Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 22 Ionawr 2020.
Weinidog, drwy fwrw ymlaen â chymal 21 o'r Bil ymadael â'r UE ac anwybyddu confensiwn Sewel, mae Llywodraeth y DU yn dangos yn union beth y mae'n ei feddwl mewn gwirionedd o ddeddfwrfeydd datganoledig yn y Deyrnas Unedig. Ynghyd â'r ffaith nad oes gan y Blaid Geidwadol fwyafrif yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, onid ydych yn rhannu fy mhryderon fod Llywodraeth y DU yn siarad ar ran un genedl yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, a beth y mae hyn yn ei olygu, yn eich barn chi, i ddyfodol yr undeb?