Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 28 Ionawr 2020.
Mae Siân Gwenllian yn gywir i ddweud fy mod i'n mynd i sôn am y diwrnod HMS ychwanegol; pe byddai wedi gweld rhai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y diwrnod HMS hwnnw, byddai wedi gweld, mewn rhai sectorau, nad rhywbeth poblogaidd i'w wneud oedd hynny. Ond mae'n rhywbeth sy'n angenrheidiol i'w wneud er mwyn cynyddu, unwaith eto, yr amser sydd ar gael i ysgolion. Rydym wedi bod yn glir iawn yn y ddogfen a gyhoeddwyd heddiw ynghylch yr angen i gydweithio nid yn unig mewn ysgol, ond gyda rhwydweithiau o ysgolion, boed hynny mewn ardal leol, boed hynny ar draws cyfnod, o ran cynradd yn siarad ag uwchradd yn siarad â cholegau addysg bellach, neu a oes angen i hynny fod mewn arbenigedd pwnc neu arbenigedd maes dysgu a phrofiad.
Wrth gwrs, nid y diwrnod ychwanegol hwnnw a roddwyd gennym dros nifer o flynyddoedd yw'r unig ddiwrnod sydd gan yr ysgolion; mae ganddyn nhw'r darpariaethau HMS presennol y gallan nhw eu defnyddio i roi hyn ar waith. Ac wrth gwrs, mae rhywfaint o'n dysgu proffesiynol gorau ni'n digwydd pan fydd plant yn yr ysgol, felly mae angen dull cymysg. Dyna pam rydym ni'n datganoli'r adnoddau sydd gennym ar gyfer dysgu proffesiynol.
Mae'r arian sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a fydd ar gael eto, yn golygu'r buddsoddiad unigol mwyaf yn y proffesiwn addysgu ers i ddatganoli ddechrau, ac mae hynny'n briodol, Dirprwy Lywydd—mae hynny'n briodol. Mae'r adnoddau hynny yn cael eu hategu hefyd gan fuddsoddiad gan y Llywodraeth hon mewn rhwydweithiau cenedlaethol newydd i gefnogi addysgeg ac arferion, ac mae hynny'n dod ar adeg pan fo gwasgfa nid ansylweddol yn parhau ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd i'n hawdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol hynny'n cadw at eu gair o ran eu hymrwymiadau i mi, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, lle maen nhw i gyd yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar addysg.
Roeddwn wrth fy modd y bore yma i fod yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen y Fai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a chlywed gan arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr ei fwriad ef i ddefnyddio'r arian ychwanegol ar gael i flaenoriaethu gwariant ar addysg. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw ganddo ef yn fawr iawn yn wir. Mae hynny'n dod ar ben y cynnydd yn y gyllideb addysg, sydd, fel y dywedais i, yn ariannu amrywiaeth o fentrau i gefnogi gweithrediad y cynllun. Ond nid wyf i'n osgoi'r angen i archwilio'n gyfreithiol lefel y gwariant ar addysg yng Nghymru, a gwneud hynny ar sail annibynnol. Fe fydd Luke Sibieta yn adrodd cyn diwedd tymor yr haf, ac mae hynny'n bwysig iawn.
Ond byddwn i'n dweud wrth Siân Gwenllian: fe hoffwn innau hefyd fod â channoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol i'w gwario ar addysg, ond wrth alw am hynny mae'n rhaid ichi ddweud wrthyf lle y dylem ni beidio â gwario arian, oherwydd dyna ganlyniad y sefyllfa yr ydym ynddi—naill ai lle y dylem ni beidio â gwario arian neu lle ydych chi'n dymuno codi'r refeniw ychwanegol hwnnw.
O ran yr hyn sy'n statudol a'r hyn nad yw'n statudol, y rhesymeg y tu ôl i'r hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, yn y lle cyntaf, yw ei fod yn dal yn ffyddlon i'r egwyddorion a'r argymhellion yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' gwreiddiol. Ategir hyn hefyd gan argymhelliad gan y grŵp arbenigol a ddaeth at ei gilydd ar addysg cydberthynas a wnaeth argymhelliad clir iawn i mi y dylai hyn hefyd fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Ac fe fyddai'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod: ymhle yn y ddogfen hon y gall hi weld diffyg ymrwymiad ar fy rhan i neu Lywodraeth Cymru o ran mater iechyd meddwl a llesiant?
Un o'r agweddau pwysicaf ar y broses hon o ddiwygio'r cwricwlwm yw cynnwys maes dysgu a phrofiad sy'n ymroddedig i iechyd a llesiant ein plant ni. Mae hynny'n newydd o'i gymharu â'r hyn oedd gennym yn y gorffennol. A phe byddech chi'n darllen y datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig' a phe byddech chi'n darllen y camau dilyniant, fe welwch chi'n eglur iawn bwyslais cryf ar sicrhau bod plant yn dysgu am emosiynau, yn dysgu am sut y gall yr emosiynau hynny effeithio ar eu llesiant nhw, sut gallan nhw ofyn am gymorth pan maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorlethu, a sut y gallan nhw ddatblygu i fod yn fwy cydnerth.
O ran hanesion Cymru, ac rwy'n falch iddi ddefnyddio'r gair 'hanesion' Cymru—ymddengys ei bod hi'n iawn i rai ohonom ddefnyddio'r term hwnnw ac efallai nid eraill. Ond rwy'n cytuno â hi fod angen dysgu hanesion mewn dull lluosog. Pe byddai hi'n troi at dudalen 23 o'r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw am y canllawiau yr ydym ni'n eu rhoi i ysgolion ar sut y byddan nhw'n datblygu eu cynllun cwricwlwm eu hunain, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Fe ddylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr weledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sydd: yn cyfrannu at y dysgwyr yn gwireddu'r pedwar diben ac yn caffael y sgiliau annatod sy'n sail iddynt; ac yn cefnogi datblygiad synnwyr hunaniaeth eu dysgwyr yng Nghymru.
Mae'n mynd ymlaen, ar dudalen 30, i roi arweiniad clir ar 'Gynllunio Cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru'. Ac rwy'n dyfynnu eto:
Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hamrywiaeth, ei hieithoedd a'i gwerthoedd, ei hanes a thraddodiadau ei chymunedau a'i holl bobl. Mae meithrin dysgwyr gydag angerdd a balchder ynddynt eu hunain, eu cymunedau a'u gwlad yn ganolog i'r pedwar diben.
Rydym yn gwbl eglur. Ac mae'n rhaid imi ddweud, fe fyddai cyfyngu hynny i wersi hanes Cymru yn amddifadu'r cyfle a nodir yn glir yn y ddogfen hon a'r disgwyliad bod angen i gynllunio cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru gynnwys pob un maes dysgu a phrofiad. Os gall hi ddangos i mi yn y ddogfen hon unrhyw ddiffyg ymrwymiad yn hynny o beth, yna fe hoffwn i ei weld ef.