Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n dymuno rhoi munud o'r amser a neilltuwyd i mi yn y ddadl hon i fy nghyd-Aelodau yn Llafur Cymru, Mick Antoniw AC a Mike Hedges AC. Ddirprwy Lywydd, mae hon yn ddadl amserol i'w chyflwyno i Siambr y Senedd, gan fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi lansio Cymru Greadigol yn ffurfiol i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn gefnogwr brwd i'r rhan y mae'r sector creadigol yn ei chwarae ym mywyd Cymru, gan ddyrchafu Cymru nid yn unig yn ariannol, ond yn bwysicach fyth, drwy gyfoethogi enaid ein dinasyddion a'n cenedl. Dywed yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw:
'Bydd Cymru Creadigol yn cynnig gwasanaeth mwy syml, deinamig ac arloesol i sector y diwydiannau creadigol, sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Rwy‘n bwriadu elwa ar y manteision a ddaw i'r sector o ddau gyfeiriad—yr economi a diwylliant.'
Bydd y camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru wrth lansio Cymru Greadigol felly yn cyflawni ymrwymiad maniffesto pwysig a wnaed gan Lafur Cymru yn 2016. Yng Nghymru, cawn ein cydnabod yn rhyngwladol heddiw fel grym cyffredinol ym maes cynhyrchu ffilm, drama a theledu. Mae sioeau a gynhyrchwyd yng Nghymru, megis Doctor Who, Sherlock a His Dark Materials, wedi cael cydnabyddiaeth ledled y byd. Mae blodeuo diwydiant sgrin Cymru wedi bod yn un o lwyddiannau mawr datganoli. Ers 1999, mae gwerth ychwanegol gros cynhyrchiant ffilm, fideo a rhaglenni teledu yng Nghymru wedi cynyddu o £59 miliwn i £187 miliwn, sy'n gynnydd o 217 y cant, gyda llawer mwy i ddod.
Mae'n iawn ein bod yn dathlu llwyddiannau'r sector hwn, yn aml mewn partneriaeth â chymorth Llywodraeth Cymru. Mae Y Gwyll/Hinterland ac Un Bore Mercher/Keeping Faith yn enghreifftiau o gynyrchiadau dwyieithog a wnaed ar gyfer S4C yn wreiddiol, ond sydd wedi llwyddo ymhell y tu hwnt i lwyfannau Cymru. Mae gwelededd cyffredinol pwysig o'r fath hefyd wedi rhoi amlygrwydd i'r Gymraeg i gynulleidfa fyd-eang. Wrth drafod teledu yng Nghymru, buaswn ar fai pe na bawn yn sôn am Gavin & Stacey—y rhaglen deledu dros y Nadolig a gafodd 17.4 miliwn o wylwyr, y nifer fwyaf yn y DU ers degawd—mae hyn yn unig wedi dod â miloedd o ymwelwyr yn haid i'r Barri bob blwyddyn i ymweld â rhai o leoliadau eiconig y rhaglen.
Mae'r economi greadigol yn dwyn manteision economaidd yn ei sgil, nid yn unig drwy wariant ar gynhyrchu, ond mewn sectorau eraill fel twristiaeth, sy'n helpu i ddenu ymwelwyr i Gymru. Mae'r diwydiannau creadigol yn hyrwyddo Cymru ledled y byd fel cyrchfan i ymweld ag ef, ac i fyw a gweithio ynddo. Rydym wedi adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer ein diwydiant sgrin yng Nghymru, ond mae potensial iddo ddod â hyd yn oed mwy o fudd economaidd. Nododd ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod prinder sgiliau posibl yn y diwydiant. Rhaid i Cymru Greadigol helpu i fynd i'r afael â hyn a hyrwyddo llwybrau gyrfaol clir ar gyfer talent o Gymru.
Felly, Weinidog, sut y gall Cymru Greadigol helpu ein pobl ifanc i gamu ymlaen mewn gyrfaoedd yn ein diwydiannau ffilm a theledu ffyniannus? Mae Doctor Who neu Sherlock yn llwyddiant i'r diwydiant yng Nghymru, ond yn aml caiff lleoliadau Cymreig eu defnyddio yn lle rhai yn Llundain neu rannau eraill o'r DU. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi cynyrchiadau o Cymru sy'n dathlu ein tirweddau gwych a'n diwylliannau ffyniannus. A all y Gweinidog egluro sut y bydd Cymru Greadigol yn cefnogi llwyfannau sy'n dathlu ein tirweddau prydferth a'n hunaniaeth?