Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Gwn y bydd yn rhannu fy siom nad yw'r Bil cytundeb ymadael bellach yn cynnwys yr amddiffyniad i hawliau gweithwyr sy'n deillio o'r UE a oedd wedi'i gynnwys yn y Bil blaenorol, heb i unrhyw achos synhwyrol na rhesymol gael ei wneud dros y newid hwnnw. Mewn cyd-destun lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio bwrw ymlaen ag agenda ddadreoleiddiol radical, gwn y bydd yn rhannu fy mhryderon ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n sôn am y Goruchaf Lys, a gwelsom, wrth gwrs, y penderfyniad yn achos Unsain lle roedd Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu mynediad at dribiwnlysoedd cyflogaeth, ac roeddwn yn falch iawn ynglŷn â phenderfyniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny.
O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei godi mewn perthynas â chymorth cyfreithiol a chyngor cyfreithiol, mae comisiwn Thomas yn cynnig, yn ddiddorol iawn yn fy marn i, y dylid dod â chyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyllid ar gyfer cyngor y trydydd sector ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa o dan gyfarwyddyd strategol corff annibynnol. Credaf fod hynny'n argymhelliad pwysig iawn i'r comisiwn ei wneud. Yn amlwg, fel gyda llawer o argymhellion eraill, byddwn yn ystyried yn ofalus sut y cyflwynwn ein safbwynt i Lywodraeth y DU.