6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:57, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Mae llawer i'w groesawu ynddo. Mae pobl yn sylweddoli fwyfwy bod trefi wedi cael eu hesgeuluso oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraethau yn y fan yma ac yn San Steffan, ac mae yna sylweddoliad hefyd, rwy'n credu, fod angen newid hynny oherwydd bod canol trefi mor bwysig i fusnesau, i iechyd yr economi leol, ac wrth gwrs—yn bwysicaf oll, efallai—i'r bobl sy'n byw ynddynt.

Byddwn i gyd yn gyfarwydd â'r profiad o ymweld â chanolfannau trefi hanesyddol a strategol bwysig yng Nghymru a chael ein siomi o weld adfeilion a siopau â gorchuddion haearn dros eu mynedfeydd. Ond, Dirprwy Weinidog, mae yna hadau gobaith yng Nghymru hefyd, ac rwy'n credu y byddem i gyd yn hoffi manteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Treorci am ennill gwobr y stryd fawr orau yn y DU. Felly, beth mae Treorci yn ei wneud yn iawn? Mae tua 100 o siopau ar y stryd fawr, a'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw yn cael eu rhedeg yn annibynnol, ac mae'r raddfa feddiannaeth yn syfrdanol ar 96 y cant, sy'n rhyfeddol. Dyma'r hyn y dylem ni fod yn anelu ato ym mhob cwr o Gymru. Felly, byddwn yn croesawu clywed beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddysgu o'u profiadau yn y fan yna—yn enwedig y ffaith bod 60 y cant o'r siopau annibynnol, yn ôl y BBC, yn cael eu rhedeg gan fenywod, sy'n dangos sut y gall economi leol ddod â manteision pendant mewn cydraddoldeb economaidd.

Nawr, llwyddiant arall sy'n raddol amlygu ei hun yw Llanelli, lle mae'r awdurdod lleol wedi gwneud defnydd rhagorol o ffrydiau ariannu, gan gynnwys y cynllun benthyca ar gyfer canol trefi. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd y cyllid hwn yn parhau i fod ar gael i awdurdodau lleol sy'n awyddus i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddynt i weddnewid canol eu trefi? Nawr, byddwn yn cytuno bod y gronfa £10 miliwn ar gyfer adfer eiddo adfeiliedig ar gyfer eu defnyddio unwaith eto yn briodol fel cam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r broblem honno. Ond y gŵyn a glywn gan fusnesau dro ar ôl tro yw na allant gael deupen llinyn ynghyd oherwydd baich andwyol ardrethi busnes, sy'n uchel yng Nghymru i fusnesau bach a chanolig, fel y gwyddoch chi. Felly, er fy mod yn croesawu'r geiriau di-lol yr ydych chi wedi'u dweud, pan ddywedwch y byddwch yn grymuso awdurdodau lleol i weithredu'n gadarn a therfynol yn erbyn perchenogion eiddo gwag sy'n gwrthod cydweithredu, mae angen inni weithredu hefyd i atal yr eiddo hyn rhag dadfeilio a chael eu gadael yn wag yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n eich annog i berswadio Gweinidog yr economi i edrych ar sut y gellir codi baich ardrethi busnes fel blaenoriaeth, fel y gellir ategu eich geiriau cadarn gyda gweithredu cadarn yn hynny o beth hefyd.

Yn wir, mae llawer o'r problemau y mae canol trefi'n eu hwynebu yn tarddu—gan fod y pethau hyn oll yn gysylltiedig, byddant yn deillio o bortffolios yr economi a thrafnidiaeth: diffyg gwasanaethau bws fforddiadwy o fewn a rhwng trefi sy'n ei gwneud hi'n anodd i'r cyhoedd defnyddio trafnidiaeth i deithio o gwmpas, a chostau parcio afresymol, sy'n golygu nad yw teithio mewn car yn ddymunol i gynifer o bobl.

Synnais braidd o weld cyfeiriad at wasanaethau lleol, megis canolfannau hamdden, yn datgan eu bod yn hanfodol i ganol trefi. Wrth gwrs fy mod yn cytuno â'r egwyddor honno, ond bu'n rhaid i ymgyrchwyr yn fy rhanbarth i frwydro nerth eu deng ewin i atal cau adnodd lleol gwerthfawr, sef Canolfan Hamdden Pontllanfraith. Unwaith eto, nid wyf yn amau didwylledd y bwriad yma, ond teimlaf y byddai mwy o weithio rhwng adrannau o fudd i'r Llywodraeth yma hefyd, oherwydd mae toriadau i lywodraeth leol yn anochel yn golygu toriadau i wasanaethau lleol, a byddai mynd ati fel un llywodraeth yn rhywbeth y byddai croeso brwd iawn iddo yn hynny o beth.

Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y nodyn a ddosbarthwyd ganddi cyn y datganiad am yr egwyddor o ystyried canol trefi yn gyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr fel ffordd o gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi, ac unwaith eto, gobeithiaf y caiff yr uchelgais ei wireddu gyda gweithredu. Soniwyd yn y nodyn na fydd pob gwasanaeth cyhoeddus a chyfleusterau yn addas ar gyfer canol y dref, felly, a fyddech cystal â nodi pa wasanaethau a chyfleusterau nad ydych yn rhagweld y byddant yn addas ar gyfer canol trefi? Ond eto, mae llawer i'w groesawu yn y fan yma ac rwy'n edrych ymlaen at graffu gyda diddordeb ar y modd y cyflawnir y cynlluniau.