Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 28 Ionawr 2020.
O ran y mater cyntaf, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru roi pwysau ar awdurdodau lleol o ran y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud o ran dyfarnu contractau. Fodd bynnag, byddwn i'n annog yr Aelod i roi gwybod i gynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr am ei phryderon ynglŷn â'r caffael lleol. Byddaf i'n hapus, wrth gwrs, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o gefnogi caffael lleol a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud, yn enwedig drwy ddull yr economi sylfaenol, y mae fy nghydweithiwr, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn arwain arno.
O ran yr ail fater, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn adolygu'r broses o weithredu'r elfennau sy'n weddill yn rhaglen de Cymru sy'n cynnwys dyfodol meddygaeth frys, a bydd y dewisiadau arfaethedig yn cael eu trafod yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus ar 30 Ionawr. Yn amlwg, byddai'n amhriodol ac anaddas i mi wneud sylwadau neu achub y blaen ar y trafodaethau hynny, ond byddem ni'n disgwyl i'r bwrdd fod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried opsiynau ac yna gytuno ar fodel gofal cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gwn i y bydd yr Aelod yn gwneud ei sylwadau fel rhan o'r broses briodol honno.