Yr Adolygiad Brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 1:56, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Y broblem yn sicr, Weinidog, yw na fyddwch yn cael eich cyhuddo o ruthro i ddeddfu ar y mater hwn. Nid yw rhoi sicrwydd pendant eich bod yn mynd i ddarllen adroddiad yn rhoi llawer o hyder i'r Aelodau yma. Rydym wedi clywed y sicrwydd hwnnw o'r blaen, ac rydym wedi cael ein siomi. Credaf ein bod wedi cyrraedd pwynt bellach, gydag ychydig dros flwyddyn ar ôl yn y Senedd hon, lle rydym am weld camau gweithredu, ac rydym am weld yr addewidion yn cael eu gwireddu. Ni chredaf mai rhestr ddarllen yw'r hyn y mae pobl ar bob ochr i'r Siambr am ei gweld, ond yn hytrach, ymrwymiad i wneud hyn ac i gyflawni hyn. Credaf ein bod yn gwneud tro gwael â phobl, ledled y wlad, ac mae pobl yn dweud eu bod am weld y cam hwn yn cael ei gwblhau. Credaf fod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i weld gweithredu ac nid geiriau.