Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:49, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, ar hyn o bryd, rwyf—. Nid oes digon o oriau wedi bod pan wyf wedi bod yn effro a heb fod yn gweithio i gael amser i ddarllen, fel y dywedaf, y corff mawr iawn hwn o dystiolaeth, a hoffwn roi fy ystyriaeth lawn iddo.

Cawsom ymgynghoriad ar hyn yn ôl yn 2016. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn rhuthro tuag ato. Mae hon wedi bod yn broses hir iawn. Byddai rhai yn dweud ei bod wedi bod yn rhy hir. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn, a byddaf yn cyhoeddi cymaint ag y gallaf i ddangos sut y mae'r polisi hwnnw wedi'i lunio.