Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:47, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Ond y ffaith amdani yw nad yw CNC yn cefnogi'r cynnig i wneud Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, ac er bod achosion y mae angen mynd i'r afael â hwy, mae'n amlwg eu bod yn teimlo y byddai gwneud hynny ar draws 8 y cant o Gymru yn ddigonol i fynd i'r afael â'r mater. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan mai dogfen 20 tudalen yn unig oedd y drafft, ac am newid mor sylweddol â hwn, mae gwir angen rhywbeth ychydig yn fwy cadarn na hynny. Fe'i gadawaf yn y fan yna.

Ond wrth gwrs, os ydych am fabwysiadu ymagwedd tiriogaeth gyfan, mae angen i ni fod yn sicr mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf yn sicr, ac nid wyf wedi gweld tystiolaeth sy'n dweud wrthym y bydd parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn effeithiol o ran lleihau llygredd amaethyddol. Oherwydd nid yw'r wybodaeth a gafwyd, eto gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu unrhyw dystiolaeth sylweddol o effeithiolrwydd rhaglen weithredu'r parthau perygl nitradau yn lleihau llygredd amaethyddol, er bod y dynodiadau'n dyddio'n ôl i 2002. Rydym wedi gweld nifer o bapurau ymchwil gwyddonol sy'n ystyried effeithiolrwydd parthau perygl nitradau, neu fel arall, a dywedant wrthym nad yw'r dull yn cael fawr o effaith, os o gwbl, gyda rhai'n tynnu sylw at effeithiau niweidiol hefyd. Canfu un astudiaeth, a dyfynnaf:

na chafwyd unrhyw welliant sylweddol mewn 69% o barthau perygl nitradau mewn crynodiadau dŵr wyneb hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd. O gymharu â dalgylch rheoli, cafwyd gwelliant sylweddol mewn 29% o barthau perygl nitradau— mae hynny'n gadarnhaol— ond cafwyd gwaethygiad sylweddol mewn 31% ohonynt.

Felly, ble mae eich tystiolaeth y bydd dull parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn cael yr effaith y mae cymaint ohonom am ei gweld?