Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 29 Ionawr 2020.
Mae Lloegr, wrth gwrs, yn cyflwyno deddf Lucy ym mis Ebrill. Mae de Iwerddon yn cyflwyno rheoliadau tebyg y mis nesaf. Nid oes gan Gymru, cartref y fferm fridio y cafodd Lucy ei hachub ohoni, ddyddiad ar gyfer cyflwyno'r ddeddf.
Mae cryn ddiddordeb cenedlaethol yn hyn, ac mae gan y Pwyllgor Deisebau ddeiseb wedi’i llofnodi gan 11,195 o bobl yn galw am wahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob deliwr masnachol trydydd parti yng Nghymru. Y mis diwethaf, nododd Llywodraeth Cymru fod angen iddi gael dealltwriaeth drylwyr o'r rhwystrau rhag gorfodi o fewn y ddeddfwriaeth bresennol fel y gallech fynd i'r afael â'r broblem yn effeithiol. Pa rwystrau a nodwyd gennych, ac erbyn pryd y bwriadwch eu goresgyn?