Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n amlwg fod rhai enghreifftiau lle mae pobl sydd wedi elwa o gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd ynni yn eu cartref—maent wedi cael problemau, yn enwedig gyda lleithder, a phroblemau eraill cysylltiedig. Gwn ei fod yn achos pryder i lawer o Aelodau, ar draws y Siambr—ddoe ddiwethaf, cyfarfûm â'n cyd-Aelod, Dawn Bowden, sydd â phryderon yn ei hetholaeth. Pan fydd y pethau hyn yn cael eu gosod a'u cynnal yn gywir, gwyddom y gallant wella ansawdd bywyd pobl yn sylweddol a lleddfu tlodi yn y ffordd y trafodwyd gennym. Felly rwy'n parhau i weithio gyda chontractwyr; mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyrff perthnasol hefyd, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fydd gennyf ragor i'w rhoi.