Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae nifer yr unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru gryn dipyn yn is pro rata nag yn Lloegr, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ffermwyr sydd â TB ar eu ffermydd werthu eu lloi er mwyn atal gorstocio ar eu ffermydd. Rwy'n meddwl tybed beth rydych yn bwriadu ei wneud, Weinidog, i annog sefydlu mwy o unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru, a hefyd a wnewch chi ymrwymo eich swyddogion i edrych ar symleiddio'r rheoliadau sydd ynghlwm wrthynt?