– Senedd Cymru am 3:11 pm ar 22 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol). Dwi'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig, Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7231 Lesley Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), y Bil taliadau uniongyrchol, gan Lywodraeth y DU ar 9 Ionawr 2020. Mae'r Bil hwn yn rhoi sylfaen gyfreithiol i Lywodraethau'r pedair gwlad barhau i weithredu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020, gan roi sefydlogrwydd mawr ei angen i’n ffermwyr yn y cyfnod hwn o ansicrwydd wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Bil y cytundeb ymadael, os caiff ei dderbyn gan Senedd y DU, o’i ddarllen ynghyd â’r cytundeb ymadael, yn datgymhwyso rheoliad y taliadau uniongyrchol a deddfwriaeth gysylltiedig arall yr UE sy’n llywodraethu cynllun 2020 yma yn y DU. Bydd y Bil taliadau uniongyrchol yn ymgorffori deddfwriaeth yr UE sy'n llywodraethu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020 mewn cyfraith ddomestig, ac yn darparu pwerau gwneud rheoliadau â therfyn amser i ddiwygio'r ddeddfwriaeth gorfforedig, gan sicrhau ei bod yn weithredadwy ar ôl i'r DU adael yr UE. Nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i wneud taliadau i ffermwyr yn 2020, bydd hefyd yn caniatáu i ni barhau i fonitro, archwilio a gorfodi safonau trawsgydymffurfio.
Er mwyn sicrhau bod y pwerau cyfreithiol angenrheidiol ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r Bil taliadau uniongyrchol drwy broses gyflym, a disgwylir i Gydsyniad Brenhinol gael ei roi erbyn 31 Ionawr. O ganlyniad i'r daith seneddol gywasgedig hon, ni fu modd i bwyllgor graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystod eu gwaith craffu ar Fil amaethyddiaeth y DU.
Mae'r darpariaethau yn y Bil taliadau uniongyrchol wedi'u cyfyngu i reoliadau taliadau uniongyrchol sy'n berthnasol i flwyddyn gynllun 2020 yn unig, ac maent yn hanfodol i sicrhau bod cymorth y taliadau uniongyrchol i'r sector amaethyddol yn parhau’n syth ar ôl Brexit. O ystyried yr amser sydd ar gael, credaf fod Bil y DU yn gyfrwng priodol i gyflawni hyn. Gan fod diben y Bil taliadau uniongyrchol yn ymwneud ag amaethyddiaeth a'r polisi amaethyddol cyffredin, rwyf o'r farn ei fod yn gwneud darpariaeth ynghylch materion datganoledig. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn yn y Bil ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym y pwerau angenrheidiol mewn pryd i barhau i gefnogi ffermwyr drwy'r cynllun taliadau uniongyrchol.
Fel rydym wedi'i ddweud yn glir wrth Lywodraeth y DU, roedd ein hargymhelliad i'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i Fil y cytundeb ymadael yn seiliedig ar bryderon penodol gyda'r Bil penodol hwnnw. Nid yw'r argymhelliad hwn, na phenderfyniad y Senedd, yn effeithio ar gysylltiadau rhynglywodraethol ehangach. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil taliadau uniongyrchol, ac rwy'n gwneud y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyn trafod ein barn ynglŷn â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, hoffwn nodi mai ychydig iawn o amser a gawsom i'w ystyried ac i adrodd arno. Yn yr amser a oedd ar gael, ni fu modd ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol na darpariaethau'r Bil yn fanwl iawn. Wedi dweud hynny, yr hyn a wyddom yw y bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i dalu ffermwyr ar ffurf taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit.
Ers canlyniad y refferendwm ar Ewrop, mae'r pwyllgor wedi dangos cryn ddiddordeb yn nyfodol cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Yn ein hadroddiad ar Fil amaethyddiaeth blaenorol y DU, gwnaethom dynnu sylw at yr ansicrwydd digyffelyb a oedd yn wynebu ffermwyr Cymru yn y cyfnod yn arwain at Brexit. Rydym wedi nodi’n glir yr angen i ddarparu sefydlogrwydd i ffermwyr drwy sicrhau parhad y taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac edrychwn ymlaen at graffu ar gynigion terfynol y Llywodraeth pan gânt eu cyflwyno.
Ond mae unrhyw system newydd yn bell i ffwrdd o hyd. Tan hynny, bydd angen i ffermwyr ddibynnu ar y system y byddwn yn ei hetifeddu gan yr Undeb Ewropeaidd, y mae taliadau uniongyrchol yn rhan fawr iawn ohoni. Bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru wrth i ni adael yr UE. Gyda therfyn amser Brexit ychydig ddyddiau i ffwrdd yn unig, nid yw peidio â deddfu yn opsiwn—mae cynnwys darpariaethau yn y Bil yn bragmatig ac yn angenrheidiol. Felly, nid yw'r pwyllgor yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i’r Cynulliad gytuno ar y cynnig sy’n gysylltiedig â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a buaswn yn gobeithio y bydd pob Aelod yn gwneud hynny, gan y byddai peidio â gwneud hynny'n drychinebus i ffermwyr Cymru.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Fe wnaethom ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) yn ein cyfarfod ddydd Llun yr wythnos hon, a chyflwynasom ein hadroddiad ddoe. O ystyried yr amser cyfyngedig a oedd gennym, ni fu modd i ni edrych yn fanwl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion yn y Bil. Fodd bynnag, rydym wedi dod i dri chasgliad. Cyn sôn am ein casgliad cyntaf, hoffwn nodi'n fyr y pŵer gwneud rheoliadau yng nghymal 3. Mae gan gymal 3, sy’n ymwneud â chadw deddfwriaeth yr UE, bum pŵer gwneud rheoliadau, ac mae pob un ohonynt yn caniatáu addasu deddfwriaeth sylfaenol, ac felly, maent yn bwerau Harri'r Wythfed. Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd rheoliadau cymal 3 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed neu'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
Mae ein casgliad cyntaf yn ymwneud â'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6(1), y gall Gweinidogion Cymru a'r DU eu harfer. Mae'n bŵer Harri'r Wythfed, ond bydd y rheoliadau'n cael eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol. Ein safbwynt ers tro yw y dylai rheoliadau sy'n caniatáu i ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei haddasu fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae ein casgliad cyntaf yn ailadrodd y pwynt hwn.
Mae'r pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1) hefyd yn berthnasol i’n hail gasgliad, sy’n ymwneud â diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mater a godwyd ddoe yn ystod y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil y cytundeb ymadael â'r UE. Rydym yn pryderu ynghylch diffyg ymddangosiadol unrhyw gyfyngiad ar wyneb y Bil hwn o ran atal diwygio Deddf 2006. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall y pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1), pŵer y gellid ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf 2006, gael ei arfer gan reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae ein hail gasgliad yn ailadrodd ein safbwynt sefydledig y dylid cyflawni unrhyw addasiad i Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006 drwy'r broses a nodir yn adran 109 y Ddeddf honno.
Mae ein trydydd casgliad yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 30C yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ein barn gyffredinol yw y dylid ymestyn Rheol Sefydlog 30C i fod yn berthnasol i reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw Ddeddf sy'n gysylltiedig â Brexit. Mae ein trydydd casgliad yn adlewyrchu'r safbwynt hwn.
Cyn cloi, hoffwn sôn am y ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i reoliadau a wneir o dan adran 3. Rydym yn cydnabod y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yng nghymalau 3(1) a 3(3) i wneud y ddarpariaeth briodol i atal neu unioni unrhyw ddiffyg yng nghyfraith yr UE a gedwir sy'n llywodraethu cynllun taliadau uniongyrchol y PAC yn machlud ar 31 Rhagfyr 2020. Fe wnaethom nodi bod y Gweinidog wedi ei alw'n amddiffyniad pwysig. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at gymal 6. Nid yw'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6 yn ddarostyngedig i derfyn amser o'r fath.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac i Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am eu sylwadau. Credaf fod Mike Hedges wedi egluro'n gryno iawn pam fod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a diolch iddo am ei gefnogaeth.
Mewn perthynas â sylwadau Mick Antoniw, rwyf wedi darllen eich adroddiad a ddaeth o'ch cyfarfod ddydd Llun, ac os caf ddweud, mewn perthynas â'r pwerau Harri'r Wythfed, nodaf fod yn well gennych weithdrefn gadarnhaol, ond o ystyried cwmpas cul iawn y pŵer a'r ffaith bod unrhyw ddarpariaethau canlyniadol a wneir yn debygol o ymwneud â materion technegol iawn, rydym o'r farn fod y weithdrefn penderfyniad negyddol yn briodol.
Mewn perthynas â'r ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau, unwaith eto, o ystyried cwmpas cyfyngedig iawn y pŵer yng nghymal 6(1), nad yw ond yno, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael ag unrhyw faterion canlyniadol sy'n codi o'r darpariaethau eraill yn y Bil cul iawn hwn, mae terfyn amser ar y pŵer yn ddiangen yn yr achos hwn.
O ran eich trydydd casgliad ynghylch Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro yn fy sylwadau agoriadol pam y gwnaethom hyn, ond mewn perthynas ag ymestyn Rheol Sefydlog 30C, mater i'r Pwyllgor Busnes fyddai hynny, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n dal i fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sylw'r Senedd yn cael ei dynnu at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.