Dinasyddion Ewropeaidd

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:36, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan sefydliad the3million yn crynhoi'r pryder, y dicter a'r teimlad fod neb eu heisiau roedd yr holl bobl a holwyd yn ei deimlo, hyd yn oed pan oedd ganddynt statws preswylydd sefydlog eisoes. Roedd yn ddigalon darllen, yng ngoleuni sgandal Windrush, fod menywod, pobl hunangyflogedig, y di-waith, pensiynwyr, myfyrwyr, a'r rheini nad oeddent yn gweithio am resymau meddygol i gyd yn fwy tebygol o gael eu holi am wybodaeth ychwanegol. A statws preswylydd cyn-sefydlog yn unig y mae llawer o'r bobl hyn wedi'i gael. Yng ngoleuni'r pryder a fynegwyd gan yr holl ymatebwyr, a'r ymdeimlad fod ymadroddion torri a gludo am gyfeillgarwch a diogelu hawliau dinasyddion Ewropeaidd wedi'u cynnwys yn yr ymatebion, yn lle taro'r bong ar 31 Ionawr gydag ymdeimlad o orchest, mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn llaw cyfeillgarwch i'r holl bobl sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i bobl, ar sail eich sgyrsiau â Llywodraeth y DU, na fydd teuluoedd yn cael eu rhannu yn y tymor hir, ac bod statws preswylydd sefydlog yn fwy na dim ond ymarfer, cyn ceisio cael gwared ar bobl sy'n anghyfleus.