Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Ionawr 2020.
Llywydd, mae ein hymrwymiad i hybu cynhwysiant ariannol yn cael ei adlewyrchu yn y cyllid o £19 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu i gynnig mynediad i bobl at wasanaethau ariannol fforddiadwy a gwybodaeth a chyngor y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau. Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau ariannol mwy cytbwys a rheoli eu cyllid yn well.