Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 28 Ionawr 2020.
Mae Adref yn elusen sydd wedi bod yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac yn brwydro yn erbyn digartrefedd yn fy ardal i ers tri degawd. Nawr mae bygythiad i gau'r elusen, gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi dyfarnu'r contract i ddarparu gwasanaethau hostel lleol i sefydliad arall, sefydliad heb fawr o brofiad, os o gwbl, o'r sefyllfa yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Bydd hyn yn golygu colli rhai swyddi. Bydd yn golygu colli gwybodaeth leol arbenigol am y sefyllfa o ran digartrefedd yn ein hardal a bydd yn golygu colli byddin fach o wirfoddolwyr. Bydd gwaith cymunedol sylweddol Adref, fel yr apêl hamper Nadolig y mae fy swyddfa i wedi'i chefnogi ers blynyddoedd lawer, yn annhebygol o gael ei ailadrodd, ac ni allwch roi pris ar waith cymunedol fel yna.
Felly, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth am egwyddorion caffael lleol ar gyfer contractau'r trydydd sector? A wnewch chi ymuno â mi i annog Cyngor Rhondda Cynon Taf a chyngor Merthyr i ailystyried y mater hwn ac i gydnabod y gwaith gwych y mae'r elusen hon wedi'i wneud ers iddi gael ei sefydlu gan swyddogion prawf a nododd angen lleol yn ôl yn 1987?
Mae penaethiaid iechyd o Gwm Taf yn argymell tynnu'n ôl y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol ar ryw ffurf neu'i gilydd o Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae gan hyn oblygiadau difrifol i'r lle yr wyf i'n ei gynrychioli, y Rhondda, ac mae pobl yn grac, a hynny'n haeddiannol, ynghylch y posibilrwydd o orfod teithio ymhellach mewn argyfwng a allai fygwth eu bywyd.
Nid oes neb eto wedi gallu ateb y pryderon ynghylch amseroedd ymateb ambiwlansys, na'r ffaith nad oes gan nifer sylweddol o bobl sy'n byw yn y Rhondda gar. Ac mae hynny, yn fy marn i, yn warthus. Nid oes gan bobl fawr o ffydd y bydd eu pryderon dilys yn cael eu hystyried ar ôl yr ymgynghoriad ffuantus a gafodd ei gynnal yn 2014, lle dywedodd 60,000 o bobl nad oedden nhw eisiau i'r newidiadau fynd rhagddynt, ac anwybyddwyd y lleisiau hynny.
Mewn sawl ffordd, mae'r problemau yr ydym ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn deillio'n bennaf o ddiffyg cynllunio'r gweithlu gan olyniaeth o Weinidogion Iechyd Llafur. Cyflwynodd Plaid Cymru gynllun chwe blynedd yn ôl i fynd i'r afael â'r gymhareb frawychus o isel o feddygon i bobl sydd gennym ni yn y wlad hon, a chafodd ein cynlluniau eu gwatwar gan yr union bobl a oedd â'r pŵer neu'r cyfrifoldeb i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Byddaf yn mesur teimladau pobl y Rhondda mewn cyfarfod agored sydd wedi'i drefnu gan Blaid Cymru ddydd Llun nesaf yng nghlwb rygbi Harlequins Porth. Mae croeso i bawb ddod. Efallai yr hoffai Gweinidogion ddod i glywed cryfder y teimladau gan bobl y Rhondda ar y mater hwn. Byddai croeso ichi fod yn bresennol os hoffech chi dderbyn y cynnig hwnnw.
Ond hoffwn i ofyn: a ydych chi'n gresynu at y diffyg gweithredu i fynd i'r afael â'r prinder meddygon ymgynghorol yng Nghymru gan eich cyd-Aelodau yn y Cabinet? A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad ynghylch ei chynlluniau i fynd i'r afael ag achosion o gadw ysbytai cyffredinol dosbarth, a gwasanaethau brys yn benodol, sy'n broblem nid yn unig yn y Rhondda, ond ledled ein gwlad gyfan?