Cyllid Buddsoddi Rhanbarthol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:31, 22 Ionawr 2020

Mae yna sawl elfen i'r hyn rydym ni angen sicrwydd ynglŷn â fo o ran dyfodol yr arian a ddaw i gymryd lle arian cymorth strwythurol Ewropeaidd. Mae'r swm arian a ddaw yn y blynyddoedd nesaf yn un mater, ac mewn ffordd, hwnna ydy'r peth hawdd i Lywodraeth Prydain ei wneud: wrth gwrs byddan nhw eisiau trio cael eu gweld yn rhoi yr un fath o arian ag sydd wedi bod yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod sydd i ddod rŵan. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiwn yma o sut mae'r arian yn cael ei reoli. Dydw i ddim yn cytuno efo popeth sydd wedi cael ei wneud efo gwariant arian Ewropeaidd yng Nghymru; mae yna benderfyniadau gwariant dwi ddim yn cyd-fynd â nhw. Ond lle mae'r arian wedi cael impact go iawn, mae hynny wedi cael ei arwain mewn difrif gan y ffaith bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru gan bobl sydd yn deall y cyd-destun Cymreig. Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi mai dyna ydy'r peryg mawr rŵan, nad oes gan Lywodraeth Prydain y capasiti na'r ddealltwriaeth i benderfynu sut i wario arian yn synhwyrol yng Nghymru, ac mai cadw rheolaeth ar le i fuddsoddi arian er mwyn sicrhau tegwch i'r economi Gymreig sydd yn bwysig rŵan, llawn cyn bwysiced bron iawn â'r swm ei hun?