Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 28 Ionawr 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrth-semitiaeth yn llawn ac yn ddiamod. Rydym ni'n benderfynol o gael gwared ar anoddefgarwch o'n cymunedau, a byddaf yn darparu datganiad llawn y prynhawn yma ar waith yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth ac i goffáu'r Holocost.