Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 28 Ionawr 2020.
Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid trin troseddau casineb yn erbyn y gymuned Sipsiwn/Teithwyr gyda'r un difrifoldeb â throseddau casineb yn erbyn unrhyw gymuned neu leiafrif arall yng Nghymru? Cefais gyfarfod yn ddiweddar gydag aelodau lleol o'm cymuned Sipsiwn/Teithwyr, ac maen nhw'n teimlo'n gryf iawn, yn rhy aml, nad yw hynny'n wir. Rhoesant enghreifftiau o negeseuon cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, a oedd yn wahaniaethol, yn rhagfarnllyd ac yn amlwg yn droseddau casineb, ond pan geisiwyd camau effeithiol ganddynt, fe welsant fod hynny yn anodd dros ben. Eu ple, mewn gwirionedd, oedd bod yn rhaid i droseddau casineb yn erbyn eu cymuned nhw gael eu trin gyda'r un difrifoldeb ag unrhyw drosedd casineb arall.