Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddymuno'n dda i'r Aelod yn ei gwellhad parhaus o'i salwch diweddar? Mae'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gael ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn hyn, gyda chefnogaeth buddsoddiad blynyddol parhaus Llywodraeth Cymru o £3 miliwn. Byddwn yn ymgynghori ar y cod ymarfer statudol drafft ar gyfer awtistiaeth ym mis Ebrill eleni.