Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolchaf i Mike Hedges am hynna. Llywydd, er bod treth trosglwyddo tir, treth gwarediadau tirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru wedi cael eu hamsugno'n llwyddiannus fel cyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli i Gymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod argymhelliad Silk o ran toll teithwyr awyr, er gwaethaf yr holl dystiolaeth sy'n cefnogi ei datganoli.