Gwrth-semitiaeth

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:31, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Roedd hi'n saith deg pump mlynedd ddoe ers rhyddhau gwersyll marwolaeth Auschwitz. Amcangyfrifir bod dros filiwn o bobl a oedd yn Iddewon yn bennaf wedi dioddef marwolaeth arswydus yno. Ac roedd hynny'n cynnwys dynion, menywod a phlant o bob oed. Ac yn sicr, byddwn i gyd yn cytuno, un o'r cyfnodau tywyllaf yn ein hanes dynol. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i ni gofio bob amser yr erchyllterau a ddigwyddodd yn Auschwitz, fel eu bod yn ein hatgoffa'n eglur o'r hyn a ddigwyddodd a'r hyn a all ddigwydd pan fydd pobl yn ysgogi casineb tuag at eraill?