Yr Adolygiad Brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:54, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, a diolch hefyd am eich ymateb blaenorol i fy nghwestiynau ysgrifenedig yn gynharach yn y mis. Mae hyn yn bwysig iawn fel cam tuag at gyflwyno deddf Lucy i wahardd gwerthiannau cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Mae'r canfyddiad o ddiffyg cynnydd yn peri pryder ymhlith ymgyrchwyr, gydag ofnau y bydd Cymru, ar ôl i Loegr gyflwyno eu deddf Lucy eu hunain ym mis Ebrill, yn dod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'Siop ar gyfer anifeiliaid anwes sâl ac anafus.' Weinidog, a allwch roi sicrwydd cadarn i mi na fyddwch yn gadael i hyn ddigwydd, ac y bydd deddf Lucy yn cael ei chyflwyno yng Nghymru cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn? Pryd y gallwn ni, a'r llu o bobl ledled Cymru sy'n dilyn hyn mor agos, ddisgwyl amserlen fanwl ar gyfer y camau nesaf tuag at gyflawni'r nod hwn?