– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 28 Ionawr 2020.
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Addysg ar fframwaith cwricwlwm Cymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig i Gwricwlwm Cymru. Mae'r rhain yn nodi: canllawiau i bob ysgol ar gyfer datblygu eu cwricwlwm nhw; disgwyliadau ynghylch trefniadau asesu i gefnogi hynt y dysgwyr; a'r gofynion deddfwriaethol arfaethedig i sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer dysgwyr ledled y wlad.
Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol ni. Nid oes dim mor hanfodol â bod y profiadau, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gael yn gyffredinol ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar. Mae ein canllawiau newydd ni'n ddatganiad clir o'r hyn sy'n bwysig o ran darparu cwricwlwm ac addysg eang a chytbwys. Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyheadau a rennir ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc. Ac, wrth gyflawni'r rhain, rydym ni'n disgwyl llawer oddi wrth bawb, yn hyrwyddo llesiant unigol a chenedlaethol, yn mynd i'r afael ag anwybodaeth a chamwybodaeth, ac yn annog ymgysylltiad sy'n feirniadol ac yn ymwybodol o ddinasyddiaeth.
Mae ein canllawiau ni'n gynnyrch proses faith o gydlunio, sy'n cynnwys ymarferwyr o ysgolion ledled Cymru. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r ymarferwyr hynny am eu hymroddiad dros y tair blynedd diwethaf wrth ddrafftio'r canllawiau hyn ar y cyd. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r unigolion a'r sefydliadau a fu'n ymwneud â'r cyfnod adborth y llynedd, ar ôl i'r canllawiau drafft gael eu cyhoeddi. Mae ansawdd a manylder y cyfraniadau hyn wedi helpu i wneud gwelliannau sylweddol. Yn yr hydref, fe gyhoeddais i ddadansoddiad o'r adborth hwn; heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb i'r adborth hwnnw hefyd, ynghyd â'r canllawiau.
Yn ystod yr hydref, mae ymarferwyr a swyddogion wedi gweithio i ddiwygio'r canllawiau gan ymateb i'r adborth hwnnw, ac yn benodol i: symleiddio a lleihau maint y canllawiau; egluro pa rannau o'r fframwaith cwricwlwm newydd fydd yn orfodol i sicrhau tegwch yn yr holl ysgolion; a rhoi mwy o eglurder a manylder lle mae angen mwy o gymorth ar ymarferwyr, gan roi arweiniad iddyn nhw ar gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae'r adborth hwn, ynghyd â'r broses o gydlunio wedi bod yn allweddol: arweiniad a gynhyrchwyd gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, drwy ddeialog barhaus â'n system addysg ni yn ei chyfanrwydd.
Mae gweld pob ymarferwr yn ddyluniwr cwricwlwm yn golygu newid sylfaenol i addysg yng Nghymru. Nid yw'r canllawiau newydd yn pennu rhaglen ragnodol y gellir ei chyflwyno'n syml. Yn hytrach, maen nhw'n ymwneud â grymuso ymarferwyr i benderfynu beth fydd yn helpu eu dysgwyr nhw i fod yn uchelgeisiol ac yn fedrus, yn foesol a gwybodus, yn fentrus ac yn greadigol, ac yn iach ac yn hyderus.
Mae'r canllawiau newydd yn canolbwyntio ar ddull mwy integredig o ddysgu. Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad yn tynnu disgyblaethau cyfarwydd ynghyd ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon rhyngddynt. Er bod y disgyblaethau yn parhau i fod yn bwysig, mae'r dull newydd hwn yn helpu dysgwyr i feithrin cysylltiadau gydol eu haddysg, gan eu helpu nhw i ddeall nid yn unig yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu, ond pam mae hynny'n cael ei ddysgu iddyn nhw.
Mae ein canllawiau newydd yn rhoi lle canolog i hynt dysgwyr hefyd, ac mae asesu yn chwarae rhan sylfaenol yn y broses o gefnogi hyn. Mae'r canllawiau wedi cael eu seilio'n llwyr ar dystiolaeth ryngwladol ar gyfer hynt yr addysg. Bydd hyn yn galluogi pob dysgwr i ddod yn ei flaen drwy gydol ei addysg, ym mhob maes a disgyblaeth, yn hytrach na dim ond dysgu torreth o ffeithiau. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys canllawiau penodol hefyd ar ddatblygu trefniadau asesu i gefnogi hynt dysgwyr a galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio.
Y tu hwnt i'r pwyslais ar gydlunio, mae'r newidiadau hyn yn wahanol i lawer o'r mathau tebyg o ddiwygiadau a welwn ni mewn tair ffordd allweddol. Mae'r canlyniadau dysgu yn ein canllawiau ni'n seiliedig ar dystiolaeth a methodoleg gadarn i gynnal dysgu dros gyfnodau o dair blynedd. Mae canlyniadau mewn mannau eraill yn gul neu'n amwys iawn yn aml, gan roi cyfarwyddyd annigonol i ymarferwyr. Mae ein harweiniad ni'n canolbwyntio ar ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm nhw eu hunain. Mae diwygiadau mewn mannau eraill yn aml yn ystyried hyn yn gyfan gwbl ymhlyg. Fe fydd yr adran 'Cynllunio eich Cwricwlwm' yn helpu ymarferwyr i ddatblygu cwricwlwm o ansawdd uchel.
Ac rydym ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ysgolion yn cael y gefnogaeth lawn i wireddu'r cwricwlwm yn eu hysgol nhw o fewn y fframwaith a roddwn ni. Mae tystiolaeth ryngwladol yn ei gwneud hi'n glir mai'r cam nesaf hwn—gweithredu ar ein diwygiadau ni—yw'r her fwyaf un. Wedi'r Pasg, byddaf yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu cwricwlwm ni sy'n seiliedig ar y mannau y dylai ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion arnyn nhw ar wahanol bwyntiau hyd at 2022, a sut y byddwn ni a'r haen ganol yn eu cefnogi nhw yn y broses honno.
Roedd y cam adborth yn ei gwneud yn glir y bydd angen canllawiau penodol, ychwanegol i gefnogi ymarferwyr mewn meysydd arbennig. I'r perwyl hwn, Dirprwy Lywydd, yn ystod y 18 mis nesaf fe fyddaf i'n cyhoeddi fframwaith hefyd ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i lywio datblygiad y meysydd llafur a gytunwyd ym mhob awdurdod lleol; canllawiau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb; canllawiau ar yrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith; galluogi camau i gefnogi dysgwyr ar ddechrau'r continwwm dysgu; cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir i'w fabwysiadu; ac arweiniad ar ddatblygu cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heb fod mewn ysgol.
Mae'n hanfodol nawr bod y Llywodraeth, consortia rhanbarthol, Estyn ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i gynorthwyo pob ysgol, lleoliad ac ymarferwr i ddeall y cwricwlwm newydd a'i gyflawni. Yn ogystal â'r ymrwymiadau a wnes i ynglŷn â dysgu proffesiynol, mae swyddogion yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac Estyn i sefydlu rhwydweithiau cenedlaethol o ymarferwyr ac arbenigwyr i rannu arbenigedd ac addysg, a nodi blaenoriaethau ar gyfer cefnogi'r proffesiwn i fod yn barod. Mae swyddogion yn gweithio gydag ymarferwyr i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu adnoddau, i sicrhau bod ystod o ddeunyddiau ategol ar gael erbyn 2022 i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Mae swyddogion yn gweithio'n agos hefyd gyda Cymwysterau Cymru wrth iddo ystyried sut y gallai fod angen i gymwysterau newid ar gyfer cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd a rhoi cefnogaeth iddo. Mae hwn yn gyfle newydd i ystyried natur a swyddogaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed.
Gadewch imi fod yn glir: dim ond y cam nesaf o gydlunio yw cyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer y cwricwlwm. Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r proffesiwn i sicrhau y bydd hyn yn llwyddiant. Ond mae'n bryd nawr i bob ymarferwr ymgysylltu yn llawn â'r hyn a gyhoeddwyd. Fe ddylai'r ysgolion gymryd y gofod a'r amser i ddeall model y cwricwlwm a dechrau trafod sut y bydd eu gweledigaeth a'u gwerthoedd nhw'n llywio eu cwricwlwm eu hunain yn y pen draw. Ni ddylent ruthro i geisio ei gynllunio neu ei weithredu ar unwaith.
Mae'r cwricwlwm newydd hwn yn cynrychioli ymdrechion gorau'r proffesiwn addysg. Y cam nesaf yn ein taith ddiwygio yw paratoi'r proffesiwn i'w wireddu ym mhob ystafell ddosbarth ac ar gyfer pob dysgwr yn ein cenedl ni.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am ddatganiad cynhwysfawr iawn ar y daith hyd yn hyn. A gaf i fynegi fy niolch i bawb arall sydd wedi bod â rhan yn yr hyn sy'n edrych, yn sicr, fel cryn dipyn o waith caled? Rwyf wedi egluro o'r blaen fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau ers tro y dylem adael llonydd i athrawon ddysgu, ac rydym eisoes yn cefnogi rhai o'r newidiadau mewn egwyddor. Mae hynny'n mynd law yn llaw â'n craffter ni, os hoffech chi, o ran chwilio am fwy o wybodaeth ynghylch sut beth fydd y craffu o ran atebolrwydd a'r dull o fesur y dyfodol—agweddau yr wyf i'n siŵr y byddwn yn dychwelyd atyn nhw ryw ddiwrnod eto.
Yn bersonol, rwy'n gobeithio ein bod ni'n symud oddi wrth yr awyrgylch hon o orfod sefyll 13 neu 14 o bynciau TGAU, neu o leiaf arholiadau blwyddyn 11, er mwyn profi eich gallu. Fe ddaw yn fater o ofyn gormod ohonoch chi, o'i ystyried felly. Os ydym am osgoi addysg ar gyfer arholiadau'n unig, ac rwy'n gobeithio ein bod ni i gyd o'r un farn yn hyn o beth, bydd angen dod o hyd i ffordd y gall disgyblion ddangos eu cyflawniadau ar draws y cwricwlwm ehangach hwn, ac eto, rwy'n amau'n gryf y bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei drafod eto.
Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â'r pwynt a wnaethoch chi, Gweinidog, ynglŷn â gweithredu—sut y caiff hynny ei gyflawni a sut mae pethau ar y cam datblygu hwn. Rydym yn gorfod aros am ryw 18 mis i gael rhai fframweithiau cwbl allweddol ar ganllawiau, yn anad dim ar feysydd mwy sensitif y cwricwlwm, nad ydyn nhw'n rhoi'r amser i ymarferwyr na'r amrywiaeth o gydlunwyr—mae'n well gennyf i o hyd eu galw nhw'n 'gydgynhyrchwyr'—i fynd i'r afael â hyn erbyn y byddwn ni wedi cyrraedd 2022. Felly, tybed a wnewch chi roi rhyw amcan inni ynghylch pam ydych chi'n credu, o gofio'r gwaith aruthrol sydd wedi ei wneud eisoes ar hyn, y bydd yn rhaid inni aros cyhyd am fframweithiau a chanllawiau manwl ar y meysydd mwy sensitif hynny.
Wrth gwrs, mae llenwi'r cwricwlwm â deunydd yn parhau i fod yn her graidd ar yr adeg hon yn y datblygiad. Mae'r canllawiau, fel ag y maen nhw, yn ddefnyddiol, ac nid wyf yn honni nad ydyn nhw ddim. Ond yn anochel rwy'n amau y bydd athrawon presennol yn parhau i ddibynnu ar y corff sylweddol o wybodaeth sydd ganddyn nhw, a hyd yn oed ar rai o'r adnoddau sydd ganddyn nhw eisoes, i benderfynu ar yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud pan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol ar fore Llun ac yn gorfod sefyll o flaen dosbarth o blant blwyddyn 7. Rwy'n credu, o'r hyn a glywaf i, mai'r ysgolion uwchradd sy'n mynd i weld yr her fwyaf yn y newid hwn, os caf ei roi felly.
Felly, wrth edrych ar y £39 miliwn yr ydych chi wedi ei ddyrannu eisoes, dros sawl blwyddyn, i sicrhau bod athrawon yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd hwn, a wnewch chi roi rhyw amcan inni o faint o hynny fydd yn mynd i roi amser i'r rhai sy'n dylunio'r cwricwlwm—o fewn yr ysgolion ac ymysg ysgolion hefyd? Beth mae'r athrawon wedi ei ddweud wrthych chi hyd yn hyn ynghylch sut y byddan nhw'n gallu rheoli'r absenoldebau hyn neu'r angen am absenoldebau, sut i greu'r amser digyswllt hwnnw o fewn y diwrnod ysgol? Roeddwn i'n clywed eich anogaeth i beidio â bwrw ymlaen yn rhy gyflym yn hyn o beth, ond mewn gwirionedd, mae'r amser wedi mynd yn brin—nid yw 2022 mor bell i ffwrdd â hynny. Ac wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar ddeddfwriaeth yn fuan iawn, sy'n fy ngwneud i braidd yn bryderus gan fod peth o'r gwaith ar yr elfen allweddol hon o gyflawni gweithrediad, os mynnwch chi, heb ei gwblhau eto, ac felly mae'n rhaid i mi ofyn: beth fydd wedi cael ei gwblhau erbyn inni gyrraedd y cam y cawn wahoddiad i gyflwyno gwelliannau i'ch deddfwriaeth chi?
Rydych chi'n sôn llawer yn eich datganiad am gyd-lunio ac am ymarferwyr, ac o ran addysgeg rwy'n gweld pwrpas hynny'n amlwg, ond nid oeddech yn sôn dim am gymunedau a theuluoedd yn y darlun hwn o gyd-lunio. Rwyf i o'r farn y bydd hyn yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer y meysydd mwy sensitif a gorfodol yn y cwricwlwm os ydyn nhw am weithio, ac i osgoi teuluoedd gofidus yn dewis addysg yn y cartref i'w plant fel protest yn erbyn yr hyn a ymddengys yn golled o'r hawl i dynnu'n ôl.
A wnewch chi roi rhyw syniad i ni ar y cam hwn, er enghraifft, o'ch ffydd chi, BAME, rwy'n credu y gelwir hyn yn 'grŵp cynnwys cymunedau', os wyf i'n iawn, a fydd hwnnw'n fforwm canolog ynteu a fydd yna fersiynau lleol o hynny? Oherwydd rwy'n awyddus iawn i ddeall beth fydd swyddogaeth y gymuned ar lefel leol wrth lunio'r cwricwlwm lleol hwnnw. Os bydd y gymuned yn cyfrannu'n lleol, a theuluoedd yn enwedig, pwy fydd yn gyfrifol am dynnu'r holl waith lleol hwnnw ynghyd os nad yw hyn, gobeithio, yn ymwneud ag ymarferwyr yn unig? Beth fydd swyddogaeth y consortia yn y darn arbennig hwnnw o waith? Ac efallai unwaith eto, i fod yn graff—nid wyf i'n disgwyl ichi allu ateb hynny heddiw—ond tybed a allwch chi roi rhyw syniad inni o faint o dynnu'n ôl sydd wedi bod ac efallai ar ba sail y bu hynny, dros y pum mlynedd diwethaf, dyweder, fel y gallwn ni gael rhywfaint o ddealltwriaeth gynnar am y broblem a allai godi o ganlyniad i ddileu hawliau rhieni i dynnu'n ôl.
A wnewch chi roi syniad inni o'r modd y mae plant sydd eisoes yn cael eu haddysg yn y cartref oherwydd dewis y rhieni, ond hefyd y plant sy'n cael addysg heb fod mewn ysgol am resymau eraill, sut y bydden nhw'n cael mynediad i'r cwricwlwm newydd hwn, yn arbennig gan fod llawer ohonyn nhw'n dibynnu ar gymorth allanol annibynnol ar gyfer yr addysg a gynigir i'r plant? Rwy'n credu fy mod i wedi codi pryderon gyda chi eisoes ynghylch pwy all gael mynediad i blatfform Hwb, ac ar hyn o bryd, ni fydd ysgolion annibynnol yn cael gwneud hynny. Ond fe hoffwn i gael rhyw arwydd o sut yr ydych chi'n credu y gallai darparwyr addysg annibynnol, ar wahân i ysgolion annibynnol, wneud hynny i sicrhau nad yw'r plant nad ydyn nhw mewn ysgol yn cael eu rhoi dan anfantais.
Ac yna, ar fater rhagnodi, fe wn i'n hollol eich safbwynt chi yn hyn o beth. Gwn nad ydych chi'n dymuno gweld hynny. Rwy'n eich canmol chi—mae'n rhaid imi ddweud hyn—am gyfeirio o leiaf at sgiliau achub bywyd brys yn y canllawiau. Ond tybed a yw hynny'n gofyn ychydig bach yn ormod. Pe gallech chi ei wthio ychydig ymhellach drwy ofyn i ysgolion roi rhesymau pam nad ydyn nhw'n ei gynnwys yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw ei gynnwys, oherwydd nid yw hynny mewn gwirionedd yn symud pethau ymlaen o'n sefyllfa bresennol ni. Mae yna gymaint o ddarparwyr a sefydliadau sy'n barod i wneud y gwaith hwn, nid yw fel pe na allai ysgolion fodloni'r galw'n hawdd, ac nid wyf yn awyddus i'w gweld yn dod o hyd i resymau i beidio â gwneud hyn.
Fe roddaf gyfle i eraill—gan fy mod i'n siŵr y bydd hyn yn digwydd—godi mater statws a phresenoldeb yr hyn yr ydych chi'n ei alw yn 'ddimensiwn Cymreig' yn y cwricwlwm. Rwyf am adael hynny i rywun arall.
Ond mae yna un peth mwy penodol yr hoffwn i ei ofyn i chi, Gweinidog. Yr wythnos hon, wrth gwrs, rydym ni'n cofio am erchyllterau'r Holocost. Nid hanes yn unig yw hyn ac nid rhywbeth sy'n cael ei ddarlunio fel enghraifft ynghylch hil-laddiad neu gydraddoldeb; yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei ymgorffori yn ein DNA cyfunol. Nid yn unig oherwydd y Pwyliaid a'r Iddewon a'r Roma a'r bobl anabl a'r bobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a ddioddefodd, ond am ei fod yn rhywbeth sy'n wir annirnadwy. Does dim angen atal addysgu am yr Holocost, ac rwy'n derbyn popeth a glywsom ni gan y Dirprwy Weinidog yn gynharach, ond a fyddech chi'n ystyried rhoi lle blaenllaw i'r Holocost o fewn y canllawiau pan fyddant yn mynd allan i ymgynghoriad pellach? Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Suzy Davies am y pwyntiau a godwyd ganddi a'r cwestiwn a ofynnodd hi? Yn gyntaf, fe soniodd am weithredu. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun gweithredu yn ddiweddarach y tymor hwn. Rwy'n awyddus i ymarferwyr a phartïon â diddordeb allu treulio'r wythnos neu ddwy nesaf yn darllen dogfen helaeth iawn, gan ddechrau rhoi meddwl ar waith cyn bod rhaid iddyn nhw, yn sydyn iawn, gael cynllun gweithredu hefyd gan y Llywodraeth. Rwy'n dymuno eu gweld yn ymgysylltu â'r ddogfen hon, ac ystyried yr hyn a ysgrifenwyd ynddi, a dechrau rhoi'r meddwl ar waith. Ond mae'n amlwg y bydd angen wedyn inni nodi cyfres o bwyntiau a darnau o waith y bydd angen i ysgolion unigol eu cyflawni rhwng nawr a mis Medi 2022, i sicrhau bod pawb yn y lle iawn, ac yn symud ymlaen o ran eu parodrwydd.
Yr hyn y soniais i amdano o ran canllawiau ychwanegol, cafwyd galwad clir gan bobl am ryw gymaint o gymorth ychwanegol yn y maes hwn. Er y byddwch wedi gweld o'r hyn a gyhoeddwyd gennym heddiw, rydym wedi bod yn fanwl iawn ym mhob maes dysgu a phrofiad, gyda phob datganiad o'r 'hyn sy'n bwysig' oddi tano, a'r camau o ran cynnydd. Yr hyn y byddwn ni'n ei ddarparu o ran canllawiau fydd gwybodaeth ychwanegol dros ben hynny, yn ogystal â'r hyn sydd eisoes yn arweiniad cynhwysfawr iawn ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys yn y meysydd hynny. Ond, yn amlwg, wrth feddwl am bynciau y mae pobl, yn ddealladwy iawn, yn teimlo'n gryf iawn yn eu cylch, ynglŷn â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addysg cydberthynas, oherwydd eu pryderon am yr hyn y gallai hynny ei gynnwys, rydym eisiau bod yn eglur iawn ynghylch yr hyn y mae'n ei olygu, ac efallai yn bwysicach, yr hyn nad ydyw'n ei olygu. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwyf wedi bod braidd yn bryderus ynglŷn â rhywfaint o'r ohebiaeth a ddaeth i law dros yr wythnos ddiwethaf, lle mae yna gamddealltwriaeth fawr ynglŷn â'r hyn a ddysgir mewn ysgolion ar hyn o bryd, a'r hyn yr ydym ni'n disgwyl y bydd ysgolion yn ei ddysgu yn y dyfodol. Felly, i dawelu meddyliau rhieni a chymunedau ynghylch yr hyn y disgwyliwn i athrawon eu plant ei ddysgu iddyn nhw, rydym ni'n dymuno bod yn fwy penodol er mwyn rhoi'r hyder hwnnw ynghylch materion sydd, yn ddealladwy, yn sensitif, ac mae pobl yn awyddus i gael sicrwydd.
I'r perwyl hwnnw, fe fydd y grŵp dan sylw yn eistedd ochr yn ochr â'n grŵp ni o lunwyr a fydd yn edrych ar y canllawiau hynny, yn enwedig o ran addysg am gydberthynas. Ond fe fyddwch chi wedi gweld yn y ddogfen a gyflwynais i heddiw ein bod ni wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ragweld fydd yr egwyddorion a fydd yn sail i'r canllawiau ynghylch addysg cydberthynas. Maen nhw'n seiliedig ar egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar yr hyn sy'n gymwys fel arfer gorau wrth ddysgu'r pynciau hyn i blant a phobl ifanc.
Gwn fod yr Aelod yn rhannu fy mhryder, wrth ystyried y meysydd hyn, fod gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod ein plant ni'n ddiogel. Mae ein plant ni'n aeddfedu mewn byd sy'n eithriadol wahanol, Dirprwy Lywydd, o ran y mynediad i wybodaeth am berthnasoedd a rhywioldeb. Mae'r dyddiau wedi hen ddiflannu pan oeddem ni'n pasio copi o Judy Blume o amgylch y dosbarth er mwyn inni gael dysgu mwy am y mislif. A phan oeddem ni ychydig yn hŷn, fe ddiflanodd y dyddiau pan oedd gennym ni nofel gan Jackie Collins, yr oeddem ni'n ei phasio hi o gwmpas yr ystafell ddosbarth eto, a dyna sut y cawsom ni'r wybodaeth yna. Diniwed tu hwnt erbyn hyn, onid e? Ond mae ein plant ni yn llythrennol glic neu ddau yn unig oddi wrth luniau brawychus. Fe welsom ni rai lluniau anweddus o bobl ifanc yn ddiweddar gan arbenigwyr yn y maes—y gyfran o'r pethau sydd mewn gwirionedd yn cael eu rhoi yno gan y bobl ifanc eu hunain, heb fod yn ymwybodol o'r niwed a'r perygl y gallan nhw fod yn eu rhoi eu hunain ynddo. Rwyf i o'r farn fod gennym gyfrifoldeb i addysgu ein plant ni ar gyfer eu cadw nhw'n ddiogel, a'r egwyddorion a fydd yn sail i'n haddysg ni yn y maes hwn yw egwyddorion arfer gorau gan y Cenhedloedd Unedig.
O ran dysgu proffesiynol, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod y mwyafrif helaeth o'r arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i benaethiaid ac arweinwyr ysgolion yn uniongyrchol, gan mai y nhw sy'n deall anghenion dysgu proffesiynol eu staff. Ac nid oes modd inni wybod am hynny i gyd yn ganolog. Rydym yn ymddiried yn arweinwyr yr ysgolion hynny i allu cynllunio rhaglen ddysgu broffesiynol sy'n diwallu anghenion eu staff arbennig nhw, ac y gall dysgu proffesiynol ddigwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd. Daeth galwad gan yr undebau i barhau â'r cyllid hwnnw. Oherwydd fe fyddwch chi'n ymwybodol fod yna gyllid yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; roedd gweithwyr proffesiynol yn pryderu y byddai'r cyllid hwnnw'n dod i ben, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud ymrwymiad i ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd. Bydd yn ofynnol i bob ysgol gyhoeddi ei chynllun dysgu proffesiynol, fel y gallwn ni weld— neu y gall unrhyw un sydd â diddordeb weld—sut mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu proffesiynol i'r staff yn y ffordd neilltuol honno.
Ymhellach—rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyfeirio at ymgynghori pellach. Dyma fersiwn derfynol y ddogfen hon—nid oes ymgynghoriad pellach i fod ar yr hyn sy'n cael ei gyhoeddi heddiw. Dyma hi, felly ni fyddwn yn mynd yn ôl allan i holi ynglŷn â hyn. O ran y ddeddfwriaeth—fe fydd y ddeddfwriaeth honno, a gaiff ei chyhoeddi ar ôl toriad y Pasg, yn ddarostyngol i'r broses graffu arferol yn y fan hon. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut y byddwn ni'n defnyddio deddfwriaeth—y Bil cwricwlwm ac asesu—o ran deddfu ar gyfer y pedwar diben, y meysydd dysgu a phrofiad, a'n bwriad i gael cod o ran datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig'. Fe fyddwch chi'n ymwybodol hefyd y bydd angen inni sicrhau wedyn bod y ddeddfwriaeth yn ystyried anghenion a disgwyliadau'r cwricwlwm ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion hefyd, ac yn wir ar gyfer yr addysg a gaiff plant sydd heb fod mewn ysgol. Ac fe fydd y Bil cwricwlwm ac asesu yn nodi ein disgwyliadau ni'n eglur yn hynny o beth, gan gydnabod rhai elfennau craidd y bydd yn rhaid i bob darparwr eu cynhyrchu, ond gan gydnabod, mewn rhai achosion, er budd gorau'r plant, na chaniateir rhai agweddau ar y cwricwlwm, oherwydd bod hynny er budd mwyaf y dysgwr penodol hwnnw.
Fe ddechreuodd yr Aelod ei chyfraniad drwy siarad am blant yn sefyll 12 neu 13 o wahanol TGAU. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae Cymwysterau Cymru ynghanol rhan gyntaf ei ymgynghoriad ar ddyfodol cymwysterau. Ac rwy'n siŵr y bydd y cynnwys ond hefyd y dymuniad neu'r angen i sefyll 12 neu 13 TGAU yn rhan o gyfansoddiad yr archwiliad hwnnw, oherwydd mae hon yn her, yn sicr. Ond gwaith pellach i'w wneud eto yw hwnnw.
Hoffwn i y prynhawn yma fynd ar ôl dau fater penodol—fydd y materion yma ddim yn newydd i chi; dwi wedi eu codi nhw o'r blaen—yn gyntaf, gweithredu'r cwricwlwm newydd. Mae'ch datganiad chi heddiw yn cydnabod, wrth gwrs, mai gweithredu'r diwygiadau ydy'r her fawr, a bod yna dystiolaeth ryngwladol yn dangos bod hynny wedi bod yn glir mewn sefyllfaoedd eraill. A'r ail bwynt dwi am ei wyntyllu ychydig bach ymhellach ydy sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn statudol, tra'n neilltuo rhai eraill o'r ddeddfwriaeth?
Does yna ddim dwywaith bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i fod yn newid anferth i'r byd addysg yng Nghymru, a meddech chi heddiw y dylai ysgolion gymryd amser i ddeall model y cwricwlwm. Ac felly hoffwn i ofyn i chi'n gyntaf: ydych chi'n cytuno y bydd hyn, y bydd deall model y cwricwlwm newydd, yn fwy o her i'r sector uwchradd nag i'r sector cynradd? Ydy'r sector cynradd, yn enwedig o gofio datblygiad y cyfnod sylfaen, yn fwy parod, efallai, ar gyfer y weledigaeth newydd yma ar gyfer deall model y cwricwlwm?
Rydych chi'n sôn am yr angen i ysgolion gyd-gynllunio. I gyd-gynllunio, mae angen i ysgolion gael y gofod i ddod at ei gilydd. Ac eto, meddech chi yn eich datganiad heddiw, mae angen i ysgolion greu gofod ac amser i ddeall model y cwricwlwm, a pheidio â rhuthro'r broses o weithredu'r cwricwlwm newydd. Dwi'n cytuno yn llwyr efo hynny, ond mae creu'r gofod yn costio. Mae angen cyflogi athrawon llanw ac yn y blaen. Sut ydych chi'n gweld hwnna'n gweithio yn ymarferol? Ac ydych chi eto yn credu y bydd hi'n haws i greu'r gofod yma ar gyfer y cyd-gynllunio yn y cynradd, lle mae yna lai o blant, i ddechrau, mewn ysgolion cynradd o gymharu efo'r uwchradd? Ac i fynd yn ôl at y dystiolaeth ryngwladol roeddwn i'n cyfeirio ati ar y cychwyn, pa wersi sydd yna i'w dysgu o'r dystiolaeth yma wrth feddwl am wreiddio a gweithredu'r cwricwlwm yn y sector uwchradd yn benodol?
Wrth gwrs, mi fyddwch chi'n ateb ac mi fyddwch chi'n sôn am y dyddiau hyfforddiant mewn swydd a bod hynny yn mynd i helpu i ganiatáu i ysgolion gael y gofod yma, ond dim ond i raddau mae hynny yn mynd i helpu. A byddwch chi'n sôn am y £39 miliwn ychwanegol hefyd sy'n cael ei glustnodi tuag at hyfforddiant mewn swydd, ond a ydy hynny yn ddigon? Hyn ydy fy mhryder i. Dwi'n credu, os ydy hwn yn mynd i lwyddo, ac rydyn ni i gyd eisiau ei weld o'n llwyddo, mae angen chwistrelliad sylweddol o arian i gefnogi gweithrediad y cwricwlwm. Mae'r ysgolion ar eu cluniau'n barod ac mae yna beryg i gyflwyno newid mor anferth ar gyfnod o gynni ariannol—mae yna beryg iddo fo fethu yn llwyr.
Ac felly, mi fyddwn yn gofyn i chi, ac i'r Llywodraeth yn fwy nag i chi fel y Gweinidog Addysg—dwi'n gwybod eich bod chi'n dadlau dros fwy o arian i addysg, ond mae hwn yn gwestiwn i'r Llywodraeth mewn gwirionedd. Onid oes angen i'r Llywodraeth gael bach o reality check yn fan hyn a sylweddoli bod angen cannoedd o filoedd yn fwy o bres er mwyn creu llwyddiant o'r cwricwlwm newydd—ddim y symiau cymharol fechan sydd dan sylw ar hyn o bryd? Mae eisiau chwistrelliad sylweddol i greu'r llwyddiant rydyn ni ei angen.
A jest i drafod yr ail bwynt yma—rydyn wedi ei drafod o o'r blaen, ond dwi'n dal i geisio deall sut ydych chi'n cysoni gwneud rhai materion yn rhan statudol o'r cwricwlwm, ond wedyn yn neilltuo rhannau eraill o'r ddeddfwriaeth. Dwi'n credu eich bod chi'n hollol iawn i gynnwys addysg rhyw, addysg perthnasoedd iach ac addysg crefydd, neu beth bynnag ydy'r enw newydd ar hwnnw rŵan. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod y rheini yn rhan statudol o brofiad pob person. Ond wedyn sut mae cysoni cynnwys y rheini, ond wedyn ddim cynnwys dwy awr o addysg gorfforol, materion yn ymwneud efo addysg lles meddyliol, hanes Cymru a Chymreictod? Dyw'r rheini ddim yn mynd i orfod bod yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm. Lle mae'r cysondeb mewn gwneud un elfen yn hanfodol, ac elfennau eraill ddim?
Rŵan, rydyn wedi cael y sgwrs yma sawl tro o'r blaen, a dwi'n gwybod y cawn ni'r ateb rydych yn ei roi fel arfer. Ond tybed—. Rydyn yn cytuno bod y materion yma'n bwysig. Dwi'n gwybod eich bod chi'n credu bod Cymreictod a hanes Cymru neu hanesion Cymru yn bwysig. Oes yna ffordd arall, felly? Yn hytrach na'u bod nhw yn y cwricwlwm, oes yna ffordd arall o sicrhau eu bod nhw yn cael eu dysgu ymhob ysgol heb rym Deddf tu ôl i hynny? Dyna ydy'r cwestiwn allweddol, mae'n debyg, gan ein bod ni'n cytuno bod angen i'r rhain gael eu dysgu. Sut ydyn ni yn mynd i wneud hynny os nad ydyn ni'n eu cynnwys nhw yn y ddeddfwriaeth?
Diolch yn fawr i Siân am ei chyfraniad hi. Yn gyntaf, fe fuom ni'n siarad am y gofod a'r amser i baratoi. Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig. Dyna pam y gwnes i benderfyniad i ohirio cyflwyno'r cwricwlwm, yn gyntaf, i roi mwy o amser inni, ac fe wnes i'r penderfyniad i newid y ffordd y byddai'r cwricwlwm yn cael ei roi ar waith drwy gyflwyno dull gweithredu fesul cam yn y sector uwchradd, yn hytrach na gwneud pob dim ar unwaith, sef y cyngor a gefais yn wreiddiol. Oherwydd mae Siân Gwenllian yn iawn: mae symud i'r cwricwlwm newydd yn golygu, mewn sawl ffordd, fwy o her i'n cydweithwyr ni yn y sector uwchradd nag a wna yn y sector cynradd, lle mae'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn estyniad naturiol i lawer o'r egwyddorion sydd wedi bod yn sail i'n cyfnod sylfaen ni. Dyna pam, felly, yr oedd hi'n neilltuol bwysig i allu cyflwyno hyn yn y sector uwchradd fesul cam, i ganiatáu mwy o amser i addasu a dysgu proffesiynol a bod yn barod.
Mae Siân Gwenllian yn gywir i ddweud fy mod i'n mynd i sôn am y diwrnod HMS ychwanegol; pe byddai wedi gweld rhai o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y diwrnod HMS hwnnw, byddai wedi gweld, mewn rhai sectorau, nad rhywbeth poblogaidd i'w wneud oedd hynny. Ond mae'n rhywbeth sy'n angenrheidiol i'w wneud er mwyn cynyddu, unwaith eto, yr amser sydd ar gael i ysgolion. Rydym wedi bod yn glir iawn yn y ddogfen a gyhoeddwyd heddiw ynghylch yr angen i gydweithio nid yn unig mewn ysgol, ond gyda rhwydweithiau o ysgolion, boed hynny mewn ardal leol, boed hynny ar draws cyfnod, o ran cynradd yn siarad ag uwchradd yn siarad â cholegau addysg bellach, neu a oes angen i hynny fod mewn arbenigedd pwnc neu arbenigedd maes dysgu a phrofiad.
Wrth gwrs, nid y diwrnod ychwanegol hwnnw a roddwyd gennym dros nifer o flynyddoedd yw'r unig ddiwrnod sydd gan yr ysgolion; mae ganddyn nhw'r darpariaethau HMS presennol y gallan nhw eu defnyddio i roi hyn ar waith. Ac wrth gwrs, mae rhywfaint o'n dysgu proffesiynol gorau ni'n digwydd pan fydd plant yn yr ysgol, felly mae angen dull cymysg. Dyna pam rydym ni'n datganoli'r adnoddau sydd gennym ar gyfer dysgu proffesiynol.
Mae'r arian sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf, ac a fydd ar gael eto, yn golygu'r buddsoddiad unigol mwyaf yn y proffesiwn addysgu ers i ddatganoli ddechrau, ac mae hynny'n briodol, Dirprwy Lywydd—mae hynny'n briodol. Mae'r adnoddau hynny yn cael eu hategu hefyd gan fuddsoddiad gan y Llywodraeth hon mewn rhwydweithiau cenedlaethol newydd i gefnogi addysgeg ac arferion, ac mae hynny'n dod ar adeg pan fo gwasgfa nid ansylweddol yn parhau ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd i'n hawdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdodau lleol hynny'n cadw at eu gair o ran eu hymrwymiadau i mi, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, lle maen nhw i gyd yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar addysg.
Roeddwn wrth fy modd y bore yma i fod yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen y Fai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a chlywed gan arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr ei fwriad ef i ddefnyddio'r arian ychwanegol ar gael i flaenoriaethu gwariant ar addysg. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw ganddo ef yn fawr iawn yn wir. Mae hynny'n dod ar ben y cynnydd yn y gyllideb addysg, sydd, fel y dywedais i, yn ariannu amrywiaeth o fentrau i gefnogi gweithrediad y cynllun. Ond nid wyf i'n osgoi'r angen i archwilio'n gyfreithiol lefel y gwariant ar addysg yng Nghymru, a gwneud hynny ar sail annibynnol. Fe fydd Luke Sibieta yn adrodd cyn diwedd tymor yr haf, ac mae hynny'n bwysig iawn.
Ond byddwn i'n dweud wrth Siân Gwenllian: fe hoffwn innau hefyd fod â channoedd o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol i'w gwario ar addysg, ond wrth alw am hynny mae'n rhaid ichi ddweud wrthyf lle y dylem ni beidio â gwario arian, oherwydd dyna ganlyniad y sefyllfa yr ydym ynddi—naill ai lle y dylem ni beidio â gwario arian neu lle ydych chi'n dymuno codi'r refeniw ychwanegol hwnnw.
O ran yr hyn sy'n statudol a'r hyn nad yw'n statudol, y rhesymeg y tu ôl i'r hyn yr ydym ni wedi ei gyhoeddi heddiw, yn y lle cyntaf, yw ei fod yn dal yn ffyddlon i'r egwyddorion a'r argymhellion yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus' gwreiddiol. Ategir hyn hefyd gan argymhelliad gan y grŵp arbenigol a ddaeth at ei gilydd ar addysg cydberthynas a wnaeth argymhelliad clir iawn i mi y dylai hyn hefyd fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm. Ac fe fyddai'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod: ymhle yn y ddogfen hon y gall hi weld diffyg ymrwymiad ar fy rhan i neu Lywodraeth Cymru o ran mater iechyd meddwl a llesiant?
Un o'r agweddau pwysicaf ar y broses hon o ddiwygio'r cwricwlwm yw cynnwys maes dysgu a phrofiad sy'n ymroddedig i iechyd a llesiant ein plant ni. Mae hynny'n newydd o'i gymharu â'r hyn oedd gennym yn y gorffennol. A phe byddech chi'n darllen y datganiadau o'r 'hyn sy'n bwysig' a phe byddech chi'n darllen y camau dilyniant, fe welwch chi'n eglur iawn bwyslais cryf ar sicrhau bod plant yn dysgu am emosiynau, yn dysgu am sut y gall yr emosiynau hynny effeithio ar eu llesiant nhw, sut gallan nhw ofyn am gymorth pan maen nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorlethu, a sut y gallan nhw ddatblygu i fod yn fwy cydnerth.
O ran hanesion Cymru, ac rwy'n falch iddi ddefnyddio'r gair 'hanesion' Cymru—ymddengys ei bod hi'n iawn i rai ohonom ddefnyddio'r term hwnnw ac efallai nid eraill. Ond rwy'n cytuno â hi fod angen dysgu hanesion mewn dull lluosog. Pe byddai hi'n troi at dudalen 23 o'r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw am y canllawiau yr ydym ni'n eu rhoi i ysgolion ar sut y byddan nhw'n datblygu eu cynllun cwricwlwm eu hunain, mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Fe ddylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr weledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sydd: yn cyfrannu at y dysgwyr yn gwireddu'r pedwar diben ac yn caffael y sgiliau annatod sy'n sail iddynt; ac yn cefnogi datblygiad synnwyr hunaniaeth eu dysgwyr yng Nghymru.
Mae'n mynd ymlaen, ar dudalen 30, i roi arweiniad clir ar 'Gynllunio Cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru'. Ac rwy'n dyfynnu eto:
Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hamrywiaeth, ei hieithoedd a'i gwerthoedd, ei hanes a thraddodiadau ei chymunedau a'i holl bobl. Mae meithrin dysgwyr gydag angerdd a balchder ynddynt eu hunain, eu cymunedau a'u gwlad yn ganolog i'r pedwar diben.
Rydym yn gwbl eglur. Ac mae'n rhaid imi ddweud, fe fyddai cyfyngu hynny i wersi hanes Cymru yn amddifadu'r cyfle a nodir yn glir yn y ddogfen hon a'r disgwyliad bod angen i gynllunio cwricwlwm yng Nghymru ac ar gyfer Cymru gynnwys pob un maes dysgu a phrofiad. Os gall hi ddangos i mi yn y ddogfen hon unrhyw ddiffyg ymrwymiad yn hynny o beth, yna fe hoffwn i ei weld ef.
Diolch. Rwy'n gwybod ei fod yn bwnc pwysig iawn, ond mae gennym ni lai na 10 munud ar ôl ac mae gennym dri i siarad. Felly, os caf i ofyn i'r Aelodau roi ystyriaeth i hynny. Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n llwyr gefnogi eich agwedd chi tuag at addysg cydberthynas a rhywioldeb, gan ei wneud yn beth gorfodol, oherwydd yng nghyd-destun yr ysgol uwchradd fwyaf breintiedig, leiaf difreintiedig yn fy etholaeth i, mae'r ffonau hyn yn broblem fawr. Mae'r heddlu yno bob yr wythnos yn ceisio egluro i bobl ifanc, os ydyn nhw'n rhannu ffotograffau sy'n peryglu eu henw da ar eu ffonau, yna fe ddaw hynny'n ôl i'w bwrw nhw, naill ai'n ariannol neu byddan nhw'n cael eu hecsbloetio yn rhywiol. Oni bai fod pawb yn deall hynny, mae gennym ni broblem enfawr.
Gwyddom hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol bod pobl ifanc yn cael canllawiau anfeirniadol ar ystyr cydberthnas iach, fel bod plentyn y gofynnir iddo wneud pethau amhriodol yn cael ei rymuso i wrthod a'i fod yn gwybod ble i fynd. Credaf ei fod yn rhagrithiol fod sefydliadau sydd wedi methu â diogelu plant a phobl ifanc yn ddigonol rhag oedolion anrheithgar ar flaen y gad wedyn yn dweud y dylid gadael hynny i'r rhieni. Yn yr un modd, mae'n annerbyniol nad oes gan blentyn naw mlwydd oed syniad pam ei bod yn gwaedu rhwng ei choesau gan nad oes neb wedi mynd i'r drafferth o ddweud wrthi am y mislif.
Yn yr un modd, rwy'n teimlo bod cymdeithas y dyneiddwyr yn anghywir i ddweud bod addysg grefyddol fel rhan greiddiol o'r cwricwlwm yn stwffio crefydd i lawr corn gyddfau'r plant. Oherwydd mae'n rhaid i ni ddadadeiladu gwerthoedd a moeseg crefyddol i wahanol feysydd dysgu ac addysgu fel bod pob plentyn yn gwybod am hanes crefydd, sydd wedi'r cyfan wedi bod yn achos mwy o ryfeloedd nag unrhyw beth arall bron, ac mae rhyfeloedd yn dal i gael eu hymladd yn enw crefydd. Felly, mae angen inni ddeall y cyfan o hynny. Ac mewn byd amlddiwylliannol, amlboblogaeth, amlethnig, nid ydym yn mynd i fynd ymhell iawn o ran dysgu pobl ifanc i barchu gwahaniaeth os na allwn sicrhau bod pobl ifanc yn deall bod gwahanol gredoau gan bobl, a sicrhau bod gennym ni werthoedd a moeseg craidd, gonestrwydd, trugaredd, caredigrwydd a chydymdeimlad.
Fe soniodd Suzy Davies am y gwersi a ddysgwyd o'r Holocost. Wel, roedd Dr Martin Stern, a siaradodd yn neuadd y ddinas ddoe, yn gwbl glir mai'r hyn sydd gennym ni i'w ddysgu o'r 50 hil-laddiad sydd wedi digwydd ers yr ail ryfel byd yw dealltwriaeth o'r ffaith y gall pobl gyffredin ddatblygu i fod yn fwystfilod. Soniodd am ei gyfaill o Bosnia a gafodd ei holi gan ei gyn athro gwyddoniaeth, a oedd wedi trawsnewid o fod yn addysgwr i fod yn llofrudd. Felly, y pethau hyn i gyd; mae'n hanfodol ein bod ni'n llunio'r cwricwlwm craidd i sicrhau bod gennym ni gymdeithas wâr y mae pawb yn ei deall.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chefnogaeth o ran y ddwy ran bwysig hyn o'r cwricwlwm? Fe hoffwn i dynnu sylw pob Aelod at dudalen 38 y ddogfen, lle'r ydym yn egluro gyda pheth manylder:
Mae plant yn dechrau dysgu am gydberthynas ymhell cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Cyn gynted ag y byddant yn ymuno â'r byd cymdeithasol, byddant yn dod ar draws ac yn rhyngweithio â negeseuon sy'n aml yn gymhleth a gwrthgyferbyniol.
Meddyliwch am y negeseuon y mae dynion a menywod ifanc fel ei gilydd yn cael eu llethu â nhw o ran sut y dylen nhw edrych, sut y dylen nhw ymddwyn mewn cydberthynas. Rwy'n credu mai'r wythnos ddiwethaf neu'r wythnos flaenorol y cawsom ni ddadl rymus iawn yn y Siambr hon am drais rhywiol ac achosion o drais rhywiol. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n dysgu pob un o'n plant am egwyddorion cydsynio a sut i fod yn bartner cariadus a pharchus mewn cydberthynas.
Rydym wedi bod yn trafod melltith trais domestig yn ein cymdeithas ers amser maith. Unwaith eto, mae angen inni addysgu ein plant am gydberthynas iach. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud llawer o waith gyda'i hymgyrch 'Nid Cariad yw hyn', ond mae'n gondemniad damniol ohonom ni fel cymdeithas fod angen inni wneud felly. Os ydym yn dymuno newid yn eu hanfod rai o'r materion hyn sy'n wynebu menywod a dynion yn ein cymuned yna ein gobaith gorau o wneud hynny yw drwy addysg, a sicrhau bod ein plant, o oedran cynnar, yn deall eu rhan nhw, eu hawliau a'u cyfrifoldebau mewn cydberthynas.
Nawr, yn amlwg, mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n briodol i oedran y plentyn. Mae sut y byddwch chi'n siarad am y materion hyn gyda phlentyn ysgol gynradd yn wahanol iawn i'r ffordd y byddwch chi'n siarad am y materion hyn gyda phlentyn 16 oed. Ond os na wnawn ni hynny, ac os na fyddwn ni'n rhoi'r lle hwn a'r cyfle hwn i bobl ifanc, fe fyddan nhw'n dod o hyd i ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r wybodaeth hon—neu fe ddylwn i ddweud ffyrdd eraill o ddod o hyd i wybodaeth gamarweiniol; gwybodaeth sy'n gallu eu dychryn nhw a'u drysu nhw, gwybodaeth sy'n gallu gwneud iddyn nhw deimlo'n anniogel ac yn annheilwng. Fel y dyn ifanc a siaradodd gyda mi am ei gaethiwed i bornograffi a sut roedd hynny'n gwneud iddo deimlo fel dyn ifanc a'r hyn yr oedd ef yn credu oedd yn ddisgwyliedig ohono fel dyn ifanc. Os ydym yn poeni am iechyd meddwl ein plant, os ydym ni'n poeni am lesiant ein plant, yna mae'n rhaid inni gael y gwersi hyn. Ac mae gan bob plentyn yr hawl sylfaenol i gael y cwricwlwm llawn, ac rwy'n credu hynny'n gryf iawn.
Nawr, rydych chi'n iawn: rydym yn newid o astudiaethau crefyddol i grefydd, gwerthoedd a moeseg, i adlewyrchu natur y rhan honno o'r cwricwlwm yn well. Ond os ydym eisiau gweld dinasyddion moesol a deallus yn y byd, sut allwn ni beidio â dysgu plant am grefydd? Sut na allwn ni eu dysgu nhw am yr hawl i arddel barn grefyddol a pharchu hynny, hyd yn oed os yw eich barn chi'n un wahanol? Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn, mae arswyd yr Holocost ac arswyd Srebrenica yn enghreifftiau perffaith o sut y gallwn ni weithio ar draws y cwricwlwm. Nid dysgu am hynny yn syml mewn gwers hanes, ond ei ddysgu mewn gwers am grefydd, gwerthoedd a moeseg; dysgu am hynny mewn llenyddiaeth yn ogystal ag yn y dyniaethau; mynegi arswyd hynny drwy ein celfyddydau mynegiannol: drama, dawns, a chelf ei hun. Mae'r pynciau hynny'n alluogwyr a symbolau perffaith ac yn bwyntiau pwysig yn hanes y byd lle gallwn atgyfnerthu pwysigrwydd hynny o ran hawliau, hawliau dynol a pharch, sydd unwaith eto'n rhedeg trwy'r cwricwlwm cyfan.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ceisio rhoi sicrwydd i rieni, ac addysgwyr yn wir, am y dull y mae hi'n awyddus i'w ddilyn yn y cwricwlwm newydd hwn, yn enwedig o ran addysg rhyw a chydberthnasedd, ac yn wir addysg grefyddol? Rwy'n siarad fel crediniwr sydd â diddordeb mewn ffydd ac sy'n bartner i grwpiau ffydd o bob math ar bob math o wahanol faterion, a gwn y bydd y rhain yn cyd-weld yn llwyr â llawer o'r hyn a ddywedasoch.
Ond, wrth gwrs, mae yna un her, os mynnwch chi, sydd wedi ei rhoi i Lywodraeth Cymru gan y bobl hynny sy'n credu'n sylfaenol mai cyfrifoldeb rhiant yw addysgu ei blentyn. Ac, fel y byddwch chi'n gwybod ac yn ymwybodol ohono, mae gan y rhiant yr hawl, os dymuna hynny, i dynnu ei blentyn allan o system addysg y wladwriaeth yn gyfan gwbl ac addysgu ei blant yn y cartref, oherwydd y sefyllfa sylfaenol honno, sef mai gan y rhiant mae'r prif gyfrifoldeb am yr addysg. Felly, rwy'n credu bod y pryderon a fynegwyd am ddirymu hawliau rhieni i allu cymryd plentyn allan o'r ystafell ddosbarth ar gyfer rhai elfennau o addysg y mae pobl yn teimlo'n anghyfforddus yn eu cylch, y gallai rhieni deimlo'n anghyfforddus yn eu cylch, yn hawl bwysig sydd, yn fy marn i, wedi cael ei gwerthfawrogi gan rieni ers blynyddoedd lawer, ac roedd eich ymrwymiadau blaenorol chi i gynnal yr hawl honno yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn.
Rwyf i wedi clywed eich sicrwydd chi, rwy'n deall eich sicrwydd chi, ac fe wn i y bydd yn cael ei dderbyn gan lawer iawn o rieni ledled y wlad. Rwy'n credu'n gryf bod y ffordd sensitif yr ydych yn ceisio mapio dyfodol y pynciau pwysig hyn i'w chanmol. Ond credaf y dylai'r cyfle i dynnu plentyn allan o unrhyw ran o'r cwricwlwm barhau i fod ar gael i rieni, ac fe fyddwn i'n eich annog chi i ailystyried eich safbwynt ar hynny a sut y gallech chi alluogi rhieni i dynnu eu plant o elfennau o'r wers lle mae yna fwriad clir i addysgu am bynciau penodol. Rwy'n siŵr fod yna ffyrdd y gellir gwneud y pethau hyn a ffyrdd o weithio o'u hamgylch, ac rwy'n gofyn hynny'n unig—. Rydych wedi bod yn gwrando'n astud wrth greu'r cwricwlwm hwn, ac rwy'n gofyn i chi barhau i wrando, yn enwedig ar bryderon rhieni, o ran dileu'r hawl hon i dynnu plant yn ôl yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i Darren Millar am y pwyntiau a wnaeth ef? Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr am hawliau rhieni i addysgu eu plant, ac nid oes unrhyw beth yr ydym ni'n ei gynnig yn y fan hon yn tynnu dim oddi ar hynny. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno bod y mwyafrif helaeth o rieni mewn sefyllfa i wneud hynny'n llwyddiannus, ond nid yw pob un o'n plant ni mor ffodus, Darren; nid yw pob un o'n plant ni mor ffodus o gael rhieni sy'n gallu gwneud hyn iddyn nhw am amrywiaeth o resymau.
Darren, rydych chi wedi treulio llawer iawn o amser yn sôn am hawliau rhieni, ac nid wyf i'n dymuno eu tanseilio nhw. Ond mae fy safbwynt i'n deillio o hawliau'r plentyn; hawl plentyn i gael addysg eang a chytbwys a'r gallu i gael addysg o bob rhan o'r cwricwlwm. Rwy'n deall natur sensitif hyn ac yn aml maen nhw'n dod—. Rwy'n deall.
Rydym wedi ymrwymo i weithio'n galed dros y ddwy flynedd a hanner nesaf cyn y bydd yna newidiadau i'r hawl i dynnu'n ôl ar gyfer tawelu meddyliau rhieni a chymunedau ynghylch natur y cwricwlwm. Ac fel y dywedais i'n gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pob plentyn, wrth feddwl am addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn cael gwersi o ran hawliau a thegwch, dysgu am berthnasoedd, dysgu am ryw a rhywedd, dysgu am gyrff a delwedd gorfforol, yn ogystal ag iechyd a llesiant rhywiol, a thrais, diogelwch a chefnogaeth. A'r rhain fydd yr egwyddorion sy'n sail i'n dull ni o ymdrin ag addysg rhyw a pherthnasedd, ac nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw blentyn nad oes angen iddo ddysgu am y pethau hyn os yw am dyfu i gyflawni un o ddibenion ein cwricwlwm, sef bod yn unigolyn hapus a hyderus. Mae perthnasedd yn hanfodol i ni fel bodau dynol, ac mae angen sicrhau bod ein plant ni'n cael eu haddysgu fel y gallant ffurfio perthynas lwyddiannus a hapus.
Ac yn olaf, Lynne Neagle.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, ac ategaf fy niolch i chi, eich swyddogion a'r llu o bobl sydd, ar lawr gwlad, wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni hyn?
Roeddwn i mewn cynhadledd ddoe yn edrych ar y dull ysgol gyfan, lle'r oedd rhai athrawon yn rhoi cyflwyniadau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a llesiant. Mae'r brwdfrydedd sydd gan athrawon am hyn yn amlwg ar lawr gwlad, ac mae hynny i'w groesawu yn fawr.
Rwy'n dymuno rhoi croeso cynnes iawn hefyd i'ch penderfyniad chi i ddileu hawl y rhieni i dynnu'n ôl. Rwyf newydd ddod o grŵp trawsbleidiol nawr ar atal hunanladdiad lle cawsom gyflwyniad ar yr adolygiad o farwolaethau pobl ifanc yn sgil hunanladdiad, ac roedd cyfran sylweddol o'r marwolaethau hynny'n gysylltiedig â chamdriniaeth rywiol. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n gwbl hanfodol i bob unigolyn ifanc gael addysg cydberthynas sy'n eu dysgu nhw am gydsyniad. Hefyd, o ran materion cydraddoldeb, tybed a fyddech chi'n cytuno â mi mai'r bobl ifanc y mae arnynt angen yr addysg cydberthynas yn seiliedig ar gydraddoldeb yw'r union bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n cael yr addysg honno gartref. Mae hyn, fel y dywedwch chi, yn fater o iechyd meddwl sylfaenol ond hefyd, yn gyfan gwbl, yn fater o hawliau plant.
Diolch i Lynne Neagle am ei sylwadau, ac rwy'n falch iawn o glywed fod yna ymarferwyr ddoe yn siarad mor wresog am y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles. Roeddech chi a minnau yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ddoe, a chlywsom gan y cynrychiolydd penaethiaid ysgolion cynradd am y cyfle y mae'r cwricwlwm newydd yn ei roi iddyn nhw, ac roedd hi yn llawn cyffro yn ei gylch.
Diben y maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, yn benodol o ran yr hyn sy'n bwysig, yw datblygu dealltwriaeth plant bod buddion gydol-oes i iechyd a lles corfforol; bod sut yr ydym ni'n prosesu ac yn ymateb i brofiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles emosiynol; a hefyd bod ein penderfyniadau emosiynol yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ac ar fywydau pobl eraill; a bod sut yr ydym ni'n ymateb i ddylanwadau cymdeithasol yn llunio pwy ydym ni ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles; ac, yn olaf, bod perthynas iach ag eraill yn sylfaenol i'n lles fel bodau dynol.
Y rheini yw'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail i'n maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, ac maent yn cyd-fynd yn union â'r angen i bob plentyn allu dysgu yn eu cylch er mwyn sicrhau iechyd meddwl a lles da yn y ffordd yr ydych chi newydd ei disgrifio, Lynne. Mae cael cyfartaledd rhwng hyn â phynciau traddodiadol addysg yn rhoi cyfle gwirioneddol inni fynd i'r afael â rhai o'r problemau cymdeithasol y mae'r Senedd hon yn treulio llawer o amser yn siarad amdanynt, ac yn ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn galw amdanynt eu hunain.
Diolch yn fawr, Gweinidog.