Datganoli Trethi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:39, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, prin y mae eich adain chi o'r Blaid Lafur yn adnabyddus am dorri trethi. A dweud y gwir, rydych chi'n cael eich ystyried yn fwy fel unigolyn a allai fod eisiau eu codi. Pa sicrwydd allwch chi eu rhoi i bobl sy'n gweithio'n galed yng Nghymru, ac, yn wir, y busnesau hynny ledled Cymru, os caiff trethi pellach eu datganoli i Gymru, nad yw eich Llywodraeth yn mynd i'w codi yn hytrach na thorri'r baich i bobl fwrw ymlaen â'u bywydau?