Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 29 Ionawr 2020.
Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid bod yr Aelod wedi fy ngham-glywed. Rhoddais y sicrwydd pendant hwnnw i Vikki Howells y byddaf yn gwneud datganiad ar ôl toriad mis Chwefror, yn dilyn yr adroddiad a gefais gan y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, a hefyd ar y trafodaethau a gafodd y prif swyddog milfeddygol gyda phob un—wel, 21—o'r awdurdodau lleol, ni fynychodd un ohonynt, i weld beth yw'r rhwystrau rhag gorfodi, a hefyd gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â pha hyfforddiant pellach y gallwn ei roi i filfeddygon. Oherwydd, yn dilyn y rhaglen gan y BBC, a arweiniodd at lawer o'r ohebiaeth hon, roedd yn amlwg fod sawl mater angen sylw. Ni ellir rhuthro deddfwriaeth—mae'r Aelod yn gwybod hynny—ond yn sicr, rwy'n rhoi sicrwydd cadarn y bydd y ddeddfwriaeth honno yn ei lle yn y tymor hwn.