Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 22 Ionawr 2020.
Byddaf yn cael trafodaethau rheolaidd, fel y bydd fy swyddogion, gyda Llywodraeth y DU, a chyda rhanddeiliaid o Gymru, ynghylch nifer y dinasyddion UE sydd wedi gwneud cais am y cynllun preswylio'n sefydlog yng Nghymru. Rydym ni fel Llywodraeth wedi rhoi ystod eang o wasanaethau ar waith i gefnogi gwladolion yr UE gyda'u ceisiadau, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi cymorth pellach i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru.