Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 29 Ionawr 2020.
Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n cofio, o'r blaen, fy mod wedi dathlu diwylliant perfformio cerddorol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd digwyddiad perfformio o'n talent cerddorol ysblennydd o Gymru, ac fe gasglodd torfeydd mawr o wahoddedigion ac aelodau o'r cyhoedd i glywed perfformwyr ifanc gorau Cymru. Roedd yn cynnwys cerddorion o wasanaeth cerdd Caerffili, Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Aber-carn, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gwasanaeth cerdd sirol Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â Catrin Finch, y delynores a'r cyfansoddwr o fri rhyngwladol. Pwrpas y digwyddiad oedd tynnu sylw at bwysigrwydd sylfaenol caniatáu i dalent gerddorol ifanc o Gymru ffynnu—a gweld y canlyniad.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n sosialydd ymroddedig. Yn y celfyddydau a'r sector creadigol, fel ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, credaf fod cyfiawnder naturiol yn mynnu cyfle cyfartal. Lle'n well i hynny ddigwydd nag wrth fanteisio ar gyfleoedd addysgol a diwylliannol, fel bod pob un o'n disgyblion, waeth beth yw incwm eu rhieni, yn gallu blodeuo a thyfu, boed o ran hyder neu lesiant neu sgiliau cerddorol datblygedig neu fynediad at lwybrau gyrfaol? Ni all neb warantu canlyniad cyfartal pan fydd plentyn yn codi offeryn cerdd neu gynnig tiwtora lleisiol. Fe wyddom hynny. Ond rhaid rhoi chwarae teg a chyfle cyfartal i ddysgu i bob plentyn yng Nghymru, waeth ble maent yn byw a waeth beth fo'u cyfoeth teuluol neu eu gallu.
Mae'r byd yn adnabod Cymru drwy ei chyfraniad unigryw i gerddoriaeth. Mae rheswm pam y cawn ein galw'n wlad y gân, fel y mae'r adroddiad a gomisiynais gan yr Athro Paul Carr yn amlinellu'n glir iawn. Nid oes amheuaeth fod y polisïau cyni a orfodwyd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU dros y degawd diwethaf wedi bygwth yn sylfaenol ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i fod yn Gymry ac i allu darganfod rhyfeddod y profiad o gyfranogi mewn cerddoriaeth.
Cyfarfûm â'r Gweinidog addysg, Kirsty Williams, yr wythnos diwethaf i drafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'u hastudiaeth ddichonoldeb o wasanaethau cerddoriaeth. Gwyddom fod hwn yn faes cymhleth iawn, ond mewn gwirionedd ceir rhai atebion syml iawn. Rwy'n argyhoeddedig o'r angen dwys a dybryd i Gymru ddatblygu strategaeth perfformio cerddoriaeth yng Nghymru a ategir gan gymorth ariannol cynaliadwy Llywodraeth Cymru a chynllun datblygu i dyfu a rhaeadru gwasanaethau cerddoriaeth o safon y gall plant ysgol eu defnyddio drwy Gymru gyfan mewn modd unffurf, cyson ac wedi'i gynllunio. Ni allwn ganiatáu i'r cyni ariannol a orfodir o Lundain, sydd heddiw'n effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau anstatudol wrth i awdurdodau lleol frwydro i ariannu gwasanaethau rheng flaen, amddifadu Cymru o'r hyn sy'n ein gwneud yn falch o fod yn Gymry.
Byddaf yn pwyso ar fy mhlaid i archwilio ac i ddarparu ymrwymiad yn ei maniffesto nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu galw ar wasanaethau cefnogi cerddoriaeth yng Nghymru i roi'r ddarpariaeth addysg offerynnol a lleisiol orau i'n plant. Mae addewid Llywodraeth Cymru heddiw—mai un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer Cymru Greadigol fydd mabwysiadu rôl arweiniol yn y gwaith o farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd drwy frand newydd Cymru Greadigol—yn dangos yr ewyllys yn llawn ynghyd â phwysigrwydd sylfaenol sicrhau bod gwreiddiau ein diwylliant creadigol Cymreig yn cael eu diogelu. Pa werth dangos blodyn hardd yn falch i'r byd os yw ei wreiddiau mewn perygl o farw'n araf?
Gwn y bydd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog, yn ymrwymo ar ei ran ei hun a'i swyddogion i archwilio pob ffordd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi aelodau ieuengaf cymunedau creadigol Cymru, a gwn y bydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n dilyn gwaith grŵp ymgynghori'r astudiaeth o addysg cerddoriaeth, a gyfarfu mor ddiweddar â ddoe, i archwilio effeithiolrwydd cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddorol. Mae'n rhaid ei gael, Ddirprwy Weinidog. A nawr yw'r amser. Os ydym yn gweld gwerth popeth sy'n gyfoethog yn ein treftadaeth ddigyffelyb a'n henw da byd-eang mewn cerddoriaeth, rhaid i ni weithredu.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad o £120,000 o gyllid ar gyfer ariannu lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Mae gweithredoedd fel y rhain yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff diwydiannau creadigol Cymru eu diogelu ac y byddant yn blodeuo ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf hefyd yn credu y bydd pob un ohonom yn y lle hwn yn cefnogi camau i gryfhau Cymru Greadigol ac yn yr un modd, ni allwn anwybyddu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gynnal a gwireddu ein gwir botensial cenedlaethol pwerus yn llawn.