Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:47, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rhwng Rhagfyr 2018 a Rhagfyr 2019—cyhoeddwyd y ffigurau heddiw ddiwethaf—cofrestrwyd 41 o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth yn Betsi. Mae hynny'n gyfanswm o 53 y cant o'r holl farwolaethau o'r fath a gofnodwyd gan fyrddau iechyd Cymru. Mae hynny'n amlwg yn anghymesur o uchel pan ystyriwch chi fod y bwrdd iechyd yn gyfrifol am tua 20 y cant yn unig o boblogaeth Cymru.

Os wyf i wedi deall y Prif Weinidog yn iawn, yr hyn y mae'n ei ddweud—ond gall ymateb i gadarnhau a yw fy nealltwriaeth yn gywir—yw, mewn ymateb i fy nghwestiwn, mae'n ymddangos ei fod o'r farn bod diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol yng ngweddill Cymru a bod, mae'n debyg, marwolaethau o ganlyniad i ddigwyddiadau nad ydyn nhw'n cael eu hysbysu yng ngweddill Cymru, sef, wrth gwrs, yn un o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf.

Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud nawr bod y methiant allweddol, y diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol a oedd wrth wraidd y broblem yng Nghwm Taf, mewn gwirionedd yn broblem gyffredinol mewn byrddau iechyd eraill, ac eithrio Betsi, ledled Cymru?