Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 29 Ionawr 2020.
Mae'n gofyn y cwestiwn: faint o ystyriaeth roeddech wedi'i rhoi i iteriadau blaenorol o'r cynigion hyn, neu a fuoch yn rhan ohonynt o gwbl? Oherwydd rydych yn swnio fel pe baech yn diystyru'r hyn rydym wedi'i gael hyd yn hyn, gan nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y ffeil a ddarparwyd i chi. Felly, credaf fod cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â phwy sy'n gwneud penderfyniadau neu'n cyflwyno awgrymiadau ynglŷn â hyn.
Nawr, rwyf wedi awgrymu eisoes y gallai fod canlyniadau negyddol annisgwyl—neu ddisgwyliedig, efallai—yn sgil eich dull blaenorol o fynd ati. Nawr, nid yn unig y gwyddom fod cynnydd enfawr mewn lefelau nitradau yn yr ardaloedd hynny lle rydym wedi gweld, yn y gorffennol, cyfnodau gwaharddedig—cynnydd mewn nitradau yn union cyn y cyfnod gwaharddedig ac yn syth ar ei ôl, am resymau amlwg—ond hefyd, ceir pryder y gallai ffermydd Cymru golli gwartheg, a gostyngiad dilynol o ran pori cymysg ar ucheldir Cymru.
Nawr, nid yw ffermydd ag 20 neu 30 o fuchod sugno yn mynd i fuddsoddi degau o filoedd o bunnoedd mewn seilwaith newydd i fodloni gofynion y rheoliadau newydd hyn, gan fod hynny'n gwbl anghymesur â'r lefelau isel o stoc y maent yn eu cadw. Dywedant wrthyf mai'r dewis iddynt hwy, felly, yw rhoi'r gorau i ffermio gwartheg, a bydd hynny, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau dilynol i fioamrywiaeth a chynefinoedd yr ucheldir, ond hefyd i'r sector cig eidion ehangach yma yng Nghymru.
Mae sefydliadau amgylcheddol yn poeni am y canlyniad posibl hwnnw. Mae Hybu Cig Cymru hefyd yn pryderu am y canlyniad posibl i'r sector cig eidion ehangach. Nid oes unrhyw un yma yn dweud, 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth'—mae angen i bawb ddeall a chlywed hynny—ond o'm rhan i, hyd yn hyn, mae'r Llywodraeth yn amlwg wedi methu dadlau'r achos dros eich cynigion, neu ddarparu tystiolaeth sy'n cyfiawnhau'r dull rydych yn awyddus i'w fabwysiadu yn ôl pob golwg.
Felly, hoffwn ofyn i chi ailedrych ar y cynigion hyn, ac os gwelwch yn dda, i edrych ar y 45 o argymhellion a gafwyd gan yr is-grŵp llygredd amaethyddol, a ddylai fod wedi cael eu hystyried yn briodol fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi bod ar gael ar ffurf drafft.