5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio'r Holocost

– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:52, 28 Ionawr 2020

Felly, rŷn ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ddoe oedd Diwrnod Cofio'r Holocost 2020, a oedd eleni yn nodi saith deg pump o flynyddoedd ers rhyddhau carcharorion Auschwitz-Birkenau.

Mae'r Holocost yn dal o fewn cof rhai sy'n fyw ac rydym yn parhau'n hynod ddiolchgar i'r goroeswyr sy'n teithio o amgylch y DU yn rhannu eu profiadau personol o'r cyfnod tywyll hwn o hanes. Ddoe, siaradodd y goroeswr Dr Martin Stern MBE yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd gyda'r Prif Weinidog, ac yn nigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Diwylliannol Mwslimaidd Cymreig neithiwr, ac roeddwn yn bresennol yno hefyd gyda'r Prif Weinidog. Roedd llawer o'r Aelodau'n bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar 14 Ionawr, lle adroddodd y goroeswr Mala Tribich ei hanes personol, a siaradodd Isaac Blake am brofiadau Roma a Sinti a ddioddefodd yn ystod yr Holocost.

Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2020 yw Safwn Gyda'n Gilydd. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi annog pobl i ystyried beth all rannu cymunedau. Fel y dywedodd yr Ymddiriedolaeth:

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni sefyll ynghyd gydag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal ymrannu ac ymledu gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn ein cymdeithas.

Roedd yn anrhydedd i'r Prif Weinidog a minnau hefyd gymryd rhan yn nefod goleuo'r canhwyllau ar wythfed noson Hanukkah. Roeddem yn ddiolchgar i Synagog Ddiwygiedig Caerdydd am ein gwahodd i Insole Court yng Nghaerdydd i ymuno yn y dathliadau. Yn anffodus, yn ystod Gŵyl Hanukkah, cafodd graffiti gwrthsemitaidd ei baentio â chwistrell ar synagog a sawl siop yng Ngogledd Llundain. Ar ddechrau mis Ionawr, adroddwyd bod bachgen 13 oed wedi dioddef ymosodiad corfforol a chamdriniaeth gwrthsemitaidd wrth deithio ar fws yn Llundain. Mae'r digwyddiadau hyn yn y DU yn dilyn cyfres o ymosodiadau gwrthsemitaidd yn Efrog Newydd drwy gydol mis Rhagfyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda chymunedau Iddewig ac yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Yn dilyn yr ymosodiad erchyll ar y synagog yn Halle, yn nwyrain yr Almaen, ar 9 Hydref 2019, a arweiniodd at farwolaeth dau o bobl, ysgrifennais at rabïaid yng Nghymru i atgoffa cymunedau ein bod yn llwyr gefnogol iddynt. 

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:55, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Ym mis Mai 2017, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth yn llawn ac yn ddiamod. Rydym ni hefyd wedi darparu £40,500 o arian pontio'r UE i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i wneud gwaith yng Nghymru yn rhan o'r digwyddiadau coffáu eleni.

Aeth y cyllid tuag at dair elfen: prosiect fflamau coffa 75, lle roedd grwpiau cymunedol ledled y DU yn creu eu darnau eu hunain o waith celf i gofio am bawb a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Cafodd naw o'r fflamau coffa hyn eu datblygu gan grwpiau yng Nghymru, gan gynnwys cynigion gan grŵp celf Carchar EM Caerdydd, llyfrgell ganolog Merthyr Tudful a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn bwriadu dod ag arddangosfa o bob un o'r 75 o fflamau coffa i Gaerdydd ym mis Chwefror, ond gallwch weld enghreifftiau o'r fflamau coffa yma yn y Senedd tan 29 Ionawr; gwefan Sefyll Gyda'n Gilydd sy'n dangos enw unigolyn a laddwyd yn yr Holocost ac sy'n annog defnyddwyr y wefan i rannu manylion yr unigolyn hwn ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r straeon unigol y tu ôl i'r hil-laddiad dirdynnol; ac yn olaf, cyflogi gweithiwr cymorth i annog gweithgaredd yng Nghymru ynglŷn â Diwrnod Coffáu'r Holocost 2020.

Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau y tu ôl i'r Holocost a chanlyniadau dad-ddyneiddio rhannau o gymdeithas. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £119,000 i Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i gyflwyno'r prosiect Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn agored i fyfyrwyr 16 i 18 oed sydd mewn addysg ôl-16, ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr glywed tystiolaeth goroeswr yr Holocost a hefyd i gymryd rhan mewn ymweliad ag Auschwitz-Birkenau. Yna, daw myfyrwyr yn llysgenhadon Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn eu cymunedau eu hunain, a defnyddiant eu profiadau i ledaenu ymwybyddiaeth a herio hiliaeth a rhagfarn.

Yn ychwanegol at ein gwaith i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth a choffáu'r Holocost, rydym wedi atgyfnerthu ein rhaglenni presennol sy'n atal casineb, yn hyrwyddo cynnwys cymunedau amrywiol, ac yn gwella cefnogaeth i ddioddefwyr. Rydym ni wedi ehangu ein cefnogaeth i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, y mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn ei gweithredu ar ein rhan. Mae gan y ganolfan bellach fwy o allu i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, datblygu partneriaethau gyda sefydliadau cymorth cymunedol, a sicrhau y gellir cynnig cymorth i bawb sydd wedi dioddef trosedd casineb.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu'r grant cymunedau lleiafrifol i fynd i’r afael â throseddau casineb, sy'n ariannu wyth o sefydliadau'r trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sut i roi gwybod amdanynt, ceisio hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth mewn cymunedau, ac arbrofi gyda dulliau arloesol o fynd i'r afael â throseddau casineb a chefnogi dioddefwyr. Bydd y prosiect Troseddau Casineb mewn Ysgolion yn darparu hyfforddiant sgiliau meddwl beirniadol i blant mewn tua 100 o ysgolion ledled Cymru, gan arfogi ein pobl ifanc â'r sgiliau i adnabod casineb a chamwybodaeth, i'w galluogi nhw i osgoi cyflawni'r cyfryw droseddau yn y dyfodol a herio ymddygiad negyddol lle mae'n digwydd.

Mae ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant yn cefnogi cymunedau lleiafrifol i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ac yn herio anghydraddoldebau. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys grwpiau yr effeithiwyd arnynt gan erledigaeth a hil-laddiad, fel Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio ymgyrch yn erbyn troseddau casineb i geisio atal y llif o rethreg gynhennus sy'n cael ei lledaenu. Rydym yn cynnwys rhanddeiliaid er mwyn gwneud yr ymgyrch mor effeithiol â phosib.

Yn drasig, mae achosion eraill o hil-laddiad wedi dilyn yr Holocost. Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein hannog i gofio'r holl bobl a laddwyd mewn hil-laddiadau, fel yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae eleni hefyd yn bum mlynedd ar hugain ers y gyflafan yn Srebrenica, a gaiff ei choffáu ym mis Gorffennaf mewn digwyddiad yn y Senedd.

Mae'n ddyletswydd arnom i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost, ac i gofio pawb o bob cefndir a ddioddefodd: pobl Iddewig; pobl Roma; pobl anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, a llawer o grwpiau eraill a wynebodd erledigaeth annirnadwy yn ystod y cyfnod hwn, ac a gollodd eu bywydau yn y pen draw gan fod casineb a rhagfarn wedi dod yn dderbyniol. Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:00, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rydych chi'n gorffen, fel rydych chi newydd orffen, drwy ddweud:

Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto.

Ac rwy'n ategu'ch teimladau'n llwyr, gant y cant yn hynny o beth. Yn anffodus, ni fydd nodi'r dyddiau cofio ar ei ben ei hun yn sicrhau hynny, a gwyddom i gyd pan fyddwn yn troi'r teledu ymlaen yn y nos ac yn gwylio'r newyddion neu'r rhaglenni dogfen, gwelwn boblogaethau yn cael eu herlid ar draws y byd oherwydd ystyrir eu bod yn wahanol i'r Llywodraeth sydd mewn grym neu'r system gred neu grefydd gryfaf yn yr ardal lle maen nhw'n byw. 

Felly, sut ydych chi'n credu y gallwn ni, mewn modd mwy grymus—ar lefel Cymru a'r DU o leiaf—arwain dealltwriaeth fyd-eang a gweithredu ar yr agenda hon sy'n mynd y tu hwnt i'r digwyddiadau cofio a choffáu tyngedfennol hynny ar ddyddiadau penodol bob blwyddyn ac a fydd, gobeithio, yn dod yn fwy diwylliannol? Mae'r rhai a fu'n byw drwy'r ail ryfel byd; y rhai a fagwyd yn ystod y blynyddoedd hynny wedi byw gyda'r atgof hwnnw, ond erbyn hyn mae gennym ni genedlaethau, fel y gwyddoch chi, sy'n gweld hyn fel hen hanes.

Ddydd Gwener diwethaf, siaradais yn nigwyddiad Diwrnod Cofio'r Holocost yn Wrecsam. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yno, yn enwedig pobl ifanc—pobl ifanc o'r colegau lleol a rhai o ysgolion lleol, a oedd eisiau deall, ymwneud a sicrhau na fydd y pethau erchyll hyn byth yn digwydd eto. Fel rydych chi wedi dweud, roeddem yn coffáu 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau yn ogystal â phum mlynedd ar hugain ers yr hil-laddiad yn Bosnia. Hefyd, ym mis Ebrill, fe fydd hi'n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi Bergen-Belsen gan luoedd Prydain. Ac eleni hefyd mae hi'n ugain mlynedd ers mabwysiadu datganiad Stockholm, a sefydlodd yr hyn a adwaenir bellach fel Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost, a phymtheg mlynedd ers mabwysiadu 27 Ionawr fel Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Holocost gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Bûm i, fel chithau, yn y digwyddiad yn y Senedd bythefnos yn ôl gyda Mala Tribich ac Isaac Blake. Sut ydych chi'n teimlo neu'n ymateb i'r e-bost yr wyf wedi'i gael ac nad wyf yn amau nad yw llawer o Aelodau eraill wedi'i gael heddiw gan yr Israel Britain Alliance, sy'n nodi cynnydd sylweddol yn nifer y digwyddiadau gwrthsemitig yn y DU, a dywedant yn anffodus, nad oes unrhyw ran o'n gwlad, maen nhw'n cyfeirio at y DU wrth ddweud hynny, wedi bod yn ddiogel rhag casineb hynaf y byd?

Rydych chi'n dweud—ac rydym yn ychwanegu'r Ceidwadwyr Cymreig at hyn, a phawb yn y Siambr hon, rwy'n gwybod—rydym yn sefyll gyda chymunedau Iddewig yn erbyn gwrthsemitiaeth yng Nghymru a ledled y byd. Rydych chi'n sôn am y ffaith ei bod hi'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn deall y rhesymau ac fe wnaethoch chi gyfeirio at raglen a oedd yn cynnwys myfyrwyr 16 i 18 oed. Yn wir, aeth fy mhlant i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Sir y Fflint, a manteisiodd y rhan fwyaf ohonynt ar ymweliad ag Auschwitz-Birkenau gyda'u hysgol, ac roedd yr argraff a wnaed arnynt yn aruthrol, gan roi gwers hanfodol a fydd yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Maen nhw'n digwydd bod yn un o'r ysgolion hynny sydd wedi cydnabod pa mor bwysig yw hi i roi sylw i hyn, ond mae llawer o rai eraill, efallai, nad ydynt yn rhoi'r sylw hwnnw. Sut gallwn ni sicrhau bod hyn yn ymwreiddio i'r brif ffrwd, nid yn unig yn yr ysgolion hynny sydd ar flaen y gad yn hyn o beth, ond y rhai y mae angen, efallai, eu helpu ymhellach ar hyd y ffordd?

Ymwelais, gyda chydweithwyr yn y Cynulliad yn 2017, â Yad Vashem, Canolfan Ryngwladol Cofio'r Holocost, ac yn neuadd yr enwau, gwelsom wedi eu llingerfio ar y llawr mosäig, enwau 22 o'r safleoedd llofruddio Natsïaidd mwyaf ffiaidd, ac wedi eu claddu o dan y rhain, fel y gwnaethom ni ddeall a dysgu, mae lludw'r dioddefwyr. Ac fel y dywedodd Churchill, po bellaf yn ôl y gallwch chi edrych, y pellaf ymlaen yr ydych chi'n debygol o weld oherwydd bod y Natsïaid yn deall ei bod hi'n llawer haws uno pobl yn erbyn rhywbeth yn hytrach nag o blaid rhywbeth, ac fe droesant yn erbyn y lleiafrifoedd yn eu plith.

Targedodd awdurdodau'r Almaen hefyd, fel y gwyddoch chi, grwpiau eraill oherwydd eu gwahaniaeth canfyddedig—eu hisraddoldeb hiliol a biolegol fel y'i hystyriwyd, gan gynnwys plant—Sipsiwn Roma a Sinti; Almaenwyr anabl; pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol; a rhai pobloedd Slafig, yn enwedig Pwyliaid a Rwsiaid. Ni cheir unrhyw ddogfen o adeg y rhyfel a luniwyd gan y Natsïaid yn nodi faint o bobl a laddwyd mewn gwirionedd, ond mae Amgueddfa Coffáu'r Holocost yr UD yn amcangyfrif 6 miliwn ac 11 miliwn o rai eraill, sy'n 17 miliwn, gan gynnwys—ar amcangyfrif ceidwadol—0.5 miliwn o Sipsiwn Roma a Sinti Ewropeaidd. Yn wir, mae'r gymuned ei hun yn nodi cynifer â 1.5 miliwn.

Unwaith eto, sut byddech chi'n ymateb i'r e-bost a gefais heddiw gan Sipsiwn/Teithwyr sydd fel rwy'n gwybod yn byw ger Conwy, sy'n dweud, 'Rydym yn caru Iddewon fel y mae Duw yn eu caru, ond wrth wylio'r teledu, ni welwn ni unrhyw beth am Sipsiwn yn cael eu lladd gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid. Os gwelwch yn dda, bobl, cofiwch hyn. Cofiwch 26 Tachwedd 1935, pan ddiweddarwyd cyfreithiau Nuremburg i gynnwys cadw Sipsiwn, a gafodd eu gwneud yn elynion y wladwriaeth?' Ac, wrth gwrs, maen nhw'n sôn am hil-laddiad; maen nhw'n ei alw—gadewch i ni gael hyn yn iawn—yn Porajmos, neu'r hil-laddiad. Ac maen nhw'n dweud, 'Gall dim ond ychydig o erledigaeth, mymryn o ragfarn na chaiff ei herio gynnau dinistr. Gweddïwn dros ein cefndryd pell a'n cyfeillion Iddewig na fydd hyn byth yn digwydd eto.' Ac, wrth gwrs, yn 1939, dechreuwyd lladd oedolion a phlant anabl—cafodd Almaenwyr eu gwenwyno â nwy yn rhan o arbrofion mewn canolfannau lladd yn Brandenburg, a lladdwyd miloedd o gleifion anabl mewn siambrau nwy neu ystafelloedd cawod, gan greu'r model a gafodd ei gyflwyno wedyn yng ngwersylloedd crynhoi a gwersylloedd lladd y Natsïaid megis Auschwitz-Birkenau. Unwaith eto, yn ôl amcangyfrif ceidwadol, cafodd 250,000 o bobl anabl, llawer ohonynt yn blant—syndrom Down, parlys yr ymennydd a llawer mwy—eu lladd yn y ffordd ofnadwy honno.

Ac, mewn gwirionedd, nid oes llawer—. Nid wyf yn credu bod yn rhaid i chi ateb mewn gwirionedd; rwy'n credu ein bod yn gytûn ynghylch hyn. Wrth wraidd hynny i gyd mae'r cwestiwn sut yr ydym yn newid hyn o fod yn ddigwyddiad blynyddol neu rywbeth yr ydym yn sôn amdano o bryd i'w gilydd, a'i wreiddio drwy ein cymdeithas ac arwain yn fyd-eang wrth wneud hynny, fel na fydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud yr un camgymeriadau ag y mae cenedlaethau heddiw yn dal i'w gwneud ac fel y gwnaeth cenedlaethau'r gorffennol eu hunain. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:07, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr iawn ichi, Mark Isherwood, a diolch ichi am yr holl sylwadau a wnaethoch chi a'r cwestiynau yr ydych chi wedi eu holi y prynhawn yma. Unwaith eto, rhaid inni ailadrodd: ni ddylid byth anghofio'r Holocost, ac nid ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost yn unig y mae cofio. Mae'n bwysig bod hyn yn treiddio drwy ein polisi a bydd y ffordd y byddaf yn ymateb i'ch cwestiynau gobeithio yn dangos hynny.

Byth eto i'w ailadrodd—mae hynny'n rhan o addysg. Roedd honno'n neges gref iawn gan y goroeswr Dr Martin Stern ddoe, sef bod a wnelo hyn ag addysg. Ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n digwydd, nid yn unig drwy rai prosiectau rhagorol iawn yr ydym yn eu hariannu drwy Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ond mewn gwirionedd drwy fynd â hyn ymhellach—ac rydym yn dilyn datganiad pwysig iawn y prynhawn yma gan y Gweinidog Addysg—pan fyddwn yn edrych ar y cwricwlwm, byddwn yn edrych ar y dibenion. Un o'r pedwar diben yn ein cwricwlwm newydd yng Nghymru o 2022 yw bod pob plentyn a pherson ifanc yn datblygu'n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a'r byd, yn wybodus am eu diwylliant, eu cymunedau a'u cymdeithas, gan barchu anghenion a hawliau pobl eraill yn aelodau o gymdeithas amrywiol. Wrth gwrs, gwelwn hynny yn ein hysgolion, ac rydym yn gweld manteision hynny, ond mae hyn yn egwyddor gref iawn yn y cwricwlwm newydd.

Mae'n bwysig ein bod yn ariannu Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ac yn annog mwy o ysgolion i ymwneud â hyn. Bydd yn cael ei gynnal ym mis Chwefror, a gwyddom fod pobl ifanc—ac rwy'n siŵr y gwelsoch chi hyn yn nigwyddiad Wrecsam—eisiau ymwneud, a dônt yn llysgenhadon grymus a bydd yn newid eu bywydau. Ac rydym ni wedi clywed am raglenni eraill y byddwn yn edrych arnynt, rwy'n siŵr, yn nes ymlaen. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â sut rydym ni'n sicrhau y caiff hyn ei ystyried drwy'r cwricwlwm i gyd ac ym mhob un o'n hysgolion. Rwy'n credu eich bod yn gwneud sylw pwysig iawn ynghylch Sipsiwn/Roma/Teithwyr a hoffwn ymateb i'r neges a gawsoch chi gan eich cyfeillion yng Nghonwy, gan y Sipsiwn a'r Teithwyr, o ran eu profiad. Wrth gwrs, clywsom gan Issac Blake yn y digwyddiad yn y Senedd yn ddiweddar, ac os gallaf ddweud ar goedd eto heddiw bod yn rhaid inni gofio i nifer fawr o Sipsiwn a Roma ddioddef yn hil-laddiad y Natsïaid ac ni ddylid anghofio eu dioddefaint. Yn amlwg mae'n rhan o'r datganiad heddiw a'n hymateb o bob rhan Siambr hon, rwy'n siŵr. Sgwrsio cyhoeddus negyddol yng nghyswllt yr aelodau hyn o'n cymunedau—soniodd John Griffiths am hyn yn gynharach, ac rwy'n falch y gallan nhw roi gwybod i ni, Aelodau'r Cynulliad, am y profiadau neu deimladau anffafriol hyn nad ydyn nhw wedi cael cydnabyddiaeth na sylw. Mae'n hanfodol ein bod yn sefyll gyda'n gilydd—neges Diwrnod Cofio'r Holocost—yn erbyn hiliaeth ac anoddefgarwch o'r fath.

Ond rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn dyfarnu symiau sylweddol o gyllid—£529,500 i brosiect Teithio Ymlaen TGP Cymru—yn bwysig gan fod hynny'n ymwneud â darparu cyngor a chymorth eiriolaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae hynny'n ymwneud â chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl drwy gefnogi aelodau o'r gymuned, ond hefyd ynghylch yr agweddau ar eu bywydau sy'n bwysig iawn o ran cael cyfle cyfartal, hyfforddiant, addysg a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Felly, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'm hymateb heddiw.

Ond o ran sut rydym ni'n mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, rydym yn sefyll, Llywodraeth Cymru, gyda'r gymuned Iddewig yng Nghymru ac ar draws y byd. Rydym yn ystyried ymosodiadau gwrthsemitaidd yn ymosodiad ar y gwerthoedd Cymreig o gynhwysiant, rhyddid a pharch. Felly, dyna pam mae gweithio gyda chymunedau ffydd mor bwysig i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny a'r ddealltwriaeth honno yr ydym ni'n eu rhannu yng Nghymru. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn wlad lle nad yw gwrthsemitiaeth a phob math o gasineb yn bodoli.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:12, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio Diwrnod Cofio'r Holocost i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau, y bobl Iddewig, pobl Roma, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol—unrhyw un nad oedd yn gweddu i ddelfryd y Natsïaid. Mae'n rhaid nodi'r dyddiad hwn o ryddhau Auschwitz-Birkenau bob blwyddyn i gofio, fel yr ydych chi wedi dweud, ac er mwyn dysgu oddi wrth un o'r enghreifftiau mwyaf o annynoldeb a welwyd erioed ar wyneb y ddaear hon.

Dirprwy Weinidog, rwy'n adleisio eich geiriau yn canmol Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost a'r gwaith hollbwysig y maen nhw'n ei wneud i addysgu pobl ifanc am yr erchyllterau hyn a'r gwaith allgymorth y maen nhw'n ei wneud gyda goroeswyr. Nifer o flynyddoedd yn ôl, cyfarfûm â Zigi Shipper, goroeswr o Auschwitz-Birkenau. Roedd ei stori a'i awch am fywyd, ar yr un pryd, yn bywiocáu ac yn dorcalonnus. Torcalonnus oherwydd mor ymwybodol yr oeddem ni i gyd yn yr ystafell honno o'r holl straeon na ellid eu hadrodd gan nad oedd y plant hynny wedi goroesi i'w byw nhw. Mae Zigi bellach yn 90 oed—rwy'n credu ei fod newydd gael ei ben-blwydd. Wrth i oroeswyr yr Holocost heneiddio, daw'r amser cyn hir pan na fydd neb yn dal yn fyw a aeth drwy erchyllterau'r cyfnod hwnnw.

Ni ddigwyddodd yr Holocost dros nos. Dechreuodd yn araf gydag erydiad graddol o hawliau a phedlera naratif, ni yn eu herbyn nhw—y lleill. Wrth gwrs, ymhlith yr erchyllterau roedd straeon o obaith, megis Kindertransport Syr Nicholas Winton, cynllun a sicrhaodd fod plant a allai fel arall fod wedi marw yn yr Holocost yn cael eu cludo i'r DU. Gallai Llywodraeth y cyfnod fod wedi gwneud mwy, ond diolch i Dduw fod y fenter honno a anwyd o garedigrwydd dynol a thosturi wedi achub y bywydau hynny.

Rwy'n siŵr bod y Dirprwy Weinidog yn rhannu fy mhryder bod Llywodraeth bresennol y DU wedi gwrthod derbyn gwelliant yn San Steffan yn ddiweddar a fyddai wedi gorfodi'r DU i barhau i ganiatáu i blant ar eu pen eu hunain o fewn yr UE i wneud cais am aduniad teuluol cyfreithiol yma. Rwy'n derbyn nad yw hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Holocost. Ni fyddwn yn cymharu, a dweud bod hynny yr un fath â'r Holocost, ond nid ydym erioed wedi bod yn edifar am eiliadau o garedigrwydd yn ein gorffennol, gadewch i ni barhau â'r traddodiad balch hwn. Dyna'r cyfan rwy'n ei ddweud ynghylch hynny. 

Felly, ar hynny, a gaf i ofyn pa asesiad y byddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud o effaith y cynllun 'Kindertransport ' yng Nghymru heddiw? A pha sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i erfyn arnyn nhw i sicrhau y bydd plant mudol, yn y dyfodol, yn cael ceisio lloches yma?

Dirprwy Weinidog, hefyd, mae'r datganiad yn sôn am nifer o brosiectau mewn ysgolion sydd â'r nod o fynd i'r afael â rhagfarn, ac rwy'n croesawu hynny. Ond a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried galwadau i ddysgu am yr Holocost fod yn elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd? Mae'n rhywbeth a grybwyllwyd ambell waith yn y Siambr heddiw. Mae yna gerdd gan Primo Levi sy'n mynegi'n llawer mwy huawdl nag y gallwn i, pam y dylem ni wneud hyn. Dywed:

'Meditate that this came about: / I commend these words to you. / Carve them in your hearts / …Repeat them to your children, / Or may your house fall apart, / … May your children turn their faces from you.'

Mae'n berthnasol, rwy'n credu, dweud y bu farw Primo Levi ym 1987 a dyfarnodd y crwner mai hunanladdiad oedd ei farwolaeth. Mae ei fywgraffwyr yn priodoli'r iselder a bwysodd yn drwm arno yn ddiweddarach mewn bywyd i'r atgofion trawmatig o'i brofiadau. Dywedodd yr enillydd gwobr Nobel a goroeswr yr Holocost, Elie Wiesel ar y pryd:

Bu farw Primo Levi yn Auschwitz 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Nid yw digwyddiadau fel yr Holocost yn cael eu rhewi mewn amser. Mae eu heffeithiau trychinebus yn parhau ac yn ymdonni drwy'r cenedlaethau. Dirprwy Weinidog, a ydych yn cytuno bod arnom ni ddyled i blant yr Holocost, Primo Leviau, Zigi Shipperau'r byd hwn, ac i genedlaethau'r dyfodol, i sicrhau na chaniateir byth i'r digwyddiadau hyn bylu yn niwl amser; na chânt fyth gilio i'r pellter, stori arswyd a ddigwyddodd i bobl wahanol mewn adeg wahanol, pan oedd pethau'n wahanol?

Mae gan Hugo Rifkind flog a gyhoeddodd yn 2015 lle mae'n dweud:

Digwyddodd yma, yn Ewrop. Yn nhiroedd soddgrythau, teis a beiciau.

Nid oedd yn bell bryd hynny, nid yw'n bell oddi wrthym nawr. O ran dyled iddyn nhw, siawns, mae'n rhaid i ni osgoi'r hen ddywediad hwnnw, y posibilrwydd ofnadwy hwnnw, fod y rhai sy'n anghofio hanes wedi eu tynghedu i'w ailadrodd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:16, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Delyth Jewell. Rwy'n falch eich bod wedi canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd a sut y gall hynny ddylanwadu, gan fynd yn ôl at sylw Mark Isherwood, ar y cyfan o'n gwaith, ein holl waith o lunio a gweithredu polisïau. Ac yn arbennig, rwy'n credu, roedd hi'n dda y cawsom ni ddatganiad ar y cwricwlwm newydd y prynhawn yma, i weld bod cyfleoedd, oherwydd rwy'n gwybod y bydd yr holl ysgolion a fydd yn ymwneud â hyn, a'r rhan fwyaf o ysgolion—rwy'n credu mai ychydig iawn o ysgolion na fyddant bellach yn cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol Cofio'r Holocost—wedi dysgu a mynd â hyn yn ei flaen, ac ni fydd yn nodwedd flynyddol yn unig, ond yn nodwedd o'r cwricwlwm, o'u byw a'u dysgu, i greu'r gymdeithas honno y gwyddom ei bod yn iawn ar gyfer eu cyfleoedd, eu gwerthoedd a'u moeseg.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweld, o ran y cyfleoedd gyda'r fflamau y byddwch yn eu gweld o gwmpas y wlad, a gobeithio y byddwch yn eu gweld yn y Senedd heddiw, mewn gwirionedd, bod Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost hefyd yn cynnal cwrs Gwersi o Auschwitz, ac rydym ni'n galluogi ysgolion ac athrawon i elwa ar hwnnw. Ac un o'r ysgolion a wnaeth elwa ar ein cyllid eleni oedd ysgol uwchradd Woodlands yng Nghaerdydd, a oedd hefyd yn gallu cynhyrchu a chael ei chydnabod am rannu'r fflam.

Roedd yn ddiddorol neithiwr clywed gan Dr Martin Stern am gynnydd graddol y mudiad Natsïaidd a dylanwad Adolf Hitler yn yr Almaen—yr Almaen, ei wlad yr oedd yn ei charu ac y bu'n rhaid iddo ei gadael. Mewn gwirionedd goroesodd yr Holocost yn fachgen ifanc iawn, ac rydym i gyd wedi clywed am y straeon dros y deuddydd diwethaf, ond mae'n benderfynol y dylid rhannu ei stori gyda'r ieuengaf o blant yn ein cymdeithas.

Rwy'n credu, yn bwysig ddoe hefyd, dywedodd y Prif Weinidog:

Mae heddiw'n ddiwrnod poenus a diolch i Dr Stern am ddefnyddio ei stori deimladwy i'n hatgoffa ni i gyd am rym goddefgarwch ... Mae'n rhaid inni sefyll gyda'n gilydd. Mae'n rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau. Ac mae'n rhaid i ni gredu bod mwy sy'n ein huno nag sy'n ein gwahanu. Dyma'r unig ffordd i sicrhau bod y digwyddiadau truenus hyn yn aros yn union yn y lle y maen nhw'n perthyn—yn y llyfrau hanes.

Ysgrifennodd Julie Morgan - y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso,  a minnau at yr Ysgrifennydd Cartref am bwysigrwydd sicrhau bod gennym ni gyfle i gefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd. Ac, mewn gwirionedd, fe wnes i gydnabod yr Arglwydd Alf Dubs, pan gawsom ein digwyddiad ar y pedwerydd ar ddeg, pan oeddem yn paentio negeseuon ar gerrig, a chredaf fod gan lawer o bobl neges i ddiolch iddo am yr hyn y mae wedi'i wneud i ffoaduriaid sy'n blant oherwydd bu yntau yn ffoadur ei hun yn blentyn. Ac rwy'n gwybod y byddwn ni yn ysgrifennu i ganfod sut y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cefnogi ailuno ffoaduriaid sy'n blant gyda'u teuluoedd, sef yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud. Felly, byddwn yn mynd ar drywydd hynny yn dilyn ein datganiad yr wythnos diwethaf.

Yn olaf, mae'n rhaid imi ddweud bod hwn yn gyfle i ni yn y Cynulliad hwn i uno ym mhob rhan o'r Siambr, i sefyll, gan sicrhau ein bod yn ymateb i neges sefyll gyda'n gilydd mudiad cenedlaethol yr Holocost, a phwysigrwydd Diwrnod Cofio'r Holocost.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:20, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Er fy mod yn derbyn bod protocol yn mynnu fy mod yn holi'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, teimlaf nad oes lle i feirniadu nac i ychwanegu o ran cynnwys a chyflawnder y datganiad. Teimlaf hefyd y byddai gwneud rhywfaint o enillion gwleidyddol o'r achlysur neu'r camau a amlinellwyd yn y datganiad yn gwbl amhriodol.

Hoffwn ddweud felly, ar ôl bod yn bresennol yn nigwyddiad Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn y Senedd ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis hwn, cefais fy nghyffwrdd yn llwyr ac yn gyfan gwbl gan ddewrder Mala Tribich wrth iddi roi ei thystiolaeth, yn enwedig pan ddisgrifiodd y foment pan aeth hi a'i chefnder ifanc i wersyll enwog Belsen. Roedd teimlo fy mod ym mhresenoldeb rhywun yr oedd ei llygaid wedi syllu ar erchyllterau'r gwersyll hwnnw wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o greulondeb llwyr y cyfnod hwnnw. Na foed inni byth ag anghofio bod y troseddau erchyll hyn wedi'u cyflawni gan genedl a oedd i fod yn genedl wâr. Mae'r digwyddiadau a ddigwyddodd yn Cambodia, Rwanda a Darfur, ac yn llawer agosach at adref yn Bosnia, yn enwedig yn Srebrenica, yn ein hatgoffa o bosibilrwydd cyson annynoldeb dyn tuag at ei gyd-ddyn.

Mae un sylw yn unig yr hoffwn ei wneud ynghylch yr adroddiad hwn, Dirprwy Weinidog, a hynny yw bod llawer wedi'u llofruddio gan y Natsïaid dim ond am eu bod yn anabl. Rwy'n gwybod fod Mark wedi crybwyll hyn hefyd. Dylid dweud yn y fan yma fod y rhan fwyaf o droseddau casineb wedi'u hanelu at y rhai sy'n anabl mewn rhyw ffordd. Os ydym ni am addysgu pobl am oddefgarwch at eu cyd-ddyn, dylai'r agwedd hon o gael eich erlid oherwydd eich bod yn wahanol hefyd gael ei phwysleisio mewn unrhyw brosiect sydd â'r nod o ddileu rhagfarn.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:22, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i David Rowlands am y cyfraniad yna y prynhawn yma. Rwy'n credu bod hyn yn dangos y gallwn ni ddod at ein gilydd yn y Siambr hon a gobeithio y bydd hyn hefyd—. O ran eich sylwadau olaf ynghylch mynd i'r afael â throseddau casineb, rydym ni wedi siarad am hyn yn gynharach—cododd Mark Isherwood fater ynghylch troseddau casineb y mae pobl anabl yn ei hwynebu—ond gwyddom fod troseddau casineb ar sail hil hefyd yn nodwedd bwysig ar yr ystadegau hynny, ac mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i wynebu hyn a'i oresgyn. Felly, rwy'n gobeithio y cawn ni ymateb cadarnhaol i'r ddadl ar droseddau casineb y byddaf yn ei harwain yn amser y Llywodraeth maes o law.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:23, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Roedd y BBC ar ei orau neithiwr gyda dramateiddiad gwirioneddol rymus o stori The Windermere Children a gwaith Leonard Montefiore yn brwydro yn erbyn biwrocratiaeth i gael y plant hyn i ddod o wersylloedd crynhoi a gawsant eu rhyddhau ar ôl dioddef erchyllterau rhyfel. Tynnodd sylw pobl hefyd, os mynnwch chi, at y rhagfarn a fodolai o hyd yr adeg honno yn y wlad hon, ac sy'n dal i fodoli heddiw. Roedd yn ddramateiddiad diflewyn-ar-dafod o stori'r bobl ifanc hynny. Yna, aeth ymlaen, yn ddiweddarach, i gyfweld y plant hynny fel y maen nhw heddiw, yn eu 80au. Ac felly, roedd yn brofiad anhygoel i gael deall yn union yr hyn a ddioddefodd y rhain.

Felly, credaf fod yn rhaid inni gofio bod Llywodraeth y DU wedi gwrthwynebu'n chwyrn dod â phobl draw drwy gyfrwng y kindertransport cyn y rhyfel, ac felly bu farw llawer o'r plant hynny yn y gwersylloedd crynhoi, ond hefyd roeddent yn gwrthwynebu dod ag unrhyw un o'r plant hyn yma o gwbl. Dim ond oherwydd dyfalbarhad y gŵr hwn â'i weledigaeth y llwyddodd i negodi gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Groes Goch i'w perswadio i adael i'r bobl hyn ddod i Ardal y Llynnoedd i brofi rhyw fath o adferiad cyn iddynt orfod ailintegreiddio i fywyd arferol.

Roedd yn wych gweld Mala Tribich, seren y sioe yn ddi-os yn ein digwyddiad ni yma yn y Senedd ar 14 Ionawr, ond hi hefyd oedd y cymeriad canolog yn Neuadd Ganolog San Steffan, oherwydd ei stori hi a grybwyllwyd gan Brif Weinidog y DU; hi roddodd ef ar ben ffordd ynglŷn â beth i'w ddweud. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf calonogol am y digwyddiad ddoe yn Neuadd y Ddinas oedd clywed Dr Martin Stern yn dweud mor eglur nad yw'n ymwneud â'r un digwyddiad hanesyddol hwn yn unig, ond ynghylch y 50 o'r holocostau eraill sydd wedi digwydd ers hynny; yr holl hil-laddiadau sydd wedi digwydd ers hynny. Roeddwn i eisiau dweud hefyd fy mod i'n credu bod menter 'Sefyll Gyda'n Gilydd' wrth gofio'r Holocost eleni yn bwysig iawn, gan ei bod wedi dechrau adrodd hanes yr holl bobl eraill a lofruddiwyd gan y Natsïaid fel bod—. Ar fy nghadair roedd enw rhywun a elwid yn Ewald Förster a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn hoyw, a hefyd Sophie Blaschke a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn anabl.

Ond yn yr un modd, roeddwn eisiau dychwelyd at yr hyn a grybwyllwyd gan Mark Isherwood, sef hefyd, dinistrio a llofruddio y Roma a'r Sinti, a grybwyllwyd gan Isaac Blake. Croesawodd y prosiect cerrig coffa a ddaeth hefyd i'r Senedd bythefnos yn ôl, a threfnwyd i ysgolion gymryd rhan yn y prosiect creadigol hwnnw fel y gallent fod yn rhan o'r gofeb barhaol yn San Steffan. Dywedodd wrthyf ddoe fod nifer o ysgolion wedi gwrthod y cyfle i ganiatáu i'w disgyblion wneud carreg goffa ar y sail nad oedd ganddyn nhw unrhyw Sipsiwn na Theithwyr ymhlith eu disgyblion, fel pe bai hyn yn rhywbeth oedd dim ond yn effeithio ar fathau arbennig o bobl, sy'n eithaf rhyfeddol.

Ond roeddwn eisiau dychwelyd at y ffordd yr ydym ni wedi esgeuluso, hyd yn hyn, yr arswyd a ddioddefodd y Roma a'r Sinti dan y Natsïaid. Oherwydd mae hi'n werth nodi bod y bobl Iddewig wedi cael iawndal gan yr Almaen am eu troseddau Holocost, ond yn Nuremberg, ni thrafodwyd unrhyw iawndal ar gyfer y gymuned Roma a Sinti na neb arall, hyd y gwn i. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais o'r digwyddiad yma yn y Senedd oedd, er ein bod yn gwybod—ac rwy'n credu bod pawb yn y Siambr hon yn gwybod y cafodd 6 miliwn o Iddewon eu llofruddio gan y Natsïaid—nid ydym yn gwybod faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid, er eu bod yn dra gofalus wrth gofnodi popeth a wnaethent. Rydym yn gwybod bod y nifer yn fawr, ond nid oes gennym ni unrhyw syniad pa mor fawr. Mae'r rhan fwyaf o amcangyfrifon yn nodi rhwng 220,000 a 500,000, ond mae rhai ysgolheigion yn dweud ei fod cymaint â 1.5 miliwn. Tybed a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r ymchwil sydd ei hangen i gadarnhau'n union faint o Roma a Sinti a lofruddiwyd gan y Natsïaid oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o gofnodi'r boen a'r dioddefaint a dioddefodd pobl oedd yn bennaf yn anllythrennog, ac na fu iddyn nhw felly gofnodi pethau yn y ffordd y gwnaeth y rhan fwyaf o bobl Iddewig. Felly, tybed a oes unrhyw beth y gellid ei wneud i gywiro hynny, i helpu i gefnogi rhagor o ymchwil i geisio cael syniad llawer mwy manwl o faint o bobl eraill, ar wahân i Iddewon, a lofruddiwyd gan y Natsïaid.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:29, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch ichi am dynnu sylw at y darllediadau a'r digwyddiadau niferus eraill a gynhaliwyd ddoe. Rwy'n credu y byddai gennych chi ddiddordeb gwybod bod Dr Martin Stern yn gwneud ymweliadau drwy'r wythnos—mae'n 80 a cherddodd draw i Dŷ Cwrdd y Crynwyr neithiwr a rhoddodd araith am awr heb unrhyw bapurau o'i flaen. Roedd yn rhyfeddol. Heddiw mae'n siarad â 280 o ddisgyblion o flwyddyn 9 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan; mae'n mynd i Ysgol Uwchradd y Dwyrain, mae'n siarad â myfyrwyr, mae'n mynd i gwrdd â chyngor yr ysgol; mae'n siarad â 130 o ddisgyblion chweched dosbarth a staff o Gaerdydd a chanol de Cymru; mae'n mynd i Abertawe; mae'n mynd ar hyd a lled Cymru, yn y de—eich holl etholaethau, fe welwch y bydd yno. Mae wedi bod i'r gogledd, dywed wrthyf, sawl gwaith. Ond mae'n eithaf rhyfeddol, dylanwad goroeswyr. Mae'n feddyg wedi ymddeol, ac mae'n dweud, 'Dyma'r hyn rwy'n ei wneud', a siaradodd neithiwr am y ffaith na allai siarad amdano, ni allai wneud hyn, nes yr oedd wedi ymddeol. Ac mae llawer o oroeswyr eraill wedi bod yn y sefyllfa hon, a diolch i chi am grybwyll Mala Tribich a'r hyn a wnaeth.

Nawr, rwyf eisiau dweud yn olaf, mewn ymateb i'ch dau sylw, ydy, mae'n bwysig bod Sefyll Gyda'n Gilydd mewn gwirionedd yn adlewyrchu'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud o ran cryfhau cydraddoldeb a chynhwysiant a hawliau dynol yng Nghymru, a rhaid inni gydnabod hynny o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb, eithrio a gwahaniaethu. Ac fe af ar drywydd hyn gydag Issac Blake. Rydym yn ariannu, yn cefnogi, fel y dywedais, sefydliadau sy'n cefnogi Sipsiwn a Theithwyr, ond hefyd cymuned gelfyddydau y Romani y mae Issac yn ei chefnogi. Gan ei fod yn dylanwadu ar ysgolion ar draws Cymru, o Gasnewydd, o Billgwenlli, i Gaerfyrddin, i Sir Benfro, a'r plant, nad ydynt—yn amlwg, nid yw'r rhain i gyd yn ysgolion amrywiol, ond ysgolion sy'n dysgu am hyn, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ni ehangu ein gwybodaeth, gan y bydd hynny'n bwysig i'r myfyrwyr a'r plant, a fydd yn elwa.  

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:31, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf eisiau gallu galw dau gyfraniad arall, felly os gall cyfranwyr fod yn weddol gryno, a'r Gweinidog wrth ymateb hefyd. Suzy Davies.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:32, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am y cyfle hwn. Dirprwy Weinidog, a gaf i ddweud 'diolch' am eich atebion cynharach, ac am y cyfraniadau heddiw? Roeddech yn iawn: fe wnes i fynd i ymweld ag Auschwitz-Birkenau yr adeg yma yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn bwriadu siarad am hynny'n benodol, ac eithrio un elfen benodol, yr ydym ni wedi'i chrybwyll eisoes, a dyna'r rheidrwydd i'n pobl iau fynd yno. Mae'n 75 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau, fel y gwyddom ni. Mae amser wedi mynd heibio. Ni chafodd y cenedlaethau a ddaeth o flaen y bobl ifanc sydd gennym ni heddiw—fy nghenhedlaeth i o leiaf, a aned lai nag 20 mlynedd ar ôl yr ail ryfel byd—eu hysbysu am erchyllterau'r Holocost ac, yn wir, fel y clywsom ni gan Norma Glass, aelod o'r gymuned Iddewig yn Abertawe, a oedd yn nigwyddiad Pentrehafod yn gynharach yr wythnos hon—menyw hŷn yw hon—ni chafodd wybod am y digwyddiadau ychwaith, oherwydd ni allai pobl ddarbwyllo eu hunain i siarad am y peth. Dyna pam yr wyf innau hefyd yn falch o waith Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, wrth gwrs, parodrwydd goroeswyr i siarad â ni.

Yn ogystal â'm hanogaeth i gael cynifer o bobl ifanc i fynd i Auschwitz cyn gynted â phosib, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod, oherwydd bod amser wedi mynd heibio, ein bod ni bellach yn cael straeon am unigolion—a phwysleisiaf mai unigolion ydyn nhw—sy'n meddwl ei bod yn hollol briodol, ar ôl gweld rhai o'r arddangosion erchyll, ac ar ôl gweld y ffyrnau lle bu pobl fel nhw'n llosgi pobl fel nhw, eu bod nhw'n gallu sefyll o flaen y wal farwolaeth, lle cafodd pobl fel nhw eu saethu gan bobl fel nhw, i dynnu hun-luniau a gwneud—. Gweithgareddau llawn hwyl hurt, a tybed: a ydyn nhw'n gweld eu hunain yn wrthsemitaidd pan fyddan nhw'n gwneud hynny? Oherwydd dyna'r hyn yr oeddwn am eich holi yn ei gylch. Mae rhan o'r anogiad Sefyll Gyda'n Gilydd hwn yn ymwneud â gweithredoedd yn hytrach na geiriau yn unig, ac fel rhan o'm hymweliad yr wythnos diwethaf—. Yn amlwg, cawsom gynhadledd ochr yn ochr â'r ymweliad, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Iddewig Ewrop, sef y gymdeithas fwyaf o sefydliadau Iddewig ledled Ewrop, yn yr UE a thu hwnt, ac yn y gynhadledd, clywsom gan Weinidogion gwladol o'r holl wledydd Ewropeaidd y gallaf feddwl amdanynt, a gwahoddwyd pob un ohonom ni i ystyried deddfwriaeth bellach yn ein gwledydd—a dyma lle mae gweithredu yn hytrach na dim ond geiriau yn rhan o'r hyn yr wyf ar fin ei ddweud—i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth.

Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer pob un o'r rhain, a byddaf yn mynd drwyddynt cyn gynted â phosib, ond yr un cyntaf oedd gofyn a oedd gwladwriaethau yn barod i gosbi sefydliadau neu unigolion sy'n ymwneud â stereoteipio gwrthsemitaidd yn gyhoeddus. Awgrymwyd i ni y dylai cyrff addysg cenedlaethol ein holl wledydd benodi cynrychiolydd arbennig gyda'r cyfrifoldeb o gysylltu â chynrychiolwyr cymunedau Iddewig dynodedig sydd ag arbenigedd ym maes addysg i sicrhau bod adnoddau addysgu yn gywir, bod yr Holocost yn cael ei weld fel darlun mwy o'r genedl Iddewig a hanes yr Iddewon, ac y gellir cydnabod yn ddigonol gyfraniad Iddewon i fywyd cyhoeddus—sy'n arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae'r boblogaeth Iddewig yn fach, ac, fel y crybwyllwyd gan Jenny, nid yw ymchwil addysg ehangach i'r Holocost, hyd y gallaf ddweud, beth bynnag, wedi datblygu cymaint ag y mae yn yr Alban a Lloegr. Rwy'n argymell papur Dr Andy Pearce ar yr Holocost a chwricwlwm cenedlaethol Lloegr ar ôl 25 mlynedd. Nid yw unrhyw un o'r cynigion hyn yn rhwystro gweithredu tebyg i fynd i'r afael â mathau eraill o wahaniaethu hiliol neu grefyddol, wrth gwrs.

Yna, yn drydydd, fe alwon nhw am waharddiad llwyr ar fasnach gofiannau'r Natsïaid am elw personol neu oherwydd diddordeb dychrynllyd, gan eithrio haneswyr a sefydliadau cyfreithlon, wrth gwrs. Uchafbwynt y digwyddiad i mi oedd cwrdd ag Abdallah Chatila, y Cristion o Libanus a wariodd €600,000 o'i arian ei hun i gymryd nifer o eiddo personol Hitler oddi ar y farchnad, ac maen nhw nawr ar eu ffordd i Yad Vashem. Nid oes gennym y cymhwysedd ar gyfer hyn i gyd, ond os yw Sefyll Gyda'n Gilydd yn golygu gweithredu yn hytrach na geiriau, tybed a fyddech yn barod i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU—mae'n ddrwg gennyf fod gwelliant Dubs wedi codi yn y cyd-destun hwn; nid wyf yn credu bod hynny'n briodol—ond i feddwl hefyd am yr hyn y gallwn ni ei wneud yma gyda'r pwerau sydd gennym ni, boed hynny drwy bolisi neu drwy ddeddfwriaeth. Diolch, Llywydd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:36, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Suzy Davies, a diolch i chi am rannu â ni yr hyn a gawsoch chi ac a ddysgoch chi o'ch ymweliad nid yn unig ag Auschwitz-Birkenau ond hefyd yn y gynhadledd ar gyfer y Gymdeithas Iddewig Ewropeaidd. Hoffwn i chi—rydych chi wedi rhoi rhai o'r argymhellion i ni; hoffwn i chi ysgrifennu ataf a'u hanfon ataf. Ond fel y dywedwch chi, rydych chi wedi dychwelyd o'r gynhadledd honno, wedi gofyn cwestiwn i mi ar unwaith, a oedd yn beth da iawn, y prynhawn yma, ac rwyf wedi croesawu hynny yn fy nghwestiynau llafar.

Ond mae a wnelo hyd â gweithredu yn hytrach na geiriau. Rwyf hefyd yn cydnabod bod ffyrdd lle rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd ar draws Cymru gyfan. Roeddech chi'n sôn am Norma Glass, er enghraifft; fe wnes i gyfarfod â hi a'r Prif Weinidog yn yr haf, a dydd Sadwrn diwethaf yn bresennol ar ddechrau agoriad canolfan ddiwylliannol a digidol y gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Abertawe yn Theatr y Grand, lle roedd wrth gwrs Iddewon, Mwslimiaid—pob ffydd, pob cymuned yno yn cael eu cynrychioli.

Ond yn gyflym iawn, dim ond i ddweud o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad i ddiffiniad Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth—rydym ni wedi trefnu hyfforddiant ar wrthsemitiaeth ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru, ac rydym ni hefyd wedi cynnig hynny i randdeiliaid allanol, gan gynnwys pwyslais ar ddiffiniad y Cynghrair o wrthsemitiaeth. Rydym ni wedi trefnu i oroeswyr yr Holocost sydd â chysylltiadau Cymreig i roi sgyrsiau, rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost, ac, wrth gwrs, rwyf wedi siarad am ein camau gweithredu cydgysylltiedig clir o ran mynd i'r afael â throseddau casineb. Ond hefyd, dim ond i ddweud fod gennym fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb, sydd wedi cael trafodaeth lawn ar droseddau casineb gwrthsemitaidd, ac yn gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i sicrhau bod gennym ni system gofnodi i dynnu sylw at droseddau casineb a digwyddiadau gwrthsemitaidd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol i mi ymateb i'ch llythyr er mwyn tynnu sylw at yr hyn yr ydym ni eisoes yn ceisio ei wneud.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:38, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Nawr yn fwy nag erioed dylem atgoffa ein hunain y bydd pob math o gasineb a dad-ddynoli'r Llall, o'u gadael yn ddiwrthwynebiad, yn tanseilio gwerthoedd democrataidd a hawliau dynol, a byddant yn bwydo eithafiaeth dreisgar. Ni allwn ni fforddio byw mewn cymdeithasau lle mae pobl yn poeni am eu diogelwch ac yn dioddef gwahaniaethu a lle gwedir eu hawliau iddynt bob dydd, am ddim rheswm arall heblaw eu hunaniaeth a'u hargyhoeddiadau. Rhaid i awdurdodau'r wladwriaeth, personoliaethau cyhoeddus, y cyfryngau a phob un ohonom ni gondemnio a mynd i'r afael â gweithredoedd gwrthsemitaidd, senoffobig ac ymdrechion eraill i ddifrïo Llall. Mae gan arweinwyr gwleidyddol y ddyletswydd i atal anoddefgarwch a chaseiriau rhag dod yn rhan o wleidyddiaeth prif ffrwd, i helpu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol i ddeall beth sy'n digwydd pan ganiateir i ragfarn a chasineb ffynnu. Rhaid i ni ddod yn fwy llafar, gweladwy ac effeithiol yn erbyn y rhai sy'n ennyn casineb.

Mae diwrnodau cofio yn bwysig ar gyfer oedi a myfyrio, ond mae'r frwydr yn erbyn casineb yn her y mae'n rhaid ei hwynebu bob dydd, nid unwaith y flwyddyn. Wrth i nifer y rhai a oroesodd yr Holocost edwino, rhaid inni gynnal eu fflam a helpu i gadw'r cof amdanynt yn fyw. Rhaid i'w tynged drasig aros yn weladwy a'n harwain tuag at gymdeithas fwy cyfiawn a chynhwysol, yn rhydd o gasineb. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwn a gyhoeddwyd yr wythnos hon i nodi digwyddiadau coffáu'r Holocost gan Gyngor Ewrop, ac a yw hi'n cytuno bod hyn yn fodd amserol o'n hatgoffa o sut yr ydym ni, waeth beth fo'r cysylltiadau ffurfiol neu beidio, yn y pen draw yn gryfach gyda'n gilydd fel partneriaid a chyfeillion yn Ewrop, wedi ein huno gan werthoedd goddefgarwch a dealltwriaeth, ac wrth gofio gwersi poenus y gorffennol diweddar, i'n hatal ni rhag eu hailadrodd yn y dyfodol?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:40, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw Irranca-Davies, a diolch am ddarllen y datganiad yna gan Gyngor Ewrop. Gobeithio yn ystod yr wythnos hon y gallwn ni fyfyrio ar y datganiad hwnnw. Yn amlwg, o'r cyfraniadau sydd wedi'u gwneud y prynhawn yma, mae ymrwymiad cryf i'r datganiad hwnnw. Rhaid inni gadw hynny wrth wraidd yr hyn a wnawn o ran Llywodraeth a chraffu, yn ogystal â'n gwaith o lunio polisïau.

Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni orffen drwy ddweud, fel yr ydych chi ac eraill wedi dweud, mae'r neges o gyd-sefyll yn bwysig iawn ar gyfer heddiw. Mae'n dweud:

Sefwch ar y cyd ag eraill yn ein cymunedau er mwyn atal rhaniadau ac ymlediad gelyniaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth yn ein cymdeithas.

Dyna beth mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost wedi ein hannog i'w wneud: safwn gyda'n gilydd. Diolch yn fawr.