Y Rhaglen i Ddileu TB

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:20, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar symleiddio unrhyw beth. Rwy'n casáu biwrocratiaeth ac os gellir ei symleiddio mewn unrhyw ffordd—. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn gweithio gyda ffermwyr unigol lle mae ganddynt achosion o TB, yn enwedig os oes ganddynt bocedi gwahanol o dir y gellid eu datgan yn rhydd rhag TB neu sy'n rhydd rhag TB, i wneud hynny. Ond ydw, rwy'n sicr yn hapus i ymrwymo swyddogion i wneud hynny.