Cyllid Buddsoddi Rhanbarthol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 22 Ionawr 2020

Wel, mae'r cwestiwn hwnnw o gapasiti a dealltwriaeth yn bwysig, ac mae'r cwestiwn hefyd o bwerau cyfansoddiadol yn dod i'r cwestiwn hwnnw hefyd. Mae hynny yn anorfod yn digwydd yn sgil y ffaith bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru am ddau ddegawd, ac ychydig yn fwy na hynny. Ac, felly, rwy'n cytuno â phwynt yr Aelod, hynny yw, bod yn rhaid cael eglurder a chytundeb i'r egwyddor sylfaenol honno o safbwynt cyfansoddiadol, ond hefyd—ac rwy'n credu bod hyn ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod—o safbwynt ymarferol, hynny yw, y gallu i wario'r arian hwnnw mewn ffordd sydd yn cael impact ac yn gallu gweithio ar y cyd â ffynonellau eraill sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd fod yr elfen yn bwysig bod cyfle i ni yma i wneud penderfyniadau ar lefel rhanbarthol y tu fewn i Gymru hefyd, ynghyd â gwneud hynny ar draws Cymru fel cenedl.