrych yn benodol ar ddulliau anghonfensiynol o gyflawni hyn, oherwydd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, mae darparu cysylltiad ffeibr llawn yn uniongyrchol i safleoedd, i dai, gyda llawer ohonynt heb eu cysylltu â charthffosiaeth neu nwy o’r prif gyflenwad, yn anodd, yn enwedig os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ymyrryd. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, fe wnaeth Boris Johnson addewidion mawr ynglŷn â hyn, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion amdanynt, gan ei fod yn llygad ei le yn dweud bod hwn yn faes o seilwaith digidol y mae taer angen mwy o sylw iddo.
Ond mae'r gronfa £10 miliwn yn cael ei chydgynhyrchu gyda'r awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Benfro. Rydym yn gobeithio cael y cynigion hynny erbyn mis Ebrill i ddechrau gwario'r arian hwnnw, ac i edrych i weld sut y gallwn gysylltu'r bobl hynny sydd eto i elwa o'r ymyrraeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru pan fethodd Llywodraeth y DU â gweithredu.