1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Ionawr 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru? OAQ55014
Llywydd, mae ein hymrwymiad i hybu cynhwysiant ariannol yn cael ei adlewyrchu yn y cyllid o £19 miliwn yr ydym ni'n ei ddarparu i gynnig mynediad i bobl at wasanaethau ariannol fforddiadwy a gwybodaeth a chyngor y mae eu hansawdd wedi'i sicrhau. Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu gwneud penderfyniadau ariannol mwy cytbwys a rheoli eu cyllid yn well.
Diolch, Prif Weinidog, ac a gaf i groesawu'r amrywiaeth o gamau gweithredu a gyflwynwyd gennych chi yn y fan yna, y gwn eu bod o gymorth i lawer o'm hetholwyr ym Merthyr Tudful a Rhymni? Mae llawer ohonom ni ar yr ochr hon i'r Siambr hefyd yn cofio gweithredoedd Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU o ran sefydlu cronfeydd ymddiriedolaeth plant, ac, wrth gwrs, y gefnogaeth ychwanegol i hyn a ddarparwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae cronfeydd ymddiriedolaeth yn bodoli, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, i helpu pobl ifanc gyda chynilion i'w cynorthwyo wrth symud i fywyd fel oedolyn—cymorth a ddiddymwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Ers hynny, mae Gweinidogion Torïaidd wedi methu â chysylltu pobl â'u cyfrifon, sy'n golygu y gallai miliynau fynd heb eu hawlio pan fydd pob plentyn yng Nghymru a anwyd yn 2002 yn gymwys i gael eu cynilion ym mis Medi. Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu haduno â'u cynilion?
Wel, diolchaf i Dawn Bowden am gyfeirio at un o arbrofion polisi cymdeithasol mawr y ganrif hon. Gresynaf yn fawr y ffaith bod y gronfa ymddiriedolaeth plant, a lansiwyd gan y Blaid Lafur yn 2002 wedi cael ei diddymu gan y Llywodraeth glymblaid a ddaeth i rym yn 2010, gan fod y cynllun hwnnw'n cynnig cyfle i bobl ifanc ac yn enwedig pobl o gymunedau difreintiedig ddechrau ar eu bywyd fel oedolion gydag ased y tu ôl iddyn nhw, ac mewn lles sy'n seiliedig ar asedau, y ddamcaniaeth yw bod asedau'n newid bywydau; os oes gennych chi swm o arian y gallwch chi ddibynnu arno, rydych chi'n gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau am eich dyfodol. Nawr, mae gennym ni'r arbrawf naturiol mawr hwn oherwydd bod gennym ni'r cohortau hyn o bobl ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2011 a bydd y genhedlaeth gyntaf o'r plant hynny yn troi'n 18 oed ym mis Medi eleni. Roedd 273,000 o bobl ifanc yng Nghymru yr agorwyd cyfrifon cronfa ymddiriedolaeth plant ar eu cyfer a bydd rhai Aelodau yn y fan yma yn cofio fy nghyd-Aelod, Brian Gibbons, yn cyflwyno ychwanegiad yng Nghymru at y cronfeydd ymddiriedolaeth plant hynny, fel bod plant yng Nghymru, pan roedden nhw'n cyrraedd oed ysgol gynradd, ychwanegwyd £50 at gyfrif pob plentyn; ychwanegwyd £100 at gyfrif pob plentyn o deulu difreintiedig.
Pan sefydlwyd y gronfa ymddiriedolaeth plant, Llywydd, y syniad oedd nid yn unig rhoi arian i mewn i gyfrif plentyn, ond y byddai'r plentyn hwnnw'n gallu olrhain y cyfrif hwnnw drwy gydol ei aeddfedrwydd—y byddai ganddo, bob blwyddyn, gyfriflen yn dweud wrtho faint oedd yn cael ei gadw ar ei gyfer. Erbyn yr adeg y bydden nhw'n 16 oed, roedden nhw i fod i allu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynghylch ble y byddai'r gronfa honno'n cael ei buddsoddi. A, phan ddiddymwyd y gronfa, diddymwyd hynny i gyd hefyd yn anffodus.
Dyna pam yr ydym ni'n bryderus, fel y mae Dawn Bowden wedi ei ddweud, y gallai fod miloedd o bobl ifanc yng Nghymru ym mis Medi eleni y buddsoddwyd arian ar eu rhan a allai roi llwyfan iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd ymlaen i fywyd fel oedolion, na fyddan nhw'n gwybod dim am y peth. Dyna pam yr ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Rebecca Evans at Weinidogion y Trysorlys ar 22 Ionawr, yn eu hannog i gymryd camau newydd, fel y bydd y bobl ifanc hynny yng Nghymru sydd â chyfle i fanteisio ar eu cronfa ymddiriedolaeth plant yn cael eu nodi ac y gallwn fod yn ffyddiog y bydd y cyfle hwn ar gael yn wirioneddol, i'r bobl ifanc hynny o leiaf.
Ac, yn olaf, cwestiwn 6, Huw Irranca-Davies.