Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Ionawr 2020.
Weinidog, y ffigurau a ddyfynnwyd gennych yn gynharach—129,000 o bobl yn cael cymorth, 50,000 o gartrefi—yn newyddion da ledled Cymru. Ond wrth gwrs, roedd y rhaglenni hynny'n seiliedig yn aml iawn ar warant a gynigiwyd gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Nawr, pan fo rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r datblygwyr hynny—naill ai rydym wedi cael datblygwr amheus, neu rydym wedi cael deunyddiau diffygiol, ac o ganlyniad, mae'r cartrefi wedi cael trafferth â lleithder ac yn broblemus—mae'n bwysig, felly, y gallant ddibynnu ar y warant honno i sicrhau bod y camgymeriadau hynny'n cael eu cywiro. Mae gennyf etholwyr o hyd sy'n lleisio pryderon eu bod yn ei chael hi’n anodd cael y gwarantau wedi'u sicrhau a'u cyflawni. A wnewch chi edrych eto ar y rhaglen hon er mwyn sicrhau bod y gwarantau yno i bobl, fel y gallant ddibynnu arnynt pan fydd pethau'n mynd o chwith a pheidio â gorfod gwario miloedd o bunnoedd i gywiro camgymeriadau, na ddylent orfod ei wneud?