Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Byddaf yn gwneud datganiad ac yn cyhoeddi adroddiad y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yn dilyn toriad mis Chwefror. Mae'r argymhellion yn gynhwysfawr ac yn cynnwys gorfodi, hyfforddi milfeddygon a swyddogion awdurdodau lleol, diwygiadau i amodau trwyddedau, yn ogystal ag ystyried deddfwriaeth arall sy'n gysylltiedig â bridio a gwerthu cŵn.