1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau band eang yng ngorllewin Cymru? OAQ54942
Drwy Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu band eang ar gyflymder cyfartalog o 82 Mbps i dros 111,350 o safleoedd ledled gorllewin Cymru, gan fuddsoddi dros £32.3 miliwn. Bydd ein cynllun olynol yn darparu cysylltedd i 1,348 o safleoedd eraill, ynghyd â chefnogaeth gan Allwedd Band Eang Cymru a'r Cynllun Talebau Band Eang Gigabid. Ac mae cronfa gymunedol newydd yn cael ei datblygu hefyd.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw gan y Dirprwy Weinidog. Rwyf eisoes wedi codi'r sefyllfa sy'n wynebu pobl Mynachlog-ddu yn fy etholaeth, sydd, yn anffodus, yn cael gwasanaeth band eang araf ac ysbeidiol, ynghyd â thechnoleg segur lle mae gwifrau'n hongian ar bolion i bob pwrpas. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, ar hyn o bryd, Sir Benfro yw’r ugeinfed o'r 22 awdurdod lleol o ran nifer y safleoedd yng Nghymru lle mae gweithredwyr seilwaith band eang yn bresennol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa band eang gwledig gwerth £10 miliwn yn ddiweddar. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n bwriadu sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd siroedd fel Sir Benfro, a phryd y bydd yr arian mawr ei angen hwnnw'n cael ei ddarparu fel y gall cymunedau fel Mynachlog-ddu fod yn hyderus fod eu sefyllfa'n cael sylw?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n cydymdeimlo â phobl Mynachlog-ddu, oherwydd yn amlwg, mae hwn yn gysylltedd hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno bellach. Ond ailadroddaf eto wrth yr Aelod nad yw hwn yn fater datganoledig. Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb arweiniol am gysylltu pobl drwy bolisïau telathrebu, ac mae hwn yn faes lle dylent fod yn arwain, ac maent wedi methu arwain. Nawr, oherwydd y methiant hwnnw, rydym wedi camu i'r adwy yn eu lle, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae 95 y cant o bobl yng Nghymru bellach wedi'u cysylltu â chynlluniau band eang cyflym iawn, ac rydym wedi dargyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i'r maes hwn sydd heb ei ddatganoli oherwydd methiant y farchnad a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Mae cyfanswm o oddeutu £200 miliwn wedi'i wario.
Felly, rwy'n blino ar gael llythyrau gan ASau Ceidwadol yn arbennig, yn gofyn beth arall y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn, er bod hyn yn gyfrifoldeb i'w Llywodraeth eu hunain nad ydynt wedi'i gyflawni. Rwy'n sylweddoli nad dyna'r ateb y mae'r Aelod yn chwilio amdano, ond mae'n wirionedd y mae'n rhaid iddo ei wynebu.
Cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun gyda'r cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros yr economi yn Sir Benfro, ac yn amlwg, mae'r awdurdod lleol yn chwarae rhan weithredol iawn, ac rwy’n eu canmol am hynny. Maent bellach wedi penodi tîm digidol, fel y mae Sir Gaerfyrddin wedi’i wneud, ac rwy’n canmol hynny. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynnig am £4 miliwn drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol i gysylltu 80 o safleoedd sector cyhoeddus, y dylent allu eu rhannu wedyn i gysylltiadau preifat. Ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallant gydgrynhoi'r talebau sydd ar gael drwy greu 88 parth a all gysylltu aelwydydd ymhellach.
Fel y nododd Paul Davies, rwyf wedi cyhoeddi cronfa gwerth £10 miliwn, sy'n edrych yn benodol ar ddulliau anghonfensiynol o gyflawni hyn, oherwydd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, mae darparu cysylltiad ffeibr llawn yn uniongyrchol i safleoedd, i dai, gyda llawer ohonynt heb eu cysylltu â charthffosiaeth neu nwy o’r prif gyflenwad, yn anodd, yn enwedig os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ymyrryd. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, fe wnaeth Boris Johnson addewidion mawr ynglŷn â hyn, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion amdanynt, gan ei fod yn llygad ei le yn dweud bod hwn yn faes o seilwaith digidol y mae taer angen mwy o sylw iddo.
Ond mae'r gronfa £10 miliwn yn cael ei chydgynhyrchu gyda'r awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Benfro. Rydym yn gobeithio cael y cynigion hynny erbyn mis Ebrill i ddechrau gwario'r arian hwnnw, ac i edrych i weld sut y gallwn gysylltu'r bobl hynny sydd eto i elwa o'r ymyrraeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru pan fethodd Llywodraeth y DU â gweithredu.
Rwy'n cytuno â chi, Weinidog, y byddai'n well pe bai Paul Davies yn gofyn i'w feistri yn San Steffan am rywfaint o arian yma i ariannu rhywbeth y maent yn gyfrifol amdano yn y pen draw. A'r peth arall, wrth gwrs, gan y bu’n rhaid i ni, Lywodraeth Cymru, fuddsoddi arian mewn maes heb ei ddatganoli, yw y byddant yn gofyn i ni am arian ar gyfer rhywbeth arall sydd wedi'i ddatganoli, ac rydym wedi gorfod defnyddio ein harian i lenwi'r bwlch y maent wedi gwrthod ei lenwi.
Ond mae bwlch posibl arall ar y gorwel, ac mae llawer iawn o arian yr UE wedi'i fuddsoddi mewn darparu band eang cyflym iawn. Felly, credaf mai'r cwestiwn arall yw: ble a pha mor siŵr rydych chi y bydd modd i ni gael mynediad at y cronfeydd hynny yn y dyfodol, drwy eich swyddfeydd, gan gymryd eich bod wedi cael y sgyrsiau hynny â San Steffan? Ac rwy'n cymryd hefyd, gan fod Paul Davies yn poeni cymaint am y mater, ei fod yntau wedi cael y sgyrsiau hynny hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Mae Joyce Watson yn llygad ei lle yn tynnu sylw at y dimensiwn Ewropeaidd yn hyn, gan fod y £200 miliwn a fuddsoddwyd gennym yn Cyflymu Cymru yn gyfuniad o gyllid Llywodraeth y DU, cyllid Ewropeaidd, a chyllid Llywodraeth Cymru. Felly cafwyd cyfraniad gan Lywodraeth y DU, ond bu'n rhaid dibynnu ar arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r pecyn hwnnw at ei gilydd, a defnyddio'r arian hwnnw, a rheoli'r arian hwnnw, mewn maes a ddylai fod wedi'i wneud o San Steffan. A bellach, wrth i ni edrych at yr hyn sy'n digwydd ar ôl i ni adael yr UE, mae bwlch yno o hyd. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal adolygiad o'r farchnad agored, sy'n ein galluogi i gasglu gwybodaeth am gynlluniau darparwyr masnachol i'w cyflwyno yn y dyfodol. A thrwy hynny, bydd gennym ddarlun cywir wedyn o ble mae bylchau'n parhau. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn gallu rheoli a denu'r buddsoddiad i lenwi'r bylchau hynny. Ond dywedaf eto, mae angen i arweinyddiaeth Llywodraeth y DU gamu i'r bwlch hwnnw mewn maes heb ei ddatganoli er mwyn darparu'r buddsoddiad a gwneud i hynny ddigwydd, yn hytrach na dibynnu arnom ni i wneud hynny.