2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ehangu mynediad at gyfiawnder yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54955
Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi canfod nad oes mynediad priodol at gyfiawnder ar gael yng Nghymru, ac na ellir ond mynd i'r afael ag ef o ddifrif drwy drosglwyddo'r awdurdod cyfiawnder i Gymru. Bydd Brexit yn lleihau mynediad at gyfiawnder ymhellach, er enghraifft drwy amddifadu mynediad i bobl Cymru at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a siarter hawliau sylfaenol yr UE.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall rhai o'r newidiadau sy'n debygol o ddigwydd yn dilyn Brexit. Mae'n amlwg iawn na chawn amddiffyniadau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd o ran hawliau cyflogaeth. Yn barod, mae nifer o ganlyniadau anffafriol i'r hyn a allai ddigwydd o ran deddfwriaeth cyflogaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hefyd yn bwriadu dileu neu gyfyngu ar allu adolygiad barnwrol mewn perthynas â gweithredoedd y Llywodraeth. Mae hefyd wedi nodi ei bod eisiau ymyrryd ag annibyniaeth y farnwriaeth drwy newid y system benodi ar gyfer barnwyr.
Mae i bob un o'r rhain ganlyniadau arwyddocaol iawn o ran tanseilio rheolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n gwneud eich pwynt penodol ynghylch colli, mae'n debyg, ymbarél cyfreithegol Llys Cyfiawnder Ewrop yn un arwyddocaol iawn. A ydych yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yn awr, efallai, nid yn unig o ran datganoli swyddogaethau cyfiawnder, ond bod angen inni edrych ar ffyrdd o rymuso ein dinasyddion ein hunain yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried creu cynllun cymorth a chynghori cyfreithiol Cymreig sy'n sefyll ar ei draed ei hun yng Nghymru i rymuso dinasyddion yn y byd newydd hwn rydym yn debygol o'i wynebu?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Gwn y bydd yn rhannu fy siom nad yw'r Bil cytundeb ymadael bellach yn cynnwys yr amddiffyniad i hawliau gweithwyr sy'n deillio o'r UE a oedd wedi'i gynnwys yn y Bil blaenorol, heb i unrhyw achos synhwyrol na rhesymol gael ei wneud dros y newid hwnnw. Mewn cyd-destun lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio bwrw ymlaen ag agenda ddadreoleiddiol radical, gwn y bydd yn rhannu fy mhryderon ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n sôn am y Goruchaf Lys, a gwelsom, wrth gwrs, y penderfyniad yn achos Unsain lle roedd Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu mynediad at dribiwnlysoedd cyflogaeth, ac roeddwn yn falch iawn ynglŷn â phenderfyniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny.
O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei godi mewn perthynas â chymorth cyfreithiol a chyngor cyfreithiol, mae comisiwn Thomas yn cynnig, yn ddiddorol iawn yn fy marn i, y dylid dod â chyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyllid ar gyfer cyngor y trydydd sector ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa o dan gyfarwyddyd strategol corff annibynnol. Credaf fod hynny'n argymhelliad pwysig iawn i'r comisiwn ei wneud. Yn amlwg, fel gyda llawer o argymhellion eraill, byddwn yn ystyried yn ofalus sut y cyflwynwn ein safbwynt i Lywodraeth y DU.