Troseddau Casineb

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:19, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn mynd i'r afael â throseddau casineb yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf i roi sylw i'r cynnydd mewn naratifau atgas. A byddaf yn arwain dadl ym mis Mawrth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i fynd i'r afael â throseddau casineb gyda'n partneriaid yng Nghymru.