Mynediad at Gyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:58, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall rhai o'r newidiadau sy'n debygol o ddigwydd yn dilyn Brexit. Mae'n amlwg iawn na chawn amddiffyniadau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd o ran hawliau cyflogaeth. Yn barod, mae nifer o ganlyniadau anffafriol i'r hyn a allai ddigwydd o ran deddfwriaeth cyflogaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hefyd yn bwriadu dileu neu gyfyngu ar allu adolygiad barnwrol mewn perthynas â gweithredoedd y Llywodraeth. Mae hefyd wedi nodi ei bod eisiau ymyrryd ag annibyniaeth y farnwriaeth drwy newid y system benodi ar gyfer barnwyr.

Mae i bob un o'r rhain ganlyniadau arwyddocaol iawn o ran tanseilio rheolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n gwneud eich pwynt penodol ynghylch colli, mae'n debyg, ymbarél cyfreithegol Llys Cyfiawnder Ewrop yn un arwyddocaol iawn. A ydych yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yn awr, efallai, nid yn unig o ran datganoli swyddogaethau cyfiawnder, ond bod angen inni edrych ar ffyrdd o rymuso ein dinasyddion ein hunain yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried creu cynllun cymorth a chynghori cyfreithiol Cymreig sy'n sefyll ar ei draed ei hun yng Nghymru i rymuso dinasyddion yn y byd newydd hwn rydym yn debygol o'i wynebu?