Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am y cyfle hwn. Dirprwy Weinidog, a gaf i ddweud 'diolch' am eich atebion cynharach, ac am y cyfraniadau heddiw? Roeddech yn iawn: fe wnes i fynd i ymweld ag Auschwitz-Birkenau yr adeg yma yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn bwriadu siarad am hynny'n benodol, ac eithrio un elfen benodol, yr ydym ni wedi'i chrybwyll eisoes, a dyna'r rheidrwydd i'n pobl iau fynd yno. Mae'n 75 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau, fel y gwyddom ni. Mae amser wedi mynd heibio. Ni chafodd y cenedlaethau a ddaeth o flaen y bobl ifanc sydd gennym ni heddiw—fy nghenhedlaeth i o leiaf, a aned lai nag 20 mlynedd ar ôl yr ail ryfel byd—eu hysbysu am erchyllterau'r Holocost ac, yn wir, fel y clywsom ni gan Norma Glass, aelod o'r gymuned Iddewig yn Abertawe, a oedd yn nigwyddiad Pentrehafod yn gynharach yr wythnos hon—menyw hŷn yw hon—ni chafodd wybod am y digwyddiadau ychwaith, oherwydd ni allai pobl ddarbwyllo eu hunain i siarad am y peth. Dyna pam yr wyf innau hefyd yn falch o waith Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, wrth gwrs, parodrwydd goroeswyr i siarad â ni.
Yn ogystal â'm hanogaeth i gael cynifer o bobl ifanc i fynd i Auschwitz cyn gynted â phosib, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, oherwydd bod amser wedi mynd heibio, ein bod ni bellach yn cael straeon am unigolion—a phwysleisiaf mai unigolion ydyn nhw—sy'n meddwl ei bod yn hollol briodol, ar ôl gweld rhai o'r arddangosion erchyll, ac ar ôl gweld y ffyrnau lle bu pobl fel nhw'n llosgi pobl fel nhw, eu bod nhw'n gallu sefyll o flaen y wal farwolaeth, lle cafodd pobl fel nhw eu saethu gan bobl fel nhw, i dynnu hun-luniau a gwneud—. Gweithgareddau llawn hwyl hurt, a tybed: a ydyn nhw'n gweld eu hunain yn wrthsemitaidd pan fyddan nhw'n gwneud hynny? Oherwydd dyna'r hyn yr oeddwn am eich holi yn ei gylch. Mae rhan o'r anogiad Sefyll Gyda'n Gilydd hwn yn ymwneud â gweithredoedd yn hytrach na geiriau yn unig, ac fel rhan o'm hymweliad yr wythnos diwethaf—. Yn amlwg, cawsom gynhadledd ochr yn ochr â'r ymweliad, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Iddewig Ewrop, sef y gymdeithas fwyaf o sefydliadau Iddewig ledled Ewrop, yn yr UE a thu hwnt, ac yn y gynhadledd, clywsom gan Weinidogion gwladol o'r holl wledydd Ewropeaidd y gallaf feddwl amdanynt, a gwahoddwyd pob un ohonom ni i ystyried deddfwriaeth bellach yn ein gwledydd—a dyma lle mae gweithredu yn hytrach na dim ond geiriau yn rhan o'r hyn yr wyf ar fin ei ddweud—i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth.
Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer pob un o'r rhain, a byddaf yn mynd drwyddynt cyn gynted â phosib, ond yr un cyntaf oedd gofyn a oedd gwladwriaethau yn barod i gosbi sefydliadau neu unigolion sy'n ymwneud â stereoteipio gwrthsemitaidd yn gyhoeddus. Awgrymwyd i ni y dylai cyrff addysg cenedlaethol ein holl wledydd benodi cynrychiolydd arbennig gyda'r cyfrifoldeb o gysylltu â chynrychiolwyr cymunedau Iddewig dynodedig sydd ag arbenigedd ym maes addysg i sicrhau bod adnoddau addysgu yn gywir, bod yr Holocost yn cael ei weld fel darlun mwy o'r genedl Iddewig a hanes yr Iddewon, ac y gellir cydnabod yn ddigonol gyfraniad Iddewon i fywyd cyhoeddus—sy'n arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae'r boblogaeth Iddewig yn fach, ac, fel y crybwyllwyd gan Jenny, nid yw ymchwil addysg ehangach i'r Holocost, hyd y gallaf ddweud, beth bynnag, wedi datblygu cymaint ag y mae yn yr Alban a Lloegr. Rwy'n argymell papur Dr Andy Pearce ar yr Holocost a chwricwlwm cenedlaethol Lloegr ar ôl 25 mlynedd. Nid yw unrhyw un o'r cynigion hyn yn rhwystro gweithredu tebyg i fynd i'r afael â mathau eraill o wahaniaethu hiliol neu grefyddol, wrth gwrs.
Yna, yn drydydd, fe alwon nhw am waharddiad llwyr ar fasnach gofiannau'r Natsïaid am elw personol neu oherwydd diddordeb dychrynllyd, gan eithrio haneswyr a sefydliadau cyfreithlon, wrth gwrs. Uchafbwynt y digwyddiad i mi oedd cwrdd ag Abdallah Chatila, y Cristion o Libanus a wariodd €600,000 o'i arian ei hun i gymryd nifer o eiddo personol Hitler oddi ar y farchnad, ac maen nhw nawr ar eu ffordd i Yad Vashem. Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer hyn i gyd, ond os yw Sefyll Gyda'n Gilydd yn golygu gweithredu yn hytrach na geiriau, tybed a fyddech yn barod i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU—mae'n ddrwg gennyf fod gwelliant Dubs wedi codi yn y cyd-destun hwn; nid wyf yn credu bod hynny'n briodol—ond i feddwl hefyd am yr hyn y gallwn ni ei wneud yma gyda'r pwerau sydd gennym ni, boed hynny drwy bolisi neu drwy ddeddfwriaeth. Diolch, Llywydd.