1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 28 Ionawr 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ni ellir dechrau dychmygu galar rhieni sy'n colli plentyn. Fel yr adroddwyd gan BBC Wales Investigates neithiwr, canfu cwest bod y gofal iechyd a roddwyd i Sarah Handy wedi cyfrannu at farwolaeth ei babi yn 2017. Mae ei hachos hi yn un o 140 sy'n cael eu hadolygu i ganfod pa un a gafodd mamau a babanod eu niweidio tra eu bod yn derbyn gofal yn unedau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg. Galwodd Rebecca Long-Bailey, ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur, am ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau mamolaeth yn y bwrdd iechyd, dim ond i dynnu ei sylwadau'n ôl yn ddiweddarach. Mae arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dweud ei bod yn 'sgandal llwyr' nad oes unrhyw un ar y bwrdd iechyd wedi ei ddwyn i gyfrif. Mae'n cefnogi galwad Mrs Handy am ymchwiliad troseddol. A ydych chi?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price ar y dechrau, sef na ellir dychmygu colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau, a hyd yn oed yn fwy felly o dan amgylchiadau y gellid bod wedi eu hosgoi, o ran yr effaith y mae hynny'n ei chael ar fywydau teuluoedd.
Rwyf i wedi clywed galwadau am ymchwiliad troseddol. Mater i'r heddlu yn llwyr fydd hynny, nid mater i mi, ac ni fyddaf yn dweud dim ar y pwnc hwnnw y prynhawn yma y gellid ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel un sy'n niweidio gallu'r heddlu i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Yn y rhaglen neithiwr, dywedodd Andrew Morgan hefyd, pan oedd galwadau am i brif weithredwr Cwm Taf ymddiswyddo, y gofynnwyd iddo beidio â siarad yn gyhoeddus. A ydych chi'n cytuno bod unrhyw ymgais i gau ceg cynrychiolydd etholedig yn gwbl annerbyniol? Ac a wnaiff ef lansio ei ymchwiliad ei hun i weld a yw'r honiadau a wnaeth Mr Morgan am y bwrdd iechyd yn wir?
Nid Cwm Taf yw'r unig fwrdd iechyd lle y ceir cwestiynau difrifol. Wrth gwrs, mae Betsi Cadwaladr bellach yn ei bumed flwyddyn o fesurau arbennig, ac mae ganddo gyfradd frawychus o ddigwyddiadau'n ymwneud â diogelwch cleifion. Rhwng Tachwedd 2017 a Rhagfyr 2019, cafwyd 520 o ddigwyddiadau ym mwrdd Betsi a arweiniodd at farwolaeth neu niwed difrifol. Mae'r cyfanswm hwnnw'n uwch na'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru gyda'i gilydd. Nawr, mae naill ai problem sylfaenol ddifrifol o fewn Betsi neu mae hysbysu annigonol difrifol mewn mannau eraill yng Nghymru. Pa un sy'n wir?
Llywydd, rwy'n credu bod arweinydd Rhondda Cynon Taf yn gallu siarad drosto'i hun. Rwy'n ei adnabod yn dda iawn ac mae gen i barch mawr tuag ato. Nid yw wedi gwneud unrhyw gais i mi, ac rwy'n siŵr ei fod yn fwy na digon galluog i wneud hynny drosto'i hun, pe byddai'n dymuno gwneud hynny.
Credaf fod y ffigurau yn Betsi Cadwaladr yn arwydd o fwrdd iechyd lle mae hysbysu am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthyn nhw wedi dod yn rhan o'i ddiwylliant, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau ei weld ym mhobman yng Nghymru. Rydym ni'n cael y drafodaeth hon yn rheolaidd ar lawr y Cynulliad, pryd yr ydym ni'n dweud ein bod ni eisiau diwylliant o ddysgu, rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau diwylliant mewn byrddau iechyd lle nad yw pobl yn ofni lleisio eu barn a chofnodi pethau, ac wedyn pan fydd hynny'n digwydd, rydym ni'n cael cwestiynau sy'n dweud, 'O, mae'n rhaid bod popeth yn ofnadwy, edrychwch ar y digwyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi.' Nid wyf i'n credu y gallwn ni ei chael hi'r ddwy ffordd. Rwy'n credu bod y ffaith bod ffigurau ar gael ym mwrdd Betsi Cadwaladr sy'n dangos bod staff yn barod i hysbysu am bethau yn dangos bod diwylliant yno nawr sydd eisiau dysgu o'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud, ac efallai nad oedd hynny'n wir yn y fan honno ddim llawer o flynyddoedd yn ôl.
Rhwng Rhagfyr 2018 a Rhagfyr 2019—cyhoeddwyd y ffigurau heddiw ddiwethaf—cofrestrwyd 41 o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth yn Betsi. Mae hynny'n gyfanswm o 53 y cant o'r holl farwolaethau o'r fath a gofnodwyd gan fyrddau iechyd Cymru. Mae hynny'n amlwg yn anghymesur o uchel pan ystyriwch chi fod y bwrdd iechyd yn gyfrifol am tua 20 y cant yn unig o boblogaeth Cymru.
Os wyf i wedi deall y Prif Weinidog yn iawn, yr hyn y mae'n ei ddweud—ond gall ymateb i gadarnhau a yw fy nealltwriaeth yn gywir—yw, mewn ymateb i fy nghwestiwn, mae'n ymddangos ei fod o'r farn bod diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol yng ngweddill Cymru a bod, mae'n debyg, marwolaethau o ganlyniad i ddigwyddiadau nad ydyn nhw'n cael eu hysbysu yng ngweddill Cymru, sef, wrth gwrs, yn un o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn yr adroddiad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf.
Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud nawr bod y methiant allweddol, y diffyg hysbysu am ddigwyddiadau difrifol a oedd wrth wraidd y broblem yng Nghwm Taf, mewn gwirionedd yn broblem gyffredinol mewn byrddau iechyd eraill, ac eithrio Betsi, ledled Cymru?
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod i'n meddwl bod hynna'n gybolfa lwyr. Mae'n fater syml o adeiladu un math o haeriad di-sail ar ben y llall. Ni ddywedais i ddim o'r fath beth, ac ni fyddwn i'n gwneud hynny. Yr hyn yr wyf i yn ei ddweud yn y fan yma yw ein bod ni eisiau diwylliant yn y GIG yng Nghymru lle mae pobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith, yn teimlo wedi eu grymuso i leisio eu barn, bod pethau'n cael eu hadrodd, a bod pethau'n cael eu dysgu o ganlyniad i wneud yr adroddiadau hynny. Rwyf i eisiau gweld hynny ym mhob rhan o Gymru. Ac nid yw ymgais yr Aelod i geisio llusgo'r GIG drwy'r mwd unwaith eto y prynhawn yma—oherwydd dyna mae'n ei wneud, ac mae'n gwneud hynny mor rheolaidd yn y fan yma, mae'n gwneud hynny'n rheolaidd iawn yn y fan yma, fe wnaeth hynny eto y prynhawn yma—yn gwneud unrhyw les iddo, ac yn sicr nid yw'n gwneud unrhyw les i gleifion yng ngwasanaeth iechyd Cymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, adroddwyd yr wythnos diwethaf bod ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465 yn wynebu oediadau pellach posibl, ac fel y gwyddoch, mae eisoes dros y gyllideb yn sylweddol. Roedd disgwyl i'r ffordd honno gael ei gorffen ddiwedd y llynedd. A allech chi ddweud wrthym ni pryd y bydd ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei chwblhau, ac a allwch chi hefyd gadarnhau pa un a fydd Llywodraeth Cymru yn gwario unrhyw adnoddau ychwanegol y tu draw i'r gyllideb bresennol i sicrhau bod y ffordd yn cael ei chwblhau o'r diwedd?
Llywydd, mae'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r ffordd yn dal i fod fel y'u nodwyd yn y datganiad a wnaed gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates y tro diwethaf iddo adrodd am y mater hwn i lawr y Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw'r amserlenni hynny wedi newid. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad arall ar hynt y gwaith o gwblhau'r rhan honno o ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Mae'r gyllideb ar gyfer cwblhau'r gwaith y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Caiff hynny ei esbonio'n rhannol gan y topograffi heriol y mae'r adeiladwyr wedi ei wynebu wrth iddyn nhw wneud eu ffordd drwy un o'r ceunentydd mwyaf yr ydym ni erioed wedi adeiladu ffordd o'r math hwn drwyddo yng Nghymru. Cafwyd anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a'r contractwr ynghylch rhai o'r costau eraill a godwyd gyda ni, ac maen nhw'n dal i fod yn destun cymrodeddu parhaus rhwng y partïon.
Prif Weinidog, dim ond un enghraifft o lawer yw'r rhan benodol hon o ffordd o'r rhwystredigaethau y mae cymunedau ledled Cymru wedi eu cael gyda'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phrosiectau seilwaith ffyrdd. Ddiwedd y llynedd, fe'i gwnaed yn eglur gan Gynghrair Seilwaith Cymru yn eu hadroddiad bod angen buddsoddiad sylweddol yn rhwydwaith cefnffyrdd Cymru a bod angen mwy o sicrwydd ynglŷn ag amserlenni cyflawni'r cynlluniau a nodir yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol—ac mae hynny'n hollol wir, Prif Weinidog. Yn y gorllewin, mae'r galwadau parhaus i ddeuoli'r A40 wedi cael eu hanwybyddu'n llwyr. Ac, wrth gwrs, mae'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen ag ateb i'r M4 unwaith eto wedi gadael cymunedau ar hyd y coridor hwnnw'n rhwystredig ac yn ddig.
Yn 2011, canfu Swyddfa Archwilio Cymru bod prosiectau trafnidiaeth mawr wedi costio llawer mwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl, gyda chyfanswm gorwariant o £226 miliwn. Digwyddodd hyn o dan Lywodraeth Lafur. Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o'r adroddiad damniol hwnnw, ac a ydych chi'n cydnabod yr effaith ofidus iawn y mae camreolaeth eich Llywodraeth o brosiectau ffyrdd yn ei chael ar fywydau pobl ledled Cymru?
Llywydd, pe bawn i'n meddwl am eiliad bod gwers i'w dysgu gan y blaid a oedd yn gyfrifol am reilffordd HS2 a'r biliynau—. Mae'n siarad â mi am £226 miliwn; prin fod hynny'n orwariant o wythnos yn ymdriniaeth ei Lywodraeth ef o HS2, lle ceir biliynau—biliynau a biliynau o bunnoedd. Mae hwnnw'n brosiect a luniwyd gan ei blaid ef, a chyfrifoldeb ei blaid ef yn llwyr. Mae'n credu y gall ddod i'r fan yma a'n beirniadu ni am y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau pan fo'i blaid ef yn sgandal ar draws Ewrop gyfan am y ffordd y mae wedi ymddwyn o ran y rhaglen drafnidiaeth honno.
Mae'n dyfynnu adroddiad i mi o 2011. Yn 2011, roeddem ni ar gychwyn cyntaf y cwtogi o flwyddyn i flwyddyn drwy raglen gyfalaf y Llywodraeth Lafur hon gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan. Pe byddai gennym ni'r gyllideb heddiw yr oedd gennym ni bryd hynny, byddem ni'n gallu gwneud mwy mewn amrywiaeth eang o fuddsoddiadau cyfalaf yma yng Nghymru.
Nid wyf i'n ymddiheuro am hanes Llywodraeth Cymru: ffordd osgoi'r Drenewydd, a gwblhawyd yn unol â'r gyllideb ac yn brydlon; y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yng nghymunedau'r Cymoedd na fyddai ei blaid ef yn gwbl sicr yn ystyried ei wario. Ym mhob rhan o Gymru, mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi i'r graddau llawnaf posibl, er gwaethaf holl galedi'r cyni cyllidol y mae ei blaid ef wedi ei orfodi arnom ni. A gwerthfawrogir y pethau hynny—ymhell o'i achwyn ynghylch y ffordd y mae pethau'n digwydd—gwerthfawrogir y pethau hynny ym mhob rhan o Gymru hefyd.
Wel, fe ddylech chi ymddiheuro, Prif Weinidog, am gamreoli'r prosiect penodol hwn, a dylech chi fod yn ymddiheuro i bobl Cymru am brosiectau eraill y mae eich Llywodraeth wedi eu camreoli. Mae'n ffaith bod cymunedau'n teimlo'n rhwystredig gyda dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â seilwaith ffyrdd yma yng Nghymru, ac mae'n ymddangos i mi mai prin yw'r atebolrwydd gan Weinidogion am gamreolaeth eich Llywodraeth.
Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gynlluniau gan Gyngor Caerdydd i gyflwyno tâl atal tagfeydd—neu dreth y Cymoedd, fel y mae eich Aelodau eich hun wedi ei alw—i godi tâl ar y rhai nad ydyn nhw yn drigolion i deithio i mewn ac allan o Gaerdydd. Nawr, mae'r cynlluniau hynny wedi cael eu beirniadu gan eich cyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, sydd wedi ei gwneud yn eglur na ddylid cyflwyno'r tâl oni bai bod dewisiadau eglur eraill yn hytrach na defnyddio ceir, ac y dylai'r tâl gael ei godi ar drigolion Caerdydd hefyd. Mae'r Aelod dros Flaenau Gwent wedi ei alw'n dreth y Cymoedd, a hynny'n briodol.
Nawr, mae'n ffaith bod y cynllun hwn angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru cyn y gellir ei weithredu. Felly, Prif Weinidog, a yw'n fwriad gan eich Llywodraeth i gefnogi Cyngor Caerdydd a chymeradwyo'r dreth hon ar y Cymoedd? A ydych chi'n credu o ddifrif y gallai system trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd ymdopi â'r cynnydd sylweddol i alw a allai ddod o ganlyniad i'r cynnig hwn? Ac os byddwch chi'n cymeradwyo'r cynnig hwn, sut y gwnewch chi osgoi creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y Cymoedd a'r brifddinas?
Llywydd, pregethau gan yr Aelod ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan y blaid a wnaeth ganslo trydaneiddio'r brif reilffordd yma yng Nghymru—ydych chi'n cofio hynny? Tybed a yw'r Aelod yn cofio. Na, nid wyf i'n credu ei fod ef. Mae wedi anghofio bod ei blaid wedi addo trydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe, dim ond i gefnu wedyn ar yr addewid yr oedd wedi ei wneud i bobl Cymru. Mae eisiau fy holi i am drafnidiaeth gyhoeddus. Gadewch i ni edrych ar ei hanes ef, ar hanes ei blaid ef, am funud.
O ran cynigion Cyngor Caerdydd, rwy'n falch bod cyngor dinas Caerdydd yn ymateb mewn ffordd benderfynol a llawn dychymyg i effaith y newid yn yr hinsawdd ac effaith ansawdd aer yma yn ein prifddinas—y brifddinas lle ceir y gyfradd gymudo fwyaf yn unman yn y Deyrnas Unedig. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n iawn i ddiystyru'r cynigion y mae'r Cyngor wedi eu cyflwyno, oherwydd maen nhw'n ymateb difrifol i gyfres ddifrifol o broblemau.
Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i gwestiynu'r cynigion hynny mewn cyd-destun rhanbarthol. Dyna'n union a ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth pan gyhoeddwyd y cynlluniau hynny. Dyna pam yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ymchwiliad i reoli galw, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn y rhanbarth ehangach, a bydd yr astudiaeth yn ystyried manteision a heriau gwahanol ddulliau rheoli galw, a byddwn yn defnyddio hynny i lywio polisi cenedlaethol a rhanbarthol. Rydym ni'n haeddu, mae pobl yng Nghaerdydd a phobl o gwmpas Caerdydd yn haeddu, cael edrych ar gynigion difrifol o ddifrif, i edrych ar ddewisiadau eraill a allai fod yno, ac i wneud hynny yng nghyd-destun yr argyfwng newid yn yr hinsawdd sy'n wynebu pob un ohonom ni. Bwriedir i gynigion Caerdydd fod yn ymateb difrifol i'r sefyllfa honno.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
A gaf i ddymuno diwrnod Brexit hapus i'r holl Aelodau ddydd Gwener? Yn enwedig arweinydd Plaid Cymru, yr wyf yn ei ganmol ar yr agwedd gadarnhaol y mae wedi ei mabwysiadu yr wythnos hon.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r dull mwy cadarnhaol fyth sy'n cael ei fabwysiadu gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant? Am bythefnos, maen nhw'n cynnig teithiau Brexit pwrpasol. Rwy'n edrych ymlaen at fynd â'm plant i fathu eu darnau 50c Brexit eu hunain, gan ddymuno 'Heddwch, llewyrch a chyfeillgarwch gyda phob cenedl'. Ar ddiwrnod Brexit, mae'r Bathdy Brenhinol hyd yn oed yn agor drwy'r nos, gyda theithiau cyhoeddus bob 15 munud. Wrth i Nathan Gill ddod i Lantrisant ddydd Gwener i weithredu'r wasg darnau arian fel ei ymrwymiad olaf fel ASE, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog beth fyddwch chi'n ei wneud i ddathlu diwrnod Brexit?
Llywydd, byddaf yn cadeirio cyfarfod y Cydbwyllgor Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd) yma yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd yn cynnwys Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Roeddwn i'n falch iawn o'u croesawu nhw i Gymru y bore yma, eu hymrwymiad cyntaf o'r math hwn ers ailsefydlu'r Weithrediaeth. Bydd Michael Gove yn cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cyfarfod y prynhawn yma. Yno, ni fyddwn yn cael taith o amgylch atyniad i dwristiaid ond byddwn yn mynd i'r afael o ddifrif â'r materion sy'n ein hwynebu fel Teyrnas Unedig wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn trafod y blaenoriaethau strategol ar gyfer trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn trafod y modd y gellir cynnwys gweinyddiaethau datganoledig yn y broses o bennu mandadau a'u cyflawni mewn trafodaethau. Dyna'r hyn y byddaf i a Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno yr wythnos hon ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Da iawn. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i fod yn gwneud araith ddydd Gwener, ond hoffwn ei longyfarch ar y cyfarfod y mae wedi ei gael heddiw, gan fy mod i'n credu tra bod Llywodraeth y DU wedi bod yn canolbwyntio ar bethau eraill, a hynny'n ddealladwy, pan nad oedd Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, a phan fo Llywodraeth yr Alban yn elyniaethus, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau o ran rhoi ystyriaeth i rai o'r materion ar ôl Brexit hyn a beth ddylai'r bensaernïaeth briodol fod i'n cysylltiadau rhyng-lywodraeth yn y DU.
Roeddwn i'n falch o gyfarfod â Simon Hart yn Nhŷ Hywel yn gynharach, a gobeithio y bydd yntau hefyd yn cydnabod yr arweiniad cryf y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi yn y maes hwn. A wnaiff y Prif Weinidog, fodd bynnag, addewid nawr hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid a chyda'r Aelodau gyferbyn i ddefnyddio eu dylanwad ar Weinidogion Llywodraeth y DU i helpu i fwrw ymlaen â rhai o'r syniadau y mae ei Lywodraeth wedi eu datblygu, ac y mae pob un ohonom ni'n cytuno â nhw?
Ac a gaf i hefyd ofyn, mewn ymdrech i ddod o hyd i dir cyffredin, a allai ailystyried yr agwedd 'dileu a disodli popeth' at gynnig Brexit y Ceidwadwyr yfory? Mae'n cyfeirio at y manteision posibl Brexit i Gymru yn unig, ac, wrth geisio dod o hyd i dir cyffredin, mae'n siarad yn gymharol ddi-dadleuol am gytundebau masnach rydd newydd, system fewnfudo nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn y tu allan i'r UE, a dull newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU. Felly, tybed a allai'r Prif Weinidog ddod o hyd i'w ffordd i'w gefnogi?
Diolchaf i'r Aelod. Bydd Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i gyd yn bresennol yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) y prynhawn yma. Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am y cynigion y mae Cymru wedi eu gwneud i gryfhau'r ffordd y gall y Deyrnas Unedig weithredu yr ochr arall i Brexit. Roeddwn i'n falch o allu trafod y rheini yn uniongyrchol gydag Arlene Foster a Michelle O'Neill y bore yma, a byddant yn rhan o drafodaeth barhaus am beirianwaith rhynglywodraethol sy'n cael ei weithredu yn y Cyd-bwyllgor.
Rwyf i wedi bod yn ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid yma am nifer o gyfleoedd i gyfarfod i siarad am faterion yn ymwneud â Brexit, dyfodol y Deyrnas Unedig a materion polisi cyhoeddus pwysig eraill. Safbwynt y meinciau hyn erioed—yn sicr o dan fy rhagflaenydd—oedd pa le bynnag y bo syniadau adeiladol y mae pobl eisiau eu cyfrannu at y dadleuon cyhoeddus pwysig hyn, wrth gwrs, rydym ni'n agored i'w clywed ac i'w trafod, ac rwyf i yn sicr eisiau parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd digonedd o amser ar lawr y Cynulliad yn y ddadl yfory, Llywydd, i bobl fynegi eu barn.