Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 28 Ionawr 2020.
Llywydd, rwy'n hapus i gyhoeddi pecyn arall o gymorth ar gyfer canol trefi gwerth bron i £90 miliwn yn rhan o'n hagenda trawsnewid trefi. Mae hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad £800 miliwn rhagamcanol yn ein trefi o ganlyniad i'n rhaglenni adfywio ers 2014. Mae'r pecyn trawsnewid trefi yn cynnwys cymorth i orfodi'r gyfraith mewn cysylltiad ag eiddo gwag a dadfeiliedig yng nghanol ein trefi, cronfa seilwaith gwyrdd newydd a dull o ymdrin â datblygiadau newydd sy'n rhoi'r ystyriaeth gyntaf i ganol y dref.
Bydd y mesurau hyn yn cyfrannu'n sylweddol at iechyd canol ein trefi. Rydym ni i gyd yn cytuno bod trefi'n eithriadol o bwysig i Gymru, a bydd gan y mwyafrif helaeth ohonom ni gysylltiad naturiol ag o leiaf un dref—lleoedd sydd wedi ein llunio, lleoedd sydd â chyswllt creiddiol â chyfeillion a theulu, lleoedd sydd gymaint yn fwy na dim ond casgliad o adeiladau. Mae gan drefi ar draws y wlad asedau unigryw, treftadaeth falch a hanes sy'n ysbrydoli.
Ond rwyf eisiau i'n trefi gael dyfodol gwych yn ogystal â gorffennol gwych, ac mae rhai yn wynebu heriau. Mae'r sector manwerthu wedi newid wrth i'r ffordd yr ydym yn siopa, yn gweithio ac yn byw newid. Mae swyddogaeth trefi yn newid ac mae angen i drefi ail-greu eu hunain i addasu. Dyna pam y buom ni'n buddsoddi i ddod â bywyd i ganol trefi drwy gyfrwng tai, swyddfeydd a lleoedd i sefydlu busnesau newydd, a gwasanaethau hamdden a chyhoeddus. Mae gennym ni nifer o gronfeydd adfywio sy'n canolbwyntio ar ganol trefi ond nad ydynt wedi'u hyrwyddo'n benodol felly. O hyn ymlaen, bydd ein buddsoddiadau yn rhan annatod o'n hagenda trawsnewid trefi a hoffwn egluro a symleiddio'r prosesau sy'n ymwneud â chronfeydd.
Mae'r pecyn trawsnewid trefi yn cynnwys ymestyn ein rhaglen ariannu grant cyfalaf am flwyddyn arall i fis Mawrth 2022. Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £36 miliwn yn galluogi ychwanegol gwerth bron £58 miliwn i gael eu cyflawni. Rwyf hefyd yn rhoi £10 miliwn o arian benthyca ychwanegol i sicrhau bod adeiladau gwag a dadfeiliedig yng nghanol trefi yn cael eu defnyddio unwaith eto. Ac rwyf wedi sefydlu cronfa seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth £5 miliwn ar gyfer prosiectau gwyrdd, a fydd yn dod â manteision amgylcheddol yn ogystal â helpu i wneud canol trefi yn lleoedd mwy deniadol i ymweld â nhw.
Mae trefi arfordirol fel y Rhyl, Bae Colwyn, Aberteifi a'r Barri eisoes yn elwa ar ein rhaglenni presennol, a byddant yn parhau i wneud hynny. Er hynny, rwyf wedi clustnodi cyllid yn benodol i gefnogi prosiectau yn ardaloedd y trefi arfordirol. Bydd y £2 miliwn hwn o arian yn cyflawni prosiectau gwerth tua £3 miliwn ac yn cynnwys elfen o refeniw yn ogystal â chyllid cyfalaf.
Yn fwy cyffredinol, rwyf hefyd yn darparu £0.5 miliwn o arian refeniw i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu prif gynlluniau, prosiectau a darpariaethau ar gyfer canol trefi, gan gynnwys datblygu digidol a gwella ymgysylltiad cymunedau a rhanddeiliaid. Mae ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid yn allweddol i fywiogrwydd tref. Rwyf eisiau cefnogi cymunedau a rhanddeiliaid i berchnogi eu trefi a llunio'u dyfodol. A bwriadaf heddiw ymweld â threfi ar draws y wlad i glywed beth sydd gan bobl i'w ddweud a sut y maen nhw eisiau llunio, trawsnewid, eu trefi eu hunain a'r mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio. Rydym ni hefyd wedi rhoi £539,000 i gefnogi datblygiad 22 o ardaloedd gwella busnes.
Fel rhan o roi'r offer i gymunedau a busnesau wneud y gwaith, gydag Ymddiriedolaeth Carnegie, fe wnaethom ni ariannu'r gwaith o greu'r offeryn data deall lleoedd Cymru. Rydym ni bellach yn ariannu'r gwaith o ddatblygu'r adnodd ymhellach, sy'n helpu defnyddwyr i ddeall yn well y mannau lle maen nhw'n byw ac yn gweithio, er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol.
Er fy mod yn awyddus i rymuso a herio cymunedau i gymryd perchenogaeth ac ysgogi newid o lawr gwlad i fyny, rwy'n cydnabod bod gan y Llywodraeth ran strategol, allweddol yn hyn. Rwyf eisiau defnyddio pob grym sydd ar gael inni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i ganol ein trefi. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon, ynghyd â'n partneriaid yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi mabwysiadu egwyddor o roi canol trefi yn gyntaf. Bydd hyn yn golygu mai lleoliadau canol tref fydd yr ystyriaeth gyntaf ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yr ydym yn rhan ohonynt. Bydd yr egwyddor yn greiddiol i'n strategaeth ystadau ar gyfer y dyfodol a byddwn yn cefnogi ac yn annog ein partneriaid yn gryf i wneud yr un peth.
P'un a yw hi'n dref wledig fach neu'n un drefol fawr, boed yn fy swyddfa etholaeth yng nghanol tref y Fflint, neu ym mhencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd, gall penderfyniadau o ran lleoliad roi hwb i dref. Ymwelais yn ddiweddar â phencadlys newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mae Colwyn a gwelais drosof fy hun yr effaith gadarnhaol ar ganol y dref—mwy o bobl yn y dref, llai o swyddi gwag a gwelliant amlwg ym mherfformiad a hyder busnesau. Mae lleoliadau canol tref hefyd yn dod â manteision amgylcheddol mawr, fel lleihau teithiau car untro, cadw safleoedd meysydd glas, cyfleoedd i gyflwyno seilwaith gwyrdd, a mwy o gydleoli asiantaethau cyhoeddus.
Un o'r heriau allweddol wrth drawsnewid ein trefi yw mynd i'r afael ag eiddo neu dir gwag neu ddiffaith—yr eiddo sydd wedi difetha gormod o'n strydoedd mawr yn rhy hir. Mae'n bryd rhoi terfyn ar hyn. Rwy'n galluogi awdurdodau lleol i fanteisio ar arbenigedd a chronfa ddatrys £13.6 miliwn i'w galluogi nhw i fod yn dân cyson ar groen y perchenogion hynny nad ydynt yn gwneud eu rhan neu sydd dim ond yn gwneud y lleiaf posibl. Gyda'n partneriaid awdurdod lleol, rydym ni wedi rhoi blaenoriaeth i 66 eiddo ledled Cymru i weithredu yn eu cylch. Felly, fy neges i berchnogion eiddo gwag yng nghanol trefi yw: gweithiwch gyda ni a byddwn yn eich helpu chi er mwyn i'ch eiddo gwag gael ei ddefnyddio unwaith eto. Ond, os byddwch yn gwrthod cydweithredu, ni fyddwn yn ofni gweithredu'n gadarn a therfynol.
Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi bywyd a phwyslais o'r newydd o ran sut yr ydym ni'n rhoi sylw â chefnogaeth i ganol trefi, a bydd y mesurau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol. Hefyd, mae fy swyddogion yn ymchwilio i ddichonoldeb cronfa sydd â'r nod o ryddhau safleoedd segur strategol yng Nghymru lle mae modd codi nifer sylweddol o dai. Mae hyn yn cysylltu ag argymhellion yn yr adolygiad tai fforddiadwy ac wrth adlewyrchu ein pwyslais ar ganol trefi, bydd yn blaenoriaethu safleoedd a fyddai o fudd uniongyrchol i ganol trefi.
Llywydd, dim ond dechrau trawsnewid trefi yw'r pecyn hwn ac yn bendant nid y diwedd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod trefi ar draws y wlad nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Diolch yn fawr.