Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 28 Ionawr 2020.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi braidd yn rhyfedd bod y Blaid Geidwadol bob amser yn siarad am dreth fel pe byddai'n rhywbeth ofnadwy. Pe na byddem ni'n talu trethi ni fyddai gennym ni wasanaethau cyhoeddus. Rydym ni i gyd yn gwybod bod angen buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Mewn ymateb i Mike Hedges, soniodd y Prif Weinidog am y doll teithwyr awyr a'r ardoll agregau. Gwn y bydd y Prif Weinidog, fel minnau, yn gresynu'r hyn sy'n mynd i ddigwydd nos Wener yr wythnos hon, ond mae'n mynd i ddigwydd. A gaf i awgrymu i'r Prif Weinidog y gallai hwn fod yn gyfle i edrych ar rai trethi eraill y gallem ni fod eisiau ceisio eu datganoli, y tu hwnt i Silk? Rwy'n meddwl yn benodol efallai am y gallu i amrywio'r dreth gorfforaeth, na fyddai wedi bod yn bosibl o fewn yr Undeb Ewropeaidd; gan geisio y gallu i amrywio TAW o bosibl, a allai helpu i dyfu rhai o'n busnesau lleol a chynhenid ein hunain.
Rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, Llywydd, bod y Prif Weinidog yn yr ystyr hwn ar drugaredd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain. Ond tybed a fyddai'n cytuno â mi y dylem ni, yn ystod cyfnod sy'n siŵr o fod yn anodd yn economaidd i Gymru, fod yn uchelgeisiol ynghylch ceisio'r ysgogiadau y bydd eu hangen arnom ni i ddiogelu ein heconomi rhag rhai o'r effeithiau negyddol posibl.